Cofio’r Wcráin a Rwsia

Anodd iawn fu gweld yr argyfwng yn yr Wcráin yn dwysau dros y dyddiau diwethaf. Heb wybod beth fydd wedi digwydd rhwng nos Sadwrn a bore Sul, y gobaith heno beth bynnag yw y daw diwedd buan i’r ymladd a’r lladd.

Unwaith eto, gwelsom ynfydrwydd rhyfel. Ac o gael bod, trwy luniau ac adroddiadau, yn llygad dyst i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, mae pob math o emosiynau’n corddi. Tristwch yn sicr, o weld pobl yn ffoi mewn ofn o’u cartrefi a’u gwlad. Anghrediniaeth hyd yn oed, o sylweddoli bod pethau wedi dod i hyn. Ofn wedyn, o feddwl beth all ddigwydd. A dicter. Dicter at yr Arlywydd Putin yn sicr; ac eto, er y temtasiwn amlwg i anelu’r cyfan ato, nid ato ef yn unig.

Dicter hefyd ataf fy hun. Ie, dicter a dryswch a chywilydd. Cywilydd yn un peth wrth synhwyro y gall y difrod a’r lladd a’r rhyfela ymddangos yn fwy o drychineb am ei fod yn digwydd yn un o wledydd Ewrop yn hytrach na mewn rhan arall o’r byd.  Dryswch, o fethu â deall na gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd. A dicter hefyd o weld na lwyddodd gwladweinwyr a sefydliadau rhyngwladol i osgoi’r llanast hwn. A gwaeth hyd yn oed, euogrwydd o gofio i mi beth bynnag anghofio’n llwyr am yr Wcráin a’i phobl a’i rhyfela mewnol dros yr wyth mlynedd diwethaf ers i’r wlad a’i hargyfwng hawlio penawdau ein papurau a’n cyfryngau ddiwethaf.  Yn sicr, mae a wnelo’r anghofio hwnnw â’r dryswch a’r anghrediniaeth presennol.

Ond heddiw, yn ein hanghrediniaeth a’n dryswch, ac yn ein hanwybodaeth hefyd, mi fedrwn weddïo. Ac am beth y gweddïwn? Am heddwch yn sicr; am ddiwedd i’r ymladd; am ddoethineb i arweinwyr gwleidyddol yr Wcráin a Rwsia a phob gwlad arall sydd mewn unrhyw fodd yn ymwneud â hyn oll, iddynt allu gweithredu mewn parch a chyfiawnder, a chyda gonestrwydd  ac urddas. Gweddïo dros deuluoedd yn yr Wcráin a Rwsia sydd eisoes wedi colli anwyliaid yn y brwydro; dros y rhai a anafwyd, yn bobl a phlant; dros bawb sy’n byw mewn ofn yn eu cartrefi ar hyn o bryd, a phawb sydd wedi ffoi o’r cartrefi hynny.

Gweddïwn am gymod a chyfaddawd a chyfiawnder ym mhob rhan o’r Wcráin ac ym mhob gwlad arall. Gweddïwn am lonyddwch a hawl i bobl i fyw yn rhydd gan arfer eu ffydd a’u diwylliant heb ofn nac erledigaeth o unrhyw fath. Gweddïwn am ddiwedd i ryfeloedd eraill ein hoes a thros holl ffoaduriaid y blynyddoedd diwethaf hyn, o ba wlad bynnag.

Ac yng nghanol holl boen a dryswch a thristwch ein byd gweddïwn y bydd Efengyl Crist a’i goleuni a’i chariad a’i nerth yn dwyn ffrwyth ym mywydau mwy a mwy o bobl ac yn dod yn rym achubol er daioni ymhlith cenhedloedd daear.  Boed i’r byd wybod am gariad Crist a chymod ei groes.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Chwefror 2022

Eunice

Llun: Dan Jones Images

Peth cymharol ddiweddar ydi enwi stormydd. Mor ddiweddar â 2015 y dechreuodd y Swyddfa Dywydd yn Llundain ddefnyddio enwau fel Malik, Corrie a Dudley a gafwyd eleni, ar y dybiaeth y bydd yn haws i bobl gymryd sylw o’r rhybuddion am stormydd o roi enwau iddynt. Os oes gennych awydd i weld storm yn dwyn eich enw chi mae modd awgrymu’r enw i’r Swyddfa Dywydd mae’n debyg. Ond o gofio’r difrod y gall y stormydd hyn ei wneud, rhaid cyfaddef nad wyf yn gweld pam y byddai neb am roi eu henw iddynt.

