Mis: Rhagfyr 2021
Wedi ei dorri
Cawsom Ysgol Sul arall trwy gyfrwng Zoom y Sul diwethaf. Roedd yn gyfle da i gyflwyno Stori’r Geni i’r plant; cafodd y plant hwythau hwyl ar wneud gwaith crefft; a chefais innau destun ar gyfer yr erthygl hon!
Diolch i Susan, a oedd yn arwain y cyfan, roedd gan y plant lond bag o waith crefft, a buont yn brysur yn gwneud y gwahanol grefftau. Yn eu plith roedd cardiau siâp calon neu seren a sticeri i’w gludo arnynt. Ar y sticeri roedd lluniau o olygfa’r Geni, yn cynnwys gwŷr doeth a chamelod a bugeiliaid a defaid a phreseb. Roedd pawb wrthi’n ddygn. ond yna clywyd un o’r plant yn dweud ei bod wedi torri un o’i sticeri. “Pa un?” meddai Susan. A’r ateb? “Y baban Iesu.”
Mae yna rywbeth prydferth am sticeri glân, lliwgar, a does ryfedd bod plant yn mwynhau eu defnyddio. Yn amlwg, felly, roedd sticer wedi torri’n siom i blentyn ar ganol gwaith crefft. Mae’n siŵr y byddai llai o boendod pe byddai un o’r defaid neu’r camelod wedi ei dorri. Ac eto, roedd yn addas iawn mai’r sticer arbennig hwn a dorrwyd.
Y Nadolig hwn eto, mae golygfa’r preseb ym Methlehem wedi denu sylw pobl o bob oed. Fe’i gwelsom ar gardiau, mewn llyfrau a chylchgronau, ac mewn modelau mawr a bach. Mae’r doethion a bugeiliaid Playmobil yn eu lle arferol ar ben y piano acw ers wythnos bellach. Mae’r lluniau a’r modelau’n amlwg yn ddeniadol a hardd ac yn awgrymu sefyllfa ddelfrydol, os braidd yn anarferol. Yn amlwg, mae yna ramant od ynghylch y syniad o faban bach yn gorwedd mewn preseb a phobl ddieithr yn dod o bell ac agos i’w weld.
Ond roedd pethau’n bell o fod yn hardd a delfrydol, ac mae’r sticer a dorrwyd yn ein hatgoffa mai’r un a gâi ei dorri oedd baban y preseb, a ddaeth yn Waredwr ac y dywedwyd amdano y byddai’n ‘gwared ei bobl oddi wrth eu pechodau’ (Mathew 1:21). Amdano y proffwydwyd: ‘Roedd wedi ei ddirmygu a’i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe’n cuddio’n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu. Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd’ (Eseia 53:3-5).
Rydym wedi hen lanhau’r ‘man lle’r oedd y plentyn’ (Math. 2:9) a’r preseb y’i gosodwyd ynddo ‘am nad oedd lle iddynt yn y gwesty’ (Luc 2:7). Mae’n debyg ei bod yn futrach yno nag a awgrymir gan ein lluniau ni; ac mae prydferthwch ein modelau’n cuddio’r dioddefaint a ddeuai i ran y baban. Oherwydd, er prydferthed bywyd glân a pherffaith y baban hwn o’i breseb i’w groes, hagrwch a’i harhosai, ac ar Galfaria byddai’r Iesu’n cael ei daro a’i dorri a’i ladd. Ac eto, yn y torri hwnnw hyd yn oed y gwelwn ei wir brydferthwch: prydferthwch ei aberth; prydferthwch yr Iawn a wnaeth dros ein pechodau; prydferthwch ei benderfyniad i gyflawni ewyllys ei Dad; prydferthwch ei gariad atom. Newyddion rhyfeddol yr Ŵyl ydi hyn: daeth baban Bethlehem i’r byd i fyw a marw trosom. Rhan fawr o ddirgelwch ein Ffydd ydi’r prydferthwch a welir yn aberth ac ym marwolaeth Iesu Grist trosom.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Rhagfyr 2021
Ymgodymu
Fûm i erioed yn aelod o glwb llyfrau ond gallaf feddwl mai un o’r pethau gorau am glwb felly yw’r cyfle a gaiff yr aelodau i ddarllen amrywiaeth o lyfrau o wahanol arddull ac ar wahanol bynciau. A chan fod yn eu plith lyfrau na fydden nhw o reidrwydd wedi eu dewis eu hunain mae’n debyg bod yr ymateb iddynt yn amrywiol iawn, gyda rhai llyfrau’n plesio ac eraill yn cael llai o groeso o lawer. Ond gall yr un peth fod yn wir am lyfrau a ddewiswn ni ein hunain, gyda rhai’n taro deuddeg ac eraill yn bell o wneud hynny; rhai’n ddifyr ac eraill yn ddiflas; rhai’n hynod o ddarllenadwy ac eraill yn cael eu rhoi o’r neilltu cyn diwedd y bennod gyntaf.
