Mis: Ionawr 2022
Gofal cywir
Anaml iawn y caf fi bnawn Sadwrn heb i mi rywbryd neu’i gilydd wrando ar Radio Cymru neu Radio 5 Live i ddilyn gêm bêl droed neu glywed y canlyniadau. Yn aml iawn, neidio nôl a blaen o’r naill orsaf i’r llall a wnaf, a dyna wnes i ar fy ffordd adra bnawn ddoe. Gêm Abertawe oedd ar Radio Cymru, gyda newyddion cyson am gemau Wrecsam a Chasnewydd ac Uwch Gynghrair Cymru. Doedd yna ddim anarferol am hynny. Ond gan nad oedd gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr roedd 5 Live yn darlledu o’r Alban, gyda sylwebaeth ar gêm Celtic a Dundee United ac adroddiadau cyson am hynt a helynt timau fel Hearts a Hibernian, a hyd yn oed Inverness a Hamilton a thimau eraill o’r tu allan i Uwch Gynghrair yr Alban.
Gallech dybio bod gemau’r Alban o’r diddordeb pennaf i gynhyrchwyr 5 Live a’r sylwebwyr oedd wedi eu hanfon dros Glawdd Hadrian yn niffyg gemau ym Manceinion a Lerpwl a Llundain a ble bynnag arall y mae prif dimau Lloegr yn chwarae. Ar unrhyw bnawn Sadwrn arall, prin fod timau’r Alban, heblaw am Celtic a Rangers, yn cael sylw o gwbl. Roedd rhywbeth hynod o ffals ynghylch yr holl beth, a nôl yng nghorlan Radio Cymru oeddwn i mewn dim o dro.
Diflas dros ben a dweud y lleiaf ydi pobl sydd ond yn rhoi’r argraff fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn pobl eraill a gofal amdanyn nhw. Weithiau, mae’n amlwg nad yw’r consýrn yn ddiffuant; dro arall, gall ymddangos yn ddilys ond buan iawn y gwelir nad yw felly. Gwyliwn rhag i’n diddordeb mewn eraill, yn cynnwys ein brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist, fod yn llai na chywir. Gwyliwn rhag i’n consýrn fod yn llai na diffuant ac yn brin o wir gariad. Bydd 5 Live wedi anghofio popeth am yr Alban unwaith y bydd Uwch Gynghrair Lloegr yn ei hôl yr wythnos nesaf. Gofalwn nad ydym ninnau mor barod i golli diddordeb mewn pobl unwaith y daw rhywbeth neu rywun arall i hawlio ein sylw.
Ein hesiampl wrth gwrs yw Iesu Grist ei hun. Wrth iddo gyfarfod â gwahanol bobl roedd ei ddiddordeb ynddynt yn ysol. Doedd o ddim yn sgwrsio â phobl fel y Claf o’r Parlys, Sacheus, y Wraig oedd yn dioddef o’r gwaedlif, a Sacheus am nad oedd neb arall a neb gwell i siarad â nhw. Roedd ganddo ofal gwirioneddol amdanyn nhw, ac mae’n siŵr fod pob un o’r rhain a llu o bobl eraill yn gweld nad oedd neb pwysicach na nhw yng ngolwg Iesu wrth iddo ddelio â’u hanghenion. A’r un modd, mae ei ofal amdanom ninnau yn real a diragrith. Yn yr Arglwydd Iesu, mae gennym Waredwr a Chyfaill sydd, ac a fydd yn malio amdanom bob amser. Ni fydd ei gariad yn oeri na’i gonsýrn yn lleihau fyth. Mae’r ffaith iddo farw trosom ar Galfaria yn profi nad rhith o ofal yw gofal Iesu am ei bobl. Ac er i fwy a mwy o bobl ddod ato o’r newydd bob dydd, nid yw ei ddiddordeb ynom ronyn llai.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Ionawr 2022
Wordle
Mi aiff heibio. Mi wn i hynny. Ond am y tro, ac ers y Dolig, mi rydw i’n mwynhau’r Wordle dyddiol. Yn syml, yr her yw dod o hyd i air cudd pum llythyren, heb unrhyw fath o gliw ond bod y pos yn datgelu wedi pob cynnig os yw llythrennau’r gair a awgrymwch yn y gair cudd ai peidio, ac yn y lle iawn ai peidio. Mae miliynau o bobl yn mwynhau’r pôs, a rhan o gyfrinach Wordle, a grëwyd gan Gymro o’r enw Josh Wardle, yw mai un pôs y dydd sydd ar gael ac nad oes angen munud neu ddau i’w ddatrys. Y nod yw dod o hyd i’r gair cudd mewn cyn lleied o ymdrechion â phosib. A chan mai’r un gair y mae pawb yn chwilio amdano mae elfen o gystadleuaeth yn bosibl. Mae ‘Wordle Cymraeg’ a ‘hir-iaith’, sy’n fersiwn arall ohono’n golygu bod gen i dri phos y dydd erbyn hyn!
Hanfod Wordle yw bod gennym chwe chynnig i ddod o hyd i’r gair cudd. Ac yn ysbryd Wordle felly, dyma gynnig gwahanol ddarluniau y mae’r pôs syml hwn yn eu hawgrymu i mi.