Y ddiweddaraf oedd Storm Eunice ddydd Gwener.  Diolch am hynny, chawson ni yn yr ardaloedd hyn mo gwaetha’r storm hon, ond dioddefodd ardaloedd eraill, yn cynnwys rhannau o Dde Cymru yn arw. Cafwyd rhybudd y gallai’r storm achosi marwolaeth, a gwaetha’r modd gwireddwyd yr ofnau wrth i fwy nag un gael ei ladd. Caiff y stormydd eu henwi yn nhrefn y wyddor a’r nesaf fydd Franklin.

Tybed faint o’r stormydd sy’n cael enw Beiblaidd? Boed pwy bynnag a roes yr enw i’r storm yn sylweddoli hynny ai peidio, dyna gafodd Storm Eunice. Yn y Testament Newydd y ceir yr enw, yn Ail Lythyr Paul at Timotheus. Mam Timotheus, un o gydweithwyr ifanc Paul, oedd Eunice, a dyma’r cyfeiriad ati: ‘Daw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, fydd a drigodd gynt yn Lois , dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd’ (2 Tim 1:5). Mae’r ychydig a ddywedir amdani yn y Beibl yn fwy na digon. Dywedir hyn amdani wrth gyfeirio at Timotheus yn Llyfr yr Actau: ‘Yno yr oedd disgybl o’r enw Timotheus, mab i wraig grediniol o Iddewes’ (Actau 16: 1). Chawn ni mo’r argraff fod unrhyw beth stormus amdani, a does yna’r un stori gynhyrfus amdani. Y peth pwysig yw ei bod wedi credu’r Efengyl ac wedi cyflwyno’r ffydd oedd ganddi yn Iesu Grist i’w mab. Gan mai dyddiau cynnar yr Eglwys yw’r rhain, mae’n debyg y byddai Eunice a’i mam, Lois, wedi dod i ffydd yr un pryd, neu’n   agos at ei gilydd. A chyflwynodd y nain a’r fam y ffydd hon i’r Timotheus ifanc. Meddai Paul wrth ei ffrind: ‘Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy, a’th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu’ (2 Tim. 3:14-15).

Diolch am bob mam a thad, a nain a thaid, sy’n cyflwyno’r ffydd i’w plant. Gweddïwn dros deuluoedd Cristnogol sy’n magu plant heddiw, a gweddïwn dros blant aelwydydd Cristnogol sydd eto i gredu’r Efengyl a rannwyd â hwy yn gynnar yn eu bywydau. Boed i bob ‘Eunice a Lois’ a ddysgodd eu plant yng ngwirioneddau’r Beibl a’r Efengyl yr hyfrydwch o weld eu plant, pa oed bynnag ydynt, yn cofleidio’r Iesu ac yn diolch am y fagwrfa a fu’n gymorth iddynt ddod i ffydd yng Nghrist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Chwefror 2022

O’r golwg

Pwy feddyliai bod newid cebl yn waith mor fawr? Mae’r gwaith o osod cebl newydd i gludo’r trydan o Orsaf Bŵer Dinorwig wedi cychwyn. Fe’i gosodir dan y briffordd, o ganol ffordd osgoi Llanberis gyferbyn â’n tŷ ni hyd at Gwm-y-glo ac yna i’r is-orsaf drydan ym Mhentir. Rhaid ymwrthod heddiw â’r demtasiwn i ddyfalu sawl blwyddyn gymer y gwaith. O gofio mai am bedair wythnos yr oedd y ffordd osgoi i fod wedi ei chau, a bod bellach ddisgwyl iddi fod wedi ei chau am saith wythnos, digon yw dweud ei bod yn ymddangos nad fi yw’r unig un na sylweddolodd mor aruthrol fawr yw’r gwaith. Rydym wedi hen arfer â gweld gweithwyr yn gosod ceblau trydan a phibellau dŵr a nwy dan ein lonydd, ond mae’r gwaith hwn yn fwy o lawer ac yn llawer mwy cymhleth.

