Mis: Medi 2021
Bod yn ddoeth
Gwell cyffesu ar y cychwyn, rhag i mi awgrymu dim yn wahanol, fy mod mor euog á neb arall.
Ers wythnosau, mae prinder gyrwyr lori wedi achosi trafferthion i siopau a busnesau. Clywyd darogan prinder bwyd a theganau at y Nadolig. Bu cryn sôn am y cynnydd ym mhris nwy. A chodwyd pryderon ynghylch y gaeaf caled a all fod o’n blaen ar sawl cyfrif. Daethom o bosibl yn ddigon cyfarwydd á silffoedd gwag ambell siop i beidio á mynd i banig, gan sylweddoli bod yna ddigon o fwyd ar gael hyd yn oed os nad oes cymaint o ddewis ag arfer. Ond fore Gwener plannwyd ym meddyliau pobl yr ofn y byddai tanwydd yn brin o fewn dim o dro, a chaed rhuthr mawr i’r gorsafoedd petrol a phawb am lenwi tanc y car cyn gynted á phosibl. Yr un fu’r stori yn lleol fel yng ngweddill y wlad a gwledydd eraill Prydain. A hyn oll er bod y cwmnïau tanwydd yn ein sicrhau nad oes brinder o gwbl. Ac fel yr awgrymais yn barod, bum innau’n euog o fynd fore Gwener i wneud fy rhan fach i o brysuro’r argyfwng.
Go brin fod ar y rhan fwyaf ohonom a lanwodd danciau ein ceir ddiwedd yr wythnos angen yr holl danwydd ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mi fyddem i gyd yn cyfiawnhau’r rhuthr i brynu trwy ddweud mai bod yn ddoeth yr oeddem. Does neb ohonom am fod heb danwydd, siŵr iawn! Ond tybed faint ohonom a fodlonodd ar brynu ychydig neu ddigon er sicrhau bod digon ar ôl i bawb arall? Yn euog braidd y dois i adref, er gwybod i mi wneud yn gall.
Doedd dim euogrwydd ynghlwm wrth fodlonrwydd a challineb y pum geneth a lanwodd eu lampau ag olew ar gyfer y briodas yn un o ddamhegion Iesu Grist (Mathew 25:1-13). Nid nhw oedd ar fai am y prinder olew yn lampau’r pum geneth arall. A does gan yr Iesu ddim ond clod iddynt am ofalu bod eu lampau’n llawn fel y gallent aros am ddyfodiad y priodfab a bod yn barod ar gyfer y wledd briodas. Collodd y pum geneth arall y briodas am iddynt orfod mynd i brynu olew a methu á dod nôl mewn pryd.
Am ‘deyrnas nefoedd’ y mae’r ddameg hon yn sôn, a chyngor Iesu ar y diwedd yw: ‘Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na’r dydd na’r awr’ (25:13). Bod yn ddoeth yw bod yn barod ar gyfer y ‘dydd a’r awr’ sydd i ddod, er na ŵyr neb pryd y daw. Ond pa ddydd ac awr? Mae cyd-destun y ddameg yn Efengyl Mathew yn dangos yn gwbl eglur mai at ddydd Ailddyfodiad Iesu Grist a Dydd Barn y cyfeirir yma. A neges y ddameg yw bod angen bod yn barod ar gyfer y Dydd hwnnw. Bod yn gall ydi troi at yr Arglwydd Iesu Grist ac ymddiried ynddo i’n gwneud yn barod ar gyfer wynebu Duw a’i farn gyfiawn yn Nydd y Farn. Mae’r dydd ofnadwy hwnnw’n wynebu pawb, beth bynnag eu cred neu ddiffyg cred. Addewid yr Efengyl yw y bydd Crist yn achubydd i bawb a gredodd ynddo, ac yn ’ateb yn eu lle’. Bod yn gall ydi credu ynddo.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Medi 2021
Cri’r mud
Dr No oedd y gyntaf a No Time To Die fydd y ddiweddaraf a phumed ffilm ar hugain James Bond. Mae bron i 60 mlynedd ers rhyddhau’r ffilm gyntaf a sawl actor wedi portreadu 007 ers 1962 ond yr un i bob pwrpas yw’r cymeriad a fformiwla’r gyfres. Un elfen gyson o’r gyfres fu’r gwahanol ddyfeisiadau a roddwyd i Bond ar gyfer ei waith. Daethant yn fwy a mwy soffistigedig dros y blynyddoedd.