Y gair ydi popeth yn Wordle; ac i Gristnogion, y Gair a wnaed yn gnawd ydi’r Iesu, a Gair ysgrifenedig Duw ydi’r Beibl.
Rhan o apêl Wordle yw’r ffaith fod y pôs dyddiol yn ein denu’n ôl bob dydd i roi cynnig ar air newydd. A thybed be’ wyddom ni am Air Duw yn ein denu’n ôl ato bob dydd i glywed yr hyn sydd gan ein Harglwydd Dduw i’w ddweud wrthym?
Wn i ddim pwy a luniodd y Wordle Cymraeg, ond mor braf ac annisgwyl oedd ei chael. Ni fu raid i ni’r Cymry fod heb y Gair yn ein hiaith ers dros bedwar can mlynedd, a diolchwn o’r newydd am bawb a fu’n ei gyfieithu dros y canrifoedd.
Os mai un gair sydd yn Wordle, un Efengyl sydd hefyd, ond bod honno’n aros yr un i bawb ym mhob man o ddydd i ddydd ac o oes i oes. Efengyl o obaith i’r euog a’r gwael a’r gwan sydd gennym i ddiolch amdani.
Mae’r elfen o gystadleuaeth sydd i Wordle yn hwyl. Dwi ddim eto wedi dyfalu’r gair cudd ar y cynnig cyntaf, ond mi lwyddais unwaith i ddatrys yr un Cymraeg ar yr ail gynnig. Mor falch oeddwn o gael dweud hynny wrth ffrind i mi. Cofiwch chi, mae angen gras i dderbyn yn ostyngedig fod y ffrind hwnnw’n amlach na heb yn gwneud yn well na mi. A diolch am y gras y mae Duw’n ei roi i rai fel ni i gydnabod ein gwendid a’n methiant a’n pechod a chredu yn ei Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist.
Er mai chwe chyfle sydd i ddod o hyd i’r gair cudd (o ran mai chwe llinell sydd i’r pôs) mae’r chweched linell honno’n rhoi cyfleoedd pellach. Mae’r Efengyl yn cyhoeddi bod Duw yn ei drugaredd yn rhoi cyfle ar ôl cyfle i bobl credu yn ei Fab.
A dyna fy chwe chynnig innau ar gymhwyso Wordle i ni heddiw.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Ionawr 2022
Achub y ‘Big Dog’
O’r cychwyn, un ferch oedd gan Jim Hacker yng nghyfresi comedi Yes Minister a Yes Prime Minister. Ond mewn un rhaglen dywed ei fod am dreulio mwy o amser gyda’i blant. Sut allai’r awduron fod mor flêr? Oedden nhw’n disgwyl i ni gredu y gellid cael prif weinidog na wyddai sawl plentyn sydd ganddo? Ac oedden nhw wir yn disgwyl i ni gredu y gallai clown, nad oedd yn meddwl am ddim ond ei les a’i yrfa ei hun, ddod yn brif weinidog? Ac yntau’n mynd o un helynt i’r llall, hawdd credu mai un o syniadau Hacker fyddai Operation Save Big Dog a’i bwriad i achub croen y Prif Weinidog trwy feio a diswyddo pobl eraill am ei gamgymeriadau o. Trueni pethau ydi mai cynllun diweddaraf Boris Johnson ydyw i gadw ei swydd.
Roedd y Big Dog yn gwingo yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher. Un o’r bobl a fu’n ddeifiol ond yn gyfiawn a theg ei feirniadaeth ohono yno oedd Chris Bryant, Aelod Seneddol Rhondda. Mewn cyfweliad teledu’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw dywedodd Mr Bryant, a fu ar un adeg yn offeiriad yn Eglwys Loegr, bod y Prif Weinidog eisiau bod y ‘jovial jolly chap in Britain who’s coming to bring home to everybody … like a latter day Jesus Christ’. Ceisio dweud oedd o fod y Prif Weinidog am i bawb feddwl amdano fel yr un sy’n rhoi i bawb bopeth a ddymunant. Ond os oedd ei feirniadaeth o Mr Johnson yn dreiddgar, roedd y gymhariaeth â’r Iesu’n anffodus a dweud y lleiaf.
Yn un peth, nid rhoi popeth i bawb er mwyn ei boblogrwydd ei hun a wna Crist y Testament Newydd. Wrth alw ar bobl i edifarhau a’u rhybuddio i droi at Dduw, y peth olaf ar ei feddwl oedd ei ddiogelu ei hun a’i statws.
