Tam

Un tro, roedd yna deyrnas ar ynys unig dan reolaeth dyn pwysig o’r enw Sir O.B. Gosododd was bach o’r enw Tam i ofalu am ei gwpwrdd ffisig. Er mwyn cael y ffisig roedd rhaid i bawb yn y deyrnas fihafio a chadw’r rheolau a wnaeth Tam a Sir O.B. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn gwrando ar y ddau.  Ond un diwrnod, dan haul canol dydd, gwelwyd nad oedd Tam yn cadw’r rheolau. Roedd pobl y deyrnas wedi gwylltio. Roedden nhw wedi cadw’r rheolau ond doedd Tam ddim yn gwneud hynny. Gwnaeth y bobl restr o’r pethau drwg yr oedd Tam yn eu gwneud:  torri ei reol ei hun, caru ar y slei, rhoi swydd ac arian am wneud ffisig i’w gariad newydd a’i theulu. Roedd y bobl yn mynnu bod Sir O.B. yn rhoi’r sac iddo ac yn ei anfon o’r deyrnas. Ond gwrthod gwneud hynny wnaeth Sir O.B. a dweud nad oedd Tam wedi gwneud dim o’i le. Roedd rhai pobl yn gweld hyn yn od gan ei fod (yn ôl un hen ffrind triw) wedi dweud pethau cas iawn am Tam cyn hynny. Daliodd y bobl i bwyso ar Sir O.B a dal i wrthod gwrando arnyn nhw wnaeth o. Roedd rhai pobl yn awgrymu na fedrai Sir O.B. ddweud y drefn wrth Tam am ei fod o’i hun wedi gwneud yr un pethau yn union! (Mae’n siŵr mai hen bobl gas oedd y rheiny!) Roedd Sir O.B. yn gobeithio y byddai pawb yn anghofio’r cyfan wedi iddo agor giât y cae pêl droed iddyn nhw. Ond doedd y bobl ddim isio anghofio. Penderfynodd Tam ddweud sori a rhoi goriadau’r cwpwrdd ffisig yn ôl i Sir O.B. a gadael i rywun arall wneud ei waith.

Dychmygol yw’r senario hon wrth gwrs. Ond pe byddai’n digwydd yn y byd go iawn gallwn ddychmygu na fyddai gan y gwas lawer i’w boeni o gyfeiriad y meistr. A hwnnw’n euog o’r un pethau a gwaeth, pam ddylai’r gwas ofni?  Wrth feirniadu’r gwas byddai’r meistr yn ei feirniadu ei hun, a wnâi o byth mo hynny.

Mor wahanol yw teyrnas Dduw.  Fedr gweision Duw ddim esgusodi eu beiau a’u pechodau trwy ddadlau bod eu Meistr mor euog â hwy. Mae eu Meistr a’u Harglwydd hwy yn gwbl ddieuog o unrhyw drosedd. Mae gweision Crist a phawb arall yn atebol i Dduw glân a pherffaith.  ‘Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw … Bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ein hunain i Dduw … Rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist’ (Rhuf. 14:10, 12; 2 Cor. 5:10).  A phryd hynny, ni chawn ein cymharu â phobl amherffaith eraill ac ni chawn ein mesur yn ôl y safonau  sathredig y mae pobl wedi eu gosod iddynt eu hunain. Cawn ein mesur yn ôl cyfraith lân a pherffaith Duw.  Ac yn ôl y gyfraith honno dyfernir pawb yn euog o fethu â charu Duw a chadw ei orchmynion.

Gellid tybio ei bod yn anobeithiol ar bawb ohonom fel troseddwyr euog gerbron Duw perffaith. Ond nid felly y mae o gwbl gan fod Crist nid yn unig yn Arglwydd ond yn Achubwr sy’n cuddio ac yn dileu beiau pwy bynnag sy’n ymddiried ynddo. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Mehefin, 2021.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s