Caiff diemwnt 34-carat ei werthu mewn ocsiwn yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ymhen y mis. Fe’i prynwyd mewn sêl cist car, a neb yn sylweddoli ei fod yn ddiemwnt go iawn. Bu bron i’r wraig a’i prynodd ei daflu i’r bin yn ddiweddar, ond fe’i perswadiwyd i fynd ag o i’w brisio; a sioc enfawr iddi hi a phawb arall oedd deall ei fod werth dros ddwy filiwn o bunnoedd.
Os yw’r bobl a werthodd y diemwnt iddi ar dir y byw ac wedi clywed y stori mae’n siŵr eu bod yn ysu am gael troi’r cloc yn ôl. Ond yn wahanol i’r hyn a wnaethom cyn noswylio neithiwr ni fyddai hynny’n bosibl. Duw yn unig a ŵyr am yr holl bobl eraill a waredodd yn ddiarwybod â gwahanol drysorau. Wrth glywed straeon o’r fath byddaf yn cydymdeimlo â’r gwerthwyr druan. Be wnaem ni pe byddem yn darllen y stori ac yn sylweddoli mai ni a werthodd y peth am y nesa peth i ddim?
Mae cymaint na allwn ei ddadwneud: pethau a wnaethom y byddai’n dda gennym pe na fyddem wedi eu gwneud, a phethau na wnaethom y rhoem y byd am fod wedi eu gwneud. Ond fel amser ei hun, does dim modd galw’r pethau hynny’n ôl. Does yna gynifer o bethau y carem eu gwneud yn wahanol ac yn well pe byddem ond yn cael yr un awr hon bob hydref y mae’r clociau’n mynd nôl? Ond waeth heb â meddwl am y peth, oherwydd yn nhrefn berffaith y Duw a greodd amser un waith yn unig y gwelwn bob eiliad. Deall hynny a’n gwna ni’n benderfynol o fwynhau pob eiliad, gwneud y gorau o bob munud a chysegru pob eiliad i’n Harglwydd.
Ac eto, mae Duw’n rhoi i ni ail gyfle, nid i ail fyw profiadau nac i ddileu camgymeriadau ond i ddechrau o’r newydd. Rhoi ail gyfle a wna Duw trwy roi i bobl fywyd newydd trwy ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Mae yn yr Efengyl wahoddiad i gyffesu bai a derbyn maddeuant llawn. Ni olyga hynny ddadwneud na dileu effeithiau ein pechodau, ond y mae Duw yn ei drugaredd yn dileu euogrwydd pwy bynnag sy’n ymddiried yn Iesu Grist gan gredu iddo gymryd eu cosb yn eu lle ar Galfaria. Ac ynghlwm wrth y maddeuant hwnnw mae’r alwad i fyw yn wahanol ac yn well trwy gymorth Duw.
Ie, pobl yr ail gyfle yw Cristnogion am iddynt gael eu geni o’r newydd i’r bywyd o adnabod a dilyn Iesu Grist, ac am fod trugaredd Duw’n golygu bod iddynt bob dydd gyfle i gyffesu bai a cheisio cymorth i fod yn fwy ffyddlon i’w orchmynion a’i alwad. Yn hyn o beth, pobl sy’n gwbl ddibynnol ar Dduw ydynt. Mae’r sylweddoliad na ellir dadwneud na gair na gweithred yn eu cymell i geisio gras i ddweud a gwneud popeth er clod i Dduw. Ac er i’r ceisio hwnnw fod, yn amlach na heb, yn brin o’r hyn y mae Duw’n ei ddymuno oddi wrthynt, y mae Duw yn ei dosturi yn maddau hynny hefyd. Ac mae’r maddeuant hwnnw’n fwy gwerthfawr na’r diemwnt drutaf.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Hydref 2021