Ac yn sicr, nid ei ddiogelu ei hun ar draul eraill a wnaeth ein Gwaredwr. Ni ddaeth i’r byd er mwyn bod y Big Dog na’r Top Dog’. Dod i wasanaethu a wnaeth, gan ei dlodi ei hun er mwyn eraill. Mor wahanol i bob Big Dog daearol sy’n rhoi eu buddiannau eu hunain yn gyntaf. Os bu Big Dog Sryd Downing yn fodlon i eraill gael eu beio am ei fethiannau o, ac os yw’n cynllwynio ar hyn o bryd i eraill dalu’r pris am ei droseddau o, mor wahanol ydyw i’r Iesu. Byddai wedi bod yn gwbl amhosibl i’r Iesu feio unrhyw un am ei droseddau o, wrth reswm, gan na chyflawnodd erioed na phechod na bai. Yr hyn sy’n gyfan gwbl wahanol am yr Iesu, a’r hyn sy’n ganolog i newyddion da’r Efengyl, ydi ei fod o wedi cymryd y bai am droseddau pobl eraill. Ystyriwch! Dyn di-fai a Mab Duw’n mynd yn gyfrifol am bechod pobl eraill – pobl fel chi a minnau – ac yn bodloni i gymryd ei gosbi am y pechodau hynny. Nid ar ei warchod na’i achub ei hun yr oedd ei fryd ond ar achub eraill rhag y golledigaeth a fyddai fel arall yn eu hwynebu.
Nid rhyw ‘jovial jolly chap’ mo’r Iesu, ond Brenin ac Arglwydd a Mab Duw sy’n ei ddarostwng ei hun ac yn ei roi ei hun i farw trosom.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Ionawr 2022
Amhosibl?
Dyna fore cynhyrchiol: tystysgrif MOT i’r car ac erthygl i minnau.
“Amhosibl? Fedra i mo’i weld.” Dyna oedd ar y poster yn stafell arddangos y garej: geiriau Sbaenwr o’r enw Aitor Francesena sy’n dal i syrffio er iddo golli ei olwg pan drawyd ef gan don enfawr. Un o bedwar person sy’n rhan o ymgyrch hysbysebu cwmni Toyota ydi Aitor. Robert Marchand, beiciwr 107 oed; Simona Atzori, dawnswraig ddi-freichiau; a Lily Rice, athletwraig gadair olwyn ydi’r tri arall. Mae’r hyn a wnânt yn ymddangos yn amhosibl i’r mwyafrif ohonom, ond nid iddyn nhw. A honiad y cwmni ydi bod ei gar hydrogen newydd, y Mirai, hefyd yn cyflawni’r ‘amhosibl’ trwy allyrru dim ond dafnau o ddŵr. Nid dyna’r car a enillodd ei dystysgrif ddydd Iau!
Wnes i ddim deall geiriau’r poster ar unwaith gan na fedrwn, o’r ongl yr oeddwn i’n edrych arno, weld y marc cwestiwn. Y geiriau a welwn i dros y llun o Aitor yn syrffio oedd, ‘Amhosibl. Fedra i mo’i weld.’ Wrth gwrs, fedrai’r dyn dall ddim gweld y môr glas a’r tonnau gwyllt. Be oedd a wnelo hynny â’r un car? Ond yna mi welais y marc cwestiwn! ‘Amhosibl?’ Holi wna Aitor ydi hi’n amhosibl i ddyn dall syrffio, a’i ateb pendant ydi ‘Fedra i mo’i weld’. Nid am un eiliad y mae o’n gweld y peth yn amhosibl.
Byddai’n dda i Gristnogion wrth fesur o olwg Aitor a Robert a Simona a Lily ar bethau. Os oes gan rywrai sail dros gredu bod yr amhosibl yn bosibl, Cristnogion yw’r rheiny a hwy’n dilyn yr Iesu a ddywedodd, ‘Gyda Duw y mae pob peth yn bosibl’ (Mathew 19:26).
Mae Cristnogion mor dueddol o gefnu ar Dduw. Ydi hi’n amhosibl i bobl sy’n ‘syrthio ganwaith i’r un bai’ roi heibio hen bechodau a bod yn fwy ffyddlon a duwiol? ‘Fedra i mo’i gweld felly.’ Trwy ffydd, gallwn ddeud bod pob peth yn bosibl gyda Duw.
Aeth tröedigaethau yn ddieithr yn ein plith, a phrin yw’r bobl a enillwyd i deulu Duw o fewn cof y mwyafrif ohonom. Ond ydi hi’n amhosibl i ni weld o’r newydd bobl yn troi mewn ffydd at yr Arglwydd Iesu Grist a’i anwylo? ‘Fedra i mo’i gweld felly.’ Mae ffydd yn ein galluogi i ddeud bod pob peth yn bosibl gyda Duw.
Mae llesgedd os nad marweidd-dra’r Eglwys Gristnogol yn ein gwlad yn amlwg ers blynyddoedd. Ond ydi hi’n amhosibl i Dduw pob gallu fywhau ei waith drachefn? ‘Fedra i mo’i weld felly.’ Mae ffydd yn ein hargyhoeddi bod pob peth yn bosibl gyda Duw.
Boed i Dduw ein gwneud yn bobl sy’n mynnu deud am yr ‘amhosibl’, ‘Fedra i mo’i weld’. A thrwy nerth fy Nuw y dywedaf innau, ‘Fedra i ddim, a wnaf fi ddim credu na all Duw weithio’n rymus yn ei Eglwys ac yn ei fyd, a hyd yn oed mewn pechadur fel fi fy hun’.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 09 Ionawr 2022