Mis: Mehefin 2021
Tam
Un tro, roedd yna deyrnas ar ynys unig dan reolaeth dyn pwysig o’r enw Sir O.B. Gosododd was bach o’r enw Tam i ofalu am ei gwpwrdd ffisig. Er mwyn cael y ffisig roedd rhaid i bawb yn y deyrnas fihafio a chadw’r rheolau a wnaeth Tam a Sir O.B. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn gwrando ar y ddau. Ond un diwrnod, dan haul canol dydd, gwelwyd nad oedd Tam yn cadw’r rheolau. Roedd pobl y deyrnas wedi gwylltio. Roedden nhw wedi cadw’r rheolau ond doedd Tam ddim yn gwneud hynny. Gwnaeth y bobl restr o’r pethau drwg yr oedd Tam yn eu gwneud: torri ei reol ei hun, caru ar y slei, rhoi swydd ac arian am wneud ffisig i’w gariad newydd a’i theulu. Roedd y bobl yn mynnu bod Sir O.B. yn rhoi’r sac iddo ac yn ei anfon o’r deyrnas. Ond gwrthod gwneud hynny wnaeth Sir O.B. a dweud nad oedd Tam wedi gwneud dim o’i le. Roedd rhai pobl yn gweld hyn yn od gan ei fod (yn ôl un hen ffrind triw) wedi dweud pethau cas iawn am Tam cyn hynny. Daliodd y bobl i bwyso ar Sir O.B a dal i wrthod gwrando arnyn nhw wnaeth o. Roedd rhai pobl yn awgrymu na fedrai Sir O.B. ddweud y drefn wrth Tam am ei fod o’i hun wedi gwneud yr un pethau yn union! (Mae’n siŵr mai hen bobl gas oedd y rheiny!) Roedd Sir O.B. yn gobeithio y byddai pawb yn anghofio’r cyfan wedi iddo agor giât y cae pêl droed iddyn nhw. Ond doedd y bobl ddim isio anghofio. Penderfynodd Tam ddweud sori a rhoi goriadau’r cwpwrdd ffisig yn ôl i Sir O.B. a gadael i rywun arall wneud ei waith.
Dychmygol yw’r senario hon wrth gwrs. Ond pe byddai’n digwydd yn y byd go iawn gallwn ddychmygu na fyddai gan y gwas lawer i’w boeni o gyfeiriad y meistr. A hwnnw’n euog o’r un pethau a gwaeth, pam ddylai’r gwas ofni? Wrth feirniadu’r gwas byddai’r meistr yn ei feirniadu ei hun, a wnâi o byth mo hynny.
Mor wahanol yw teyrnas Dduw. Fedr gweision Duw ddim esgusodi eu beiau a’u pechodau trwy ddadlau bod eu Meistr mor euog â hwy. Mae eu Meistr a’u Harglwydd hwy yn gwbl ddieuog o unrhyw drosedd. Mae gweision Crist a phawb arall yn atebol i Dduw glân a pherffaith. ‘Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw … Bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ein hunain i Dduw … Rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist’ (Rhuf. 14:10, 12; 2 Cor. 5:10). A phryd hynny, ni chawn ein cymharu â phobl amherffaith eraill ac ni chawn ein mesur yn ôl y safonau sathredig y mae pobl wedi eu gosod iddynt eu hunain. Cawn ein mesur yn ôl cyfraith lân a pherffaith Duw. Ac yn ôl y gyfraith honno dyfernir pawb yn euog o fethu â charu Duw a chadw ei orchmynion.
Gellid tybio ei bod yn anobeithiol ar bawb ohonom fel troseddwyr euog gerbron Duw perffaith. Ond nid felly y mae o gwbl gan fod Crist nid yn unig yn Arglwydd ond yn Achubwr sy’n cuddio ac yn dileu beiau pwy bynnag sy’n ymddiried ynddo.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Mehefin, 2021.