Yr offer cyntaf a ddefnyddiodd Bond yn Dr No oedd mesurydd ymbelydredd. Nid bod hwnnw’n newydd ar y pryd chwaith: roedd mesurydd o’r fath ar gael ers y dauddegau. Ac yn Dr No hefyd, defnyddir set radio enfawr gan un wraig i gysylltu â’i chydweithwyr yn y gwasanaethau cudd. Yn amlwg, doedd ffôn clyfar a chyfathrebu digidol ddim ar gael hyd yn oed ym myd James Bond ym 1962! Ond buan y daeth y ffilmiau â phethau fel ffôn llun i’n sylw, er na fyddem wedi dychmygu y deuent yn y man yn gwbl gyfarwydd i ni.
Mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl roedd arnom angen adnoddau drudfawr mewn swyddfa neu stiwdio neu goleg er mwyn cynnal trafodaeth â phobl a welem ar sgrin. Pwy feddyliai y deuai Zoom â’r dechnoleg honno i filiynau o gartrefi dros nos? Ond er pob defnydd a wnaed o Zoom, dal i anghofio agor y meicroffon cyn dechrau siarad a wna’r gorau ohonom ar brydiau, a hynny’n codi gwên ac yn ysgafnhau’r trymaf o bwyllgorau. Daeth ‘Da chi ar mute!’ yn rhan o’n geirfa.
Yn rhy aml o lawer hefyd, rwy’n fud gerbron Duw. O na fyddai dechrau gweddïo mor syml ag agor meicroffon! Am lu o resymau ac mewn amrywiol amgylchiadau mae gweddïo’n anodd os nad amhosibl. Ac er pob cymorth a chanllaw sy’n ein cymell i weddïo dros hyn ac arall, does yna’r un ddyfais na thechneg wyrthiol a fedr ein cadw ar ein gliniau a gwneud i’r geiriau lifo. Ymhlith pethau eraill gall blinder, ofn, pryder, tristwch, dryswch, dicter, galar, amheuaeth ac euogrwydd llethol fygu gweddi, ac er pob awydd i alw ar Dduw ddaw’r geiriau ddim. Bron nad oes dim i’w wneud ond llonyddu a bodloni ar fod yn fud. Ond ar adegau felly, yr un peth arall y medraf ei wneud yw diolch nad yw’r Arglwydd yn mynnu gweiddi ‘Mi wyt ar mute!’
Mae’r Brenin Mawr yn awyddus i’w blant alw arno. Mae’n ein hannog i godi llef a gweddïo. Wrth gwrs ei fod! Ond mae hefyd yn ymwybodol o’n trafferthion. A’r cysur mwyaf yw ei fod yn clywed ein cri er ein mudandod, ac yn y mudandod hwnnw hyd yn oed. Mae’n deall pob meddwl ac yn nabod pob calon, a phan yw llwybr gweddi’n anodd mae Gwrandäwr gweddïau’r gwan yn gwybod y cyfan y dymunwn ei ddweud. Gŵyr beth a geisiwn er i ni fethu â dweud wrtho: ‘y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion’ (Mathew 6:8). Diolch nad yw’r Duw trugarog bob amser yn gweiddi arnom i alw arno ond yn gadael i ni weithiau fod yn llonydd a mud o’i flaen.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Medi 2021
Yr un mesur
Dros y misoedd diwethaf daeth criced yn fwy hygyrch i filoedd o bobl. Ers blynyddoedd, cymharol ychydig o sylw a roddwyd i’r gêm yng ngwledydd Prydain ers iddi gael ei llyncu gan deledu Sky a’i debyg. Ond wrth i griced ddychwelyd i deledu daearol eleni mae’n debyg bod mwy o ddiddordeb yn y gamp nag ers tro. Er gwaetha’r arian a dywalltodd y sianelau teledu talu i goffrau’r sefydliadau sy’n rheoli criced mae llawer o garwyr y gêm yn falch o’i gweld yn camu nôl i’r byd mawr.
