Rhannu bendithion

Bu bron i mi ei daflu.  Mi fûm yn clirio  (y mymryn lleiaf o) hen gylchgronau a phapurau’r dydd o’r blaen. Cyndyn fûm o wneud hynny erioed rhag ofn i mi wared â deunydd gwerthfawr. Ond gan fod y cylchgronau hyn yn dyddio o saithdegau ac wythdegau’r ganrif ddiwethaf a minnau prin wedi edrych arnyn nhw ers hynny mae’n  anodd iawn cyfiawnhau eu cadw.

Ond cyn cael gwared â nhw roedd rhaid taro cipolwg drostyn nhw. A chredwch neu beidio, yn y cyntaf i mi ei agor roedd erthygl na fyddwn wedi dewis gwared â hi am unrhyw bris. Beth bynnag ddaw o weddill y cylchgronau mae’r erthygl hon (ynghyd ag ambell un arall) wedi ei rhoi o’r neilltu’n ddiogel.

Fel y digwydd, erthygl a gyhoeddwyd tua’r adeg y cefais f’ordeinio ym mis Mawrth 1979 yw hi. Ond doedd a wnelo hi ddim â’r ordeiniad er bod yr awdur yn yr oedfa ordeinio honno.   Sôn am gyfarfodydd a gynhaliwyd rai wythnosau’n gynharach oedd yr erthygl ac mae’n rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn cofio a oeddwn i ynddyn nhw ai peidio. Ond os nad oeddwn yn yr union gyfarfodydd hynny, roedd yr erthygl yn f’atgoffa o nifer o rai tebyg y cefais y fraint o’u mynychu yn y cyfnod hwnnw.

Mae un frawddeg arbennig o’r erthygl yn werth ei dyfynnu.  ‘Yn yr encilion mae’n arferiad gennym i rannu ein trafferthion, ond roedd yn beth dieithr – a braf – i rannu’r bendithion hefyd.’ Os oedd hyn yn wir nôl ym 1979, mae’n dal yn wir am gynifer ohonom ac am lawer o’n cyfarfodydd heddiw. Yn y byd sydd ohoni gyda’i anawsterau a’i dreialon mae’n naturiol ein bod yn rhannu ein trafferthion. Daw cysur o rannu beichiau ag eraill a gwybod y bydd brodyr a chwiorydd yng Nghrist yn gweddïo drosom ac yn gefn i ni trwy’r cyfan.  Diolch i Dduw y medrwn rannu ac ymddiried yn ein gilydd, a phrofi eraill yn gymorth i ni.

Ond beth bynnag y trafferthion, y mae hefyd fendithion y medrwn ninnau eu cydnabod a’u rhannu. Fel yr erthygl, o bosibl ein bod ni hefyd yn cydnabod mai peth dieithr yw i ni wneud hynny. Rywsut, yr anawsterau sy’n tueddu i lenwi’r rhan fwyaf o’n sgyrsiau a’n gweddïau fel ei gilydd. Ond mor werthfawr yw cofio’r hyn a wnaeth Duw trosom yn Iesu Grist, ac atgoffa’n hunain o’r cyfan a gawn ganddo bob dydd. Mae Duw ei hun wrth gwrs yn dymuno i ni gydnabod ei gariad. Mae’n dda gwneud hynny er mwyn i ni ddyrchafu Duw yn ein calonnau. Ac mae’n llesol ei wneud er mwyn i ni glywed am y ffyrdd y mae Duw’n  bendithio eraill. Ond am ein bod yn byw ym myd y trafferthion beunyddiol mae’n rhaid wrth ddoethineb a gras wrth rannu ag eraill, rhag i ni wneud hynny’n ymffrostgar ac yn ddi-feind o’u hamgylchiadau hwy. Rhannwn â’n gilydd fendithion a chysuron gan roi’r clod a’r diolch am y cyfan i’r Duw Mawr sy’n gynhaliaeth ac yn nerth ym mhob hawddfyd a drygfyd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Mehefin, 2021.