Yn y canol
Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn cofio bod Sarah Green wedi bod yn ymgeisydd seneddol yma yn Arfon yn 2010 ac yn Ynys Môn cyn hynny yn 2005. Nos Iau, synnodd y Gymraes o Gorwen y Blaid Geidwadol a’i phlaid hi ei hun, y Democratiaid Rhyddfrydol trwy ennill yr isetholiad yn Chesham ac Amersham. Doedd neb yn Swydd Buckingham nac yn San Steffan nac yng ngweddill Lloegr yn disgwyl y fath fuddugoliaeth ysgubol. Ond i lawer yn Lloegr, cafwyd nos Wener ganlyniad mwy annisgwyl fyth wrth i dîm pêl droed yr Alban sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Saeson yn Wembley.
Am ddyddiau cyn y gêm cawsom ein byddaru gan sôn am gôl Paul Gasgcoine yn erbyn yr Albanwyr yn 1996. Roedd sylwedyddion Seisnig yn darogan buddugoliaeth rwydd i’w tîm. A chwarae teg iddyn nhw am fod yn gefnogol i’w tîm ac yn hyderus yn ei allu i ennill y gêm a hyd yn oed yr holl gystadleuaeth. Mae ganddyn nhw bob hawl a phob sail dros fod yn obeithiol o gofio doniau eu chwaraewyr a’r fantais amlwg sydd ganddynt o gael chwarae gartref yn Wembley.
Nid hyder y sylwedyddion yn eu tîm sy’n fy mlino a’m gwylltio y tro hwn fel ym mhob twrnamaint tebyg yw’r ffaith eu bod rywsut yn gosod eu tîm eu hunain yn ganolbwynt i’r cyfan. Nos Wener, er enghraifft, oedd y gêm fwyaf hyd yma. Siawns nad oedd y gêm rhwng Ffrainc a’r Almaen yr wythnos ddiwethaf yn llawer mwy! Sylwoch chi ar y ffordd yr oedden nhw’n sôn am y fraint oedd i’r Albanwyr gael chwarae yn Wembley? A sylwoch chi wedyn, os bydd canlyniadau’r gemau nesaf o blaid Cymru, mi gân nhw hefyd fynd i Wembley! Mae’n debyg mai meddwl y byddai’n haws i gefnogwyr Cymru fynd i Lundain oedden nhw, ond ddywedodd neb hynny.
Gofalwn nad ydym fel credinwyr yn debyg iddynt, yn ein gosod ein hunain yng nghanol popeth. Un arall sydd i gael y lle canolog. Yn yr eglwys ac yn ein bywydau personol, yr Arglwydd Iesu Grist yw hwnnw. Nid ein gwaith ni, nid ein henw da ni, nid ein nerth ni, nid yr hyn a wnawn ni, nid yr hyn yr ydym ni yn ei ddymuno sydd i ddod gyntaf, ond Iesu Grist ei hun. Ef sydd i gael y sylw; arno ef yr ydym i edrych; er ei fwyn ef yr ydym i fyw; ac iddo ef yr ydym i roi’r clod i gyd.
Ond mor rhwydd yw llithro i feddwl mai o’n hamgylch ni y mae popeth yn troi. Ac o wthio’r Iesu o’r neilltu a gosod ein gweithgaredd a’n lles ein hunain yn y canol, buan iawn y byddwn hefyd yn gwthio pobl eraill o’r neilltu ac yn gwneud eu hanghenion a’u lles yn eilradd. Gwyliwn rhag y duedd beryglus i feddwl mai ni sy’n bwysig, yn arbennig felly o fewn yr eglwys. A cheisiwn ras Duw i godi’n golygon uwchlaw ein hymdrechion a’n gweithgarwch, a hyd yn oed uwchlaw ein hanghenion ein hunain, a’u gosod yn hytrach ar Iesu Grist a’i anrhydedd. Boed yr Iesu yn y canol o hyd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Mehefin, 2021.
