Gallwch ddisgwyl meddan nhw am hydoedd am fws cyn i ddau neu dri ddod efo’i gilydd. Mae arna’i ofn mai tebyg iawn yw perthynas Gronyn a Mr Johnson gan mai gyda Phrif Weinidog San Steffan y cychwynnaf heddiw fel y Sul diwethaf. Ond ble mae dechrau?
Wythnos i heddiw, aeth Mr Johnson i weld Peppa Pinc, a thrannoeth cafodd Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain adroddiad am yr ymweliad. Am y tro, dweud dim fyddai orau am y ffars o hyrwyddo’r ddelwedd o’r ffŵl annwyl trwy smalio colli ei le yn ei nodiadau (o bosib er mwyn tynnu sylw oddi ar fethiannau a phroblemau’r Llywodraeth). I mi, y gwaethaf am ei araith oedd yr hyn a ddywedodd wrth drafod deg elfen ei gynllun ar gyfer gweithredu er budd yr amgylchedd. Daeth y deg elfen ato, meddai, ar Fynydd Sinai, yn ‘ddeg gorchymyn newydd’. Nid ef yw’r cyntaf i sôn am beth felly; cafwyd sawl enghraifft o ‘ddeg gorchymyn’ ar gyfer gêm neu gymdeithas neu ysgol ymysg pethau eraill. Ond dyma’r tro cyntaf i mi glywed neb yn dweud ei fod wedi eu derbyn ‘ar [Fynydd] Sinai’. Yn amlwg, nid yw’n ddigon bellach i Mr Johnson fod fel ei arwr Churchill; mae am fod fel Moses yn derbyn ei bolisïau oddi wrth Dduw. Galwch fi’n hen ffasiwn ac yn gul; ond i mi, y mae yna rywbeth aflednais yn y syniad o ‘ddeg gorchymyn’ heblaw Deg Gorchymyn Duw ei hun. Ac aflednais hefyd yw’r awgrym y gall yr un ohonom ni ein cymharu ein hunain â Moses.
Ac afledneisrwydd o’r mwyaf oedd yr hyn a gafwyd ganddo nos Iau yn dilyn boddi 27 o bobl a phlant yn Y Sianel wrth geisio croesi o Ffrainc i Dde Lloegr mewn cwch cwbl anaddas. Anfonodd lythyr at Arlywydd Ffrainc i ddweud beth y dylai hwnnw ei wneud ynglŷn â’r bobl sy’n croesi’r Sianel er mwyn ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig, (nid ei fod ef yn defnyddio’r term ‘ceisio lloches’ wrth gwrs). A’r un pryd cyhoeddodd y llythyr ar Twitter er mwyn i’r byd ei ddarllen. Rhad arnom os yw hwn yn credu mai Twitter yw’r llwyfan priodol ar gyfer trafodaethau ar faterion holl bwysig rhwng gwladweinwyr.
Byrdwn aflednais ei neges oedd y ‘returns agreement’. Mewn gair, hawl fyddai hwnnw i Brydain anfon yn ôl i Ffrainc unrhyw un a lwyddai i ddod yma i geisio lloches. Mor annynol a gwrthun! ‘Returns agreement’ sy’n caniatáu i ni ddychwelyd nwyddau diangen at y gwerthwr, a than drefn felly yr arferai pobl gael tair ceiniog am ddychwelyd potel bop wag i siop. Wrth ymwrthod â’r cyfrifoldeb i lochesu ffoaduriaid, ac wrth geisio pob ffordd bosib o’u danfon yn ôl i Ffrainc, mae Mr Johnson mewn peryg o roi’r argraff nad yw’r bobl hyn ond pethau diwerth a diangen. Ie, rhad arnom os mai felly y mae’n ei gweld hi. A rhag i ni fod ar unrhyw gyfri’n debyg iddo, gweddïwn dros ffoaduriaid, dros bawb sy’n gweini arnynt ac yn eiriol drostynt, a thros wladweinwyr sy’n gyfrifol amdanynt.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Tachwedd 2021