Gall perthynas pobl â’r Beibl fod yn debyg. Ac nid sôn wyf yma am bobl nad ydynt yn credu yn Nuw a phobl nad ydynt yn derbyn mai Gair Duw yw’r Beibl. Nid oes disgwyl i bobl felly ymateb yn gadarnhaol i’r llyfr hwn. Sôn wyf am bobl sy’n credu yn Nuw a phobl sy’n credu mai Gair y Duw Byw yw’r Beibl: pobl a chanddynt y parch mwyaf posibl at y llyfr hwn.
I’r bobl hynny, y Beibl heb os yw’r llyfr pwysicaf a mwyaf gwerthfawr o holl lyfrau’r byd am y rheswm syml mai Gair Duw ydyw. Neges Duw ydyw o’i ddechrau i’w ddiwedd, a phob darn a phob sillaf ohono wedi ei roi i ni gan Dduw ei hun. Ac o’r herwydd mae’n llyfr i’w groesawu a’i gofleidio am mai ynddo a thrwyddo y mae Duw’n ein goleuo amdano’i hun. Yn y Beibl y mae Duw wedi ei ddatguddio’i hun i ni: mae’n dweud wrthym ac yn dangos sut un ydyw, yn ei gariad a’i ddaioni a’i sancteiddrwydd a’i ffyddlondeb. Ac wrth ei ddarllen, daw’r goleuni a gawn ar wirioneddau mawr am Dduw a’i Fab Iesu â chysur a llawenydd amhrisiadwy. Mae’r Beibl yn llyfr y mae Cristnogion yn aml yn awchu am ei ddarllen a myfyrio ynddo.
Ond nid dyna ydi ymateb pobl ffydd bob amser i’r llyfr hwn gan fod Gair Duw nid yn unig yn dwyn gobaith a chysur i ni ond yn ein hanesmwytho a’n blino hefyd. Mae’n sicr yn gwneud hynny trwy ein hargyhoeddi o’n beiau a’n methiant i garu Duw fel y dylem. Ac mae’n gwneud hynny hefyd trwy ddweud rhai pethau nad ydym ni am eu clywed, yn cynnwys rhai pethau am Dduw a’n perthynas ag ef. Oherwydd un peth y mae’r Gair yn fuan iawn yn ein gorfodi i’w wneud yw derbyn bod Duw ei hun yn medru bod yn wahanol iawn i’n syniadau ni amdano. Mae Duw’r Beibl yn dweud a gwneud rhai pethau na fyddem ni’n eu dychmygu. A phethau hefyd na fynnwn ni ohonom ein hunain eu derbyn na’u credu.