Bywyd yn werthfawr
Mae’n bum munud i saith nos Sadwrn a gêm bêl droed Cymru yn erbyn y Swistir wedi ei chwarae. Roedd y dasg o sgwennu’r golofn hon wedi ei rhoi heibio tan heno, ond o leiaf mi wyddwn mai am Ollie Robinson y byddwn yn sôn, wedi i’r cricedwr gael ei ddisgyblu gan yr ECB (Bwrdd Criced Lloegr a Chymru) am sylwadau a wnaeth ar Twitter wyth a naw mlynedd yn ôl. Caiff yr erthygl honno aros heb ei sgwennu wedi i mi gael gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn y gêm bêl droed rhwng Denmarc a’r Ffindir heno.
Ar ganol y gêm brawychwyd pawb oedd yn y stadiwm yn Copenhagen pan syrthiodd un o chwaraewyr amlycaf Denmarc, Christian Eriksen, ar ei hyd ar lawr ac y gorfu iddo dderbyn sylw brys y parafeddygon ar y cae cyn cael ei gludo i’r ysbyty. Am rai munudau brawychus, roedd yn amlwg bod y chwaraewyr a’r dyrfa a’r darlledwyr yn ofni’r gwaethaf. Gohiriwyd y gêm cyn i’r chwaraewr gael ei gario oddi ar y cae. O fewn yr awr, daeth y newydd da ei fod wedi dod ato’i hun a’i fod, yn iaith yr ysbyty, ‘yn sefydlog’. Yn gwbl annisgwyl, cyhoeddwyd y byddai’r gêm yn ail ddechrau wedi’r cyfan, a hynny yn ôl y sôn ar gais chwaraewyr y ddau dîm wedi iddynt gael eu sicrhau fod Christian Eriksen ‘yn iawn’. Wrth i mi sgwennu, mae’r chwarae wedi ail ddechrau a’r Ffindir newydd sgorio gôl, ond beth bynnag a ddigwydd dros yr hanner awr nesaf, eilradd fydd canlyniad y gêm i’r newydd da am adferiad Eriksen.
Am ychydig funudau daeth breuder bywyd yn realiti cignoeth i filoedd o bobl a wyliai’r gêm, ac yn arbennig felly i’r chwaraewyr a’r sylwebyddion radio a theledu. O flaen eu llygaid roedd pêl-droediwr cryf a ffit wedi ei daro’n wael, a’i fywyd i bob golwg yn y fantol. Trwy ymdrechion y staff meddygol a oedd wrth law i roi sylw iddo o fewn eiliadau ymddengys bod y chwaraewr wedi dod trwyddi. A diolch am hynny wrth reswm.
Ond heb os, yr oedd y digwyddiad yn atgoffa pawb a’i gwelodd o ba mor fregus yw bywyd pawb ohonom. Yng nghanol ein cryfder, gweiniaid ydym. Yng nghanol iechyd, mae afiechyd wrth law. Yng nghanol bywyd, nid yw marwolaeth fyth ymhell. O sylweddoli hynny, diolchwn am ein nerth a’n hiechyd a thrysorwn bob munud gan geisio cymorth Duw i werthfawrogi a gwneud y gorau o’i holl fendithion. Mae bywyd ei hun yn werthfawr ac i’w fwynhau i’r eithaf yn ofn Duw, heb gymryd nac un dydd nac un fendith yn ganiataol.
Ac o sylweddoli mor frau yw bywyd ac mor sydyn y gall popeth chwalu, diolch a wnawn ni gobeithio am neges gysurlon a gobeithiol Efengyl Iesu Grist sy’n ein sicrhau nad yr hyn a brofwn yn y byd a’r bywyd hwn yw swm a sylwedd y cyfan. Dros dro yn unig yr ydym yma, ond rhoddwyd i ni trwy Iesu Grist addewid am fywyd a fydd yn para byth: bywyd a wnaed yn bosibl trwy ei fuddugoliaeth ef.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Mehefin, 2021.