A thros y misoedd diwethaf hefyd daeth yr Efengyl i sylw mwy nag arfer o bobl oherwydd y defnydd a wnaed gan yr eglwysi o’r we a’r cyfryngau cymdeithasol. Duw yn unig a ŵyr beth yn union fu a beth fydd gwir ganlyniad hynny, ond mae’n amlwg fod yna ragor o gyfleodd i bobl glywed y newyddion da am Iesu Grist os yw’r Efengyl yn cael ei chyhoeddi trwy’r cyfryngau hyn. Ac wrth i’r oedfaon ddychwelyd i’r capeli bydd eglwysi’n awyddus i barhau eu tystiolaeth yn ‘gyhoeddus’ yn ogystal ag o fewn eu hadeiladau. Fel dywed yr Arglwydd Iesu Grist ei hun, nid trysor i’w gladdu na goleuni i’w guddio yw’r newyddion da am deyrnas Dduw. Ymddiriedwyd yr Efengyl i ofal y rhai sy’n ei chredu er mwyn iddynt ddod â hi i sylw’r byd.
Roedd gêm brawf olaf y gyfres rhwng timau criced Lloegr ac India i fod i ddechrau ym Manceinion fore Gwener. Ond cwta ddwy awr cyn yr amser cychwyn gohiriwyd y gêm am fod sawl aelod o staff cefnogol tîm India wedi eu taro gan Covid. Er bod hynny’n siom i bawb a fu’n disgwyl yn eiddgar am y gêm roedd y mwyafrif yn deall nad oedd dewis ond gohirio. Ond roedd ambell un yn feirniadol ac yn awgrymu y dylai’r gêm fynd yn ei blaen gan fod y chwaraewyr yn iach. Roedd ambell un mwy beirniadol yn cyhuddo carfan India o wneud tro sâl â thîm Lloegr a’i gefnogwyr trwy ohirio. Buan iawn yr anghofiodd rhai (ond nid pob un, rhaid cydnabod) mai gohirio gemau a dychwelyd o Dde Affrica a wnaeth tîm Lloegr ddiwedd y llynedd mewn amgylchiadau digon tebyg i’r hyn a welwyd ddydd Gwener.
Cyn-gapten Lloegr, Michael Vaughan, oedd un o’r rhai a soniodd am y tro sâl a wnaed â’i gyd-wladwyr ddydd Gwener. Ond a bod yn deg ag o, mi ychwanegodd ar unwaith fod Lloegr wedi gwneud tro sâl â chefnogwyr De Affrica’r llynedd. A rhaid ei edmygu am hynny ac am iddo ddefnyddio’r un llinyn mesur ar gyfer y ddwy sefyllfa. Dywed y Bregeth ar y Mynydd mai ‘fel y byddwch chwi’n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â’r mesur a rowch y rhoir i chwithau’ (Math. 7:2). Gwyliwn rhag y perygl o fesur eraill yn ôl safonau llymach o lawer nag y mesurwn ein hunain wrthynt. Gwelai Iesu Grist mor dueddol o wneud hynny oedd pobl, a rhybuddiai ei ddilynwyr rhag bod felly. Mae’n ein rhybuddio ninnau rhag gweld y beiau lleiaf ym mhawb arall a methu â gweld pethau llawer gwaeth ynom ein hunain.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Medi 2021
Dal ati
Un o’r tasgau cyntaf sy’n f’aros wedi gwyliau’r haf yw ail afael yn Gronyn. Wrth weld lluoedd Prydain a’r Unol Daleithiau’n gadael Affganistan wedi bron i ugain mlynedd o ryfela yn dilyn yr ymosodiad ar ddau dŵr Canolfan Fasnach y Byd ar 11 Medi 2001, caf f’atgoffa mai ar ddechrau’r mis hwnnw y dechreuwyd cyhoeddi Gronyn yn wythnosol. Yn union fel yr wyf fi (a chithau o bosib) yn cofio ble oeddwn pan glywais am gyflafan y Ddau Dŵr, rwyf hefyd yn cofio mai dyna destun trydydd rhifyn Gronyn y Sul wedi’r digwyddiad dychrynllyd.