A’r parch sydd gennym at y Beibl a’r argyhoeddiad mai Gair Duw ydyw sy’n peri’r anesmwythyd. Mae’r sawl nad yw’n cyfrif mai dyna ydyw yn medru gwrthod unrhyw beth yn y llyfr hwn nad yw’n dderbyniol ganddo. Y gred mai Gair Duw ydyw sy’n gwneud i ni’n aml ymgodymu â’r llyfr er mwyn dod yn fwy sicr o’i neges fawr.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Rhagfyr 2021
Neb o bwys
Bythefnos yn ôl, mi dorrodd boeler ein tŷ ni, ac mi fu raid dioddef am dridiau. Roedd yn oer ac yn anhwylus, ond doedd gen i ddim lle i gwyno. Roedd gen i dân nwy cynnes braf; roedd gen i ddŵr poeth; ac roedd gen i ddyddiad pendant ar gyfer ymweliad peiriannydd a fyddai gobeithio’n setlo’r broblem. A do, mi ddaeth y gŵr bonheddig hwnnw yn ôl yr addewid a thrwsio’r boeler.
Naw diwrnod wedi’r llanast a adawyd gan storm Arwen mae oddeutu 1250 o dai yn Yr Alban dal heb drydan. Felly hefyd dros 300 o dai yng Ngogledd Lloegr. Ac mae’n bosibl na chaiff yr holl dai hyn eu cyswllt trydan yn ôl cyn dydd Mercher. O glydwch ein cartrefi ein hunain, cydymdeimlwn â’r bobl sydd heb wres na dŵr poeth na dim o’r pethau trydanol y dibynnwn gymaint arnynt. A gweddïwn na ddaw neb i niwed parhaol yn yr oerfel a’r rhwystredigaeth o deimlo iddynt gael eu gadael ar drugaredd yr elfennau.
O gymharu â hyn, bychan iawn oedd yr anawsterau a wynebodd criw’r rhaglen deledu yng Nghastell Gwrych. Yn ôl a ddeallaf, mae’r rhaglen yn ôl ar y sgrin erbyn hyn wedi iddi gael ei gohirio am gyfnod oherwydd y difrod a achosodd y storm. ‘Yn ôl a ddeallaf’, meddwn, gan ei bod yn rhaglen ddieithr i mi. Am ryw reswm, dyw rhaglen am selebs mewn coedwig neu gastell ddim wedi mynd â’m bryd erioed.
Ond, mae’n rhaid cyfaddef i mi ei gwylio unwaith eleni. Do, mi welais ail neu drydedd raglen cyfres bresennol I’m a Celebrity. Ac roedd un awr yn ddigon i’m gwneud yn ddiolchgar nad oes unrhyw beryg o gwbl i mi gael fy ngwahodd i fod ar y rhaglen hon. Oes, mae’n rhaid diolch weithiau am gael bod yn neb o bwys. Oherwydd pwy mewn difri fyddai’n dymuno bwyta’r pethau y gorfodwyd i’r selebs hyn eu bwyta ar y rhaglen a welais i?
Ond os yw bod yn neb o bwys yn beth i’w groesawu yng nghyd-destun I’m a Celebrity, nid yw felly bob amser gan fod ynom awydd dwfn a sylfaenol i fod o werth. Yn naturiol ddigon, mae ynom ddyhead i fod o bwys i rywun neu rywrai. Ac yn gwbl briodol, mae pawb ohonom eisiau teimlo bod ein bywyd o ryw werth. Yn y byd go iawn, dyw bod yn neb o bwys fawr o hwyl. Mae arnom angen ffrindiau a theulu i’n caru a’n gwerthfawrogi. Nid peth i’w chwenychu ydi unigedd a diflastod y ‘neb o bwys’.
Un o ryfeddodau’r Ffydd Gristnogol yw ei bod yn chwalu’n llwyr unrhyw beryg i ni a’n tebyg fod yn neb o bwys. Oherwydd, trwy ffydd yn Iesu Grist derbynnir y gwaelaf a’r mwyaf di-nod i deulu Duw. Trwy ffydd yn Iesu Grist, fe’n gwneir yn etifeddion y bendithion mwyaf rhyfeddol. Mae’r Efengyl yn cyhoeddi ein bod wedi’n caru gan Dduw ei hun a’n bod yn ddigon gwerthfawr yn ei olwg iddo roi ei Fab Iesu i farw trosom. Ac os ydym yn werthfawr yng ngolwg Duw dylem hefyd fod yn werthfawr i’n gilydd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Rhagfyr 2021