Nac anghofia

Ar y chwith: Y ddau adeilad a ddymchwelwyd ym Mangor

Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod i’w gofio ym Mangor gydag ail agor y rhan o’r Stryd Fawr a gaewyd i draffig ers mis Rhagfyr 2019.  Newydd da yn wir i berchnogion busnesau a thrigolion fel ei gilydd. Ond os na fuoch ar gyfyl y rhan honno o’r ddinas yn ddiweddar mae’n debyg eich bod wedi anghofio am yr anghyfleuster y bu raid iddynt ei ddioddef ers deunaw mis.

Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod da hefyd i bobl a fethodd â phrynu ffôn neu gyfrifiadur neu ddodrefn o Ikea a sawl peth arall ers mis Mawrth. Os oedd ceir a loris yn hwylio heibio i siopau a chaffis ym Mangor roedd llong enfawr yn codi angor yng Nghamlas Suez er mwyn ail gychwyn ei mordaith i Rotterdam a Felixstowe. Mae tri mis ers i’r Evergiven gael ei rhyddhau wedi iddi lwyddo i gau’r Gamlas am wythnos, ond rhwystrwyd hi rhag gadael y Suez nes y byddai ei pherchnogion ac awdurdodau’r Gamlas wedi cytuno ar delerau iawndal. Wedi’r sylw mawr a gafodd yr Evergiven ar y pryd, prin y clywyd amdani ers hynny.

Heb iddynt effeithio’n uniongyrchol arnom ni, buan yr anghofiwn bethau a digwyddiadau a hawliodd ein sylw am gyfnod. Gall helyntion a dioddefiadau pobl fynd yn angof.  Ac mae hyd yn oed ein cof am bobl yn medru pallu’n gynharach nag a ddymunem. Braf yw cofio nad yw ein Duw’n anghofio, ond bod popeth amdanom yn hysbys iddo. Nid aeth, ac nid â’r un peth amdanom yn angof iddo Ef.

Un o wirioneddau sylfaenol y Ffydd yw bod Duw’n cofio amdanom. Mae hynny’n amlwg yn Llyfr Exodus: ‘Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob’ (Ex. 2:24). Fel y dywed Duw trwy’r proffwyd Eseia, ‘Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di’ (Es. 49:15). Er pob gwrthryfel yn ei erbyn mae Duw’n cofio’i bobl gan eu caru a’u trin â gras a thrugaredd. Coron y cofio hwn oedd dyfodiad Iesu Grist i’r byd i gyflawni ei waith achubol.

Meddai Ioan, ‘Yr ydym ni’n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni’ (1 Ioan 4:19). Yn yr un modd, yr ydym ni’n cofio am iddo ef yn gyntaf ein cofio ni. Ond mor rhwydd yw anghofio’r hyn a wnaeth Duw trosom. A thrwy hynny anghofio nid yn unig y ddyletswydd  i garu Duw ond i garu ein gilydd. Gwybod fod Duw wedi’n cofio a’n caru sy’n ein cymell i gofio eraill a’u caru. Ond rywsut, o anghofio cariad Duw buan yr oera ein cariad at eraill. Buan iawn y collwn olwg ar anghenion pobl a’u trafferthion.

Peth dieithr i’r Apostol Pau oedd y fath anghofrwydd. ‘Nid wyf fi’, meddai, ‘wedi peidio â diolch amdanoch, gan eich galw i gof yn fy ngweddïau’ (Eff. 1:16); ac ‘nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch’ (Col.1:9). Boed i Dduw ein nerthu i’w garu Ef, a charu’n gilydd gan gofio bob amser anghenion y naill a’r llall. A thrwy ei ras na foed i amser nac absenoldeb na phellter beri i ni anghofio.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Gorffennaf, 2021.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s