Rhannu bendithion
Bu bron i mi ei daflu. Mi fûm yn clirio (y mymryn lleiaf o) hen gylchgronau a phapurau’r dydd o’r blaen. Cyndyn fûm o wneud hynny erioed rhag ofn i mi wared â deunydd gwerthfawr. Ond gan fod y cylchgronau hyn yn dyddio o saithdegau ac wythdegau’r ganrif ddiwethaf a minnau prin wedi edrych arnyn nhw ers hynny mae’n anodd iawn cyfiawnhau eu cadw.
Ond cyn cael gwared â nhw roedd rhaid taro cipolwg drostyn nhw. A chredwch neu beidio, yn y cyntaf i mi ei agor roedd erthygl na fyddwn wedi dewis gwared â hi am unrhyw bris. Beth bynnag ddaw o weddill y cylchgronau mae’r erthygl hon (ynghyd ag ambell un arall) wedi ei rhoi o’r neilltu’n ddiogel.
Fel y digwydd, erthygl a gyhoeddwyd tua’r adeg y cefais f’ordeinio ym mis Mawrth 1979 yw hi. Ond doedd a wnelo hi ddim â’r ordeiniad er bod yr awdur yn yr oedfa ordeinio honno. Sôn am gyfarfodydd a gynhaliwyd rai wythnosau’n gynharach oedd yr erthygl ac mae’n rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn cofio a oeddwn i ynddyn nhw ai peidio. Ond os nad oeddwn yn yr union gyfarfodydd hynny, roedd yr erthygl yn f’atgoffa o nifer o rai tebyg y cefais y fraint o’u mynychu yn y cyfnod hwnnw.
Mae un frawddeg arbennig o’r erthygl yn werth ei dyfynnu. ‘Yn yr encilion mae’n arferiad gennym i rannu ein trafferthion, ond roedd yn beth dieithr – a braf – i rannu’r bendithion hefyd.’ Os oedd hyn yn wir nôl ym 1979, mae’n dal yn wir am gynifer ohonom ac am lawer o’n cyfarfodydd heddiw. Yn y byd sydd ohoni gyda’i anawsterau a’i dreialon mae’n naturiol ein bod yn rhannu ein trafferthion. Daw cysur o rannu beichiau ag eraill a gwybod y bydd brodyr a chwiorydd yng Nghrist yn gweddïo drosom ac yn gefn i ni trwy’r cyfan. Diolch i Dduw y medrwn rannu ac ymddiried yn ein gilydd, a phrofi eraill yn gymorth i ni.
Ond beth bynnag y trafferthion, y mae hefyd fendithion y medrwn ninnau eu cydnabod a’u rhannu. Fel yr erthygl, o bosibl ein bod ni hefyd yn cydnabod mai peth dieithr yw i ni wneud hynny. Rywsut, yr anawsterau sy’n tueddu i lenwi’r rhan fwyaf o’n sgyrsiau a’n gweddïau fel ei gilydd. Ond mor werthfawr yw cofio’r hyn a wnaeth Duw trosom yn Iesu Grist, ac atgoffa’n hunain o’r cyfan a gawn ganddo bob dydd. Mae Duw ei hun wrth gwrs yn dymuno i ni gydnabod ei gariad. Mae’n dda gwneud hynny er mwyn i ni ddyrchafu Duw yn ein calonnau. Ac mae’n llesol ei wneud er mwyn i ni glywed am y ffyrdd y mae Duw’n bendithio eraill. Ond am ein bod yn byw ym myd y trafferthion beunyddiol mae’n rhaid wrth ddoethineb a gras wrth rannu ag eraill, rhag i ni wneud hynny’n ymffrostgar ac yn ddi-feind o’u hamgylchiadau hwy. Rhannwn â’n gilydd fendithion a chysuron gan roi’r clod a’r diolch am y cyfan i’r Duw Mawr sy’n gynhaliaeth ac yn nerth ym mhob hawddfyd a drygfyd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Mehefin, 2021.