Mae ail gydio yn Gronyn fel ail danio car neu beiriant a fu’n segur am sbel. Neu, fel ail osod cerbyd ar gledrau. Ym mhentref amgueddfaol Blist’s Hill yn Ironbridge y dydd o’r blaen y gwelais yr hen gerbyd rheilffordd sydd yn y llun uchod. Dychmygwch yr ymdrech y byddai ei hangen a’r antur a’r cyffro o gael hwn yn ôl ar y cledrau unwaith eto. Wedi gweld ar ochr y cerbyd y geiriau, Gospel Car & Sunday School, fe’m trawodd mai’r her i mi, ac i Gronyn ar ddechrau Medi arall yw gosod cerbyd yr Efengyl yn ôl ar y cledrau. A dyna’r her sy’n wynebu’r Eglwys o’r newydd bob dydd.
Mae Blist’s Hill ac Ironbridge yn llawn o ryfeddodau sy’n dangos mawredd hen ddiwydiannau’r ceunant hwn yn Swydd Amwythig. Ond i mi, yr hen gerbyd hwn oedd un o’r pethau mwyaf diddorol a dychmygwn yr Ysgol Sul symudol yn ymweld â phentrefi ar lwybr y rheilffordd a phlant a phobl o bob oed yn clywed y newydd da am Iesu Grist. Ond o bosib nad oedd y darlun o genhadaeth ar gledrau’n gwbl gywir. Mae’n debyg mai hanner isaf cerbyd tram deulawr a wnaed yn 1908 oedd hwn a’i fod, wedi gorffen ei oes ar dramffordd Wolverhampton, wedi ei addasu yn 1928 yn gartref i Ysgol Sul yn Erdington dan nawdd eglwys People’s Hall yn Bridgnorth. Mae’n dda gweld bod yr eglwys honno’n parhau’n weithgar heddiw.
Beth bynnag union hanes y cerbyd, mae’n f’atgoffa o ddau beth o leiaf. Yn gyntaf, hen neges sydd gennym i’w chofleidio yn Efengyl Iesu Grist: hen neges a wefreiddiodd bobl ar hyd y cenedlaethau am Grist a’i gariad. Ac yn ail, hen neges yw hi a ysgogodd y bobl a’i credodd ym mhob oes i chwilio am ffyrdd newydd ac addas i’w chyhoeddi a’i rhannu. Gallaf ddychmygu bod yr hen gerbyd ugain oed hwn yn 1928 lawer mwy deniadol a chysurus nag ydyw heddiw, a bod rhywrai wedi gweld ei botensial fel cartref hwylus i genhadaeth eu Hysgol Sul genhadol.
Am ennyd fach, dychmygwn fy hun yn adfer y cerbyd ar gyfer cenhadaeth symudol, cyn sylweddoli mai ofer fyddai hynny yn niffyg cledrau yn y rhan hon o Gymru! Ond erys y cerbyd yn ysgogiad i mi ac i Gronyn ddal ati i rannu’r Efengyl ac i ddefnyddio pob cyfrwng neu gerbyd posib – hen a newydd – i wneud hynny.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 5 Medi 2021.