
Nid tylluanod Williams Parry a glywyd o Lwyncoed Cwm-y-glo ers misoedd ond pob pob math o beiriannau trymion yn adeiladu cylchfan newydd. Mae’r goleuadau traffig wedi bod yn boen ers cyn y Nadolig, ond mae bellach obaith fod y gwaith ar ddarfod ac y cawn yn fuan lôn glir. Mor braf fydd cychwyn o Lanberis a gwybod y byddwn yn Llwyncoed ymhen pum munud.
Lôn glir ddeudis i? Ganol wythnos, daeth acw bamffledyn lliwgar oddi wrth y nationalgrid i’n hysbysu bod y cwmni hwn am ail osod y ceblau o’r Orsaf Bŵer yn y Chwarel i Bentir. A’r newyddion syfrdanol yw bod y ceblau i’w gosod dan ffordd osgoi Llanberis a’r lôn o Lanberis i Gwm-y-glo, ac o Llwyncoed i orsaf drydan Pentir. Bydd y gwaith ar y lonydd yn cychwyn fis Hydref eleni ac yn dod i ben erbyn mis Hydref 2025. Pedair blynedd gyfan! Pedair blynedd arall o oleuadau traffig a thagfeydd. Heb air o gelwydd, roeddwn yn gwbl benisel weddill y dydd wedi darllen y daflen. Pedair blynedd! Cyn bo hir mi fydd pobl Dyffryn Peris yn siarad yn hiraethus am ddyddiau da 2021 a thagfeydd ysgafn cyfnod adeiladu’r gylchfan!
Weithiau, gall ymddangos fod popeth yn ein herbyn, gydag un ergyd yn dilyn y llall. Ac mae’r ‘weithiau’ fel petai’n ddiddiwedd a pharhaol. Dyna f’ofn o weld ar y daflen y geiriau hyn: ‘Bydd angen defnyddio dulliau rheoli traffig, fel goleuadau dros dro, weithiau’. Os oes angen tyllu ffos droedfeddi o ddyfnder yr holl ffordd o Lanberis i Gwm-y-glo a Phentir mae’r ‘weithiau’ hwn yn debygol o fod yn aml iawn os nad yn barhaol. Mae’r ffaith fod pedair blynedd o waith ar y lonydd yn fwy na digon o awgrym o’r trafferthion sydd i ddod. Ac mae’n anodd iawn meddwl y gall nationalgrid na neb arall leddfu’r pryder y mae trigolion y fro hon yn ei deimlo o glywed am y gwaith.
A phan fo popeth yn ein herbyn a’r byd a bywyd a phobl hyd yn oed yn ein siomi mae’n anodd canfod cysur. Pan nad oes unrhyw olwg o ddiwedd i’n trafferthion mae’n anodd meddwl y gall dim na neb leddfu ein hofnau. Mor rhwydd y try blinderau’r ‘weithiau’ yn ofidiau tywyll na allwn ddychmygu eu diwedd. Ac eto, onid neges y Beibl yw y gellir ymddiried yn yr Arglwydd trwy’r cyfan? Oni ddywed y Salmau bod modd pwyso ar Dduw pan yw popeth yn mynd o chwith a gofidiau’n ein llethu? ‘Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo’n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid. Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd, a chofio am dy ryfeddodau gynt. Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd’ (Salm 77:2, 11-12). Ym mhob gofid, cysur y Salmydd oedd yr hyn a wnaethai Duw dros ei bobl, o’i gariad. Ac ym mhob blinder, cysur y Cristion yw’r hyn a wnaeth Duw trosom trwy ei Fab Iesu Grist. Y rhyfeddod yw bod ei gariad a’i ras yn ein cynnal trwy’r gofidiau i gyd ac yn ein galluogi i bwyso arno hyd yn oed pan fo popeth o’i le.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Gorffennaf, 2021.