Mae’r hen gebl a fu’n cludo’r trydan ers deugain mlynedd yn gorwedd dan gledrau Rheilffordd Llyn Padarn. Ac o weld anferthedd y gwaith presennol, rhaid i mi gyfaddef na sylweddolais erioed beth sydd dan y cledrau hynny. Yn ôl a ddeallaf, mae mwy i’r ceblau newydd nag i’r hen rai, ac eto mae’n amlwg bod mwy o dan y rheilffordd nag a sylweddolais i. Rhyw ddiwrnod (does wybod pryd), bydd pobl yn gyrru ar hyd y lonydd hyn heb sylweddoli beth sydd wedi eu claddu droedfeddi danynt. Bydd cymaint allan o’r golwg.

Ac allan o’r golwg, mae yna waith mawr y tu cefn i bob Cristion. Yr hyn a welwn ni, a’r hyn sy’n amlwg gobeithio i bobl eraill yw cred y Cristion yn Iesu Grist a chariad at Dduw a dyhead i fyw yn debyg i’r Iesu ac yn ufudd i Dduw. Ond y tu cefn ac o dan y pethau hynny y mae gwaith cuddiedig yr Ysbryd Glân ym mywyd pob Cristion. Ac y mae hwnnw’n waith dirgel a gwyrthiol a mwy nerthol o lawer nag unrhyw bŵer a fydd yn llifo trwy’r ceblau a osodir dan ein lonydd.

Nid peth bychan yw bod neb yn credu yn yr Arglwydd Iesu ac yn dymuno byw er ei fwyn. Peidiwch â gofyn i mi ddisgrifio’r gwaith rhyfeddol o dyllu’r lôn a gosod y dwythellau ar gyfer y ceblau a fydd yn cludo’r trydan. Mae’r ffos gymaint dyfnach a lletach nag a ddychmygais; a hyd y gall rhywun dwl fel fi ei weld nid yw’r gweithwyr a’u peiriannau trymion, wedi pum wythnos o waith caled, yn agos at gwblhau can llath cyntaf y prosiect. Ond mi fentraf ddweud rhywbeth am y gwaith a wna’r Ysbryd Glân yng nghalon y Cristion. Mae’n argyhoeddi o bechod ac angen am faddeuant a chymod â Duw. Mae’n goleuo gan ddangos mai’r Arglwydd Iesu, trwy ei aberth ar Galfaria, sy’n gwneud y ddau beth hynny’n bosibl. Mae’n bywhau gan roi i’r Cristion y gallu i gyffesu bai a chredu yng Nghrist. Mae’n nerthu’r Cristion i fod yn ufudd ac i wasanaethu Crist yn ffyddlon. Fedrwn ni ddim gweld yr Ysbryd Glân, ddim mwy nag y bydd modd gweld y ceblau, ond yr Ysbryd hwnnw a’i waith dirgel sy’n esbonio ffydd ac ufudd-dod pob Cristion.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Chwefror 2022

Derry a gweddi

Ar strydoedd Derry y Sul diwethaf coffawyd y tri ar ddeg o bobl ddiniwed a laddwyd yno union hanner canrif yn gynharach ddydd Sul, Ionawr 30, 1972. Dyma’r ‘Bloody Sunday’ y lladdwyd y bobl hyn arno gan filwyr y Fyddin Brydeinig ac y dyfarnodd Adroddiad yr Arglwydd Saville i’r Ymchwiliad Swyddogol i’r hyn a ddigwyddodd nad oedd unrhyw fai o gwbl ar y bobl a laddwyd, a bod eu lladd gan y milwyr yn ‘anghyfiawnadwy a digyfiawnhad’. O dderbyn yr Adroddiad hwn yn 2010 cyflwynodd y Prif Weinidog David Cameron, ymddiheuriad swyddogol diamod am yr hyn a ddigwyddodd.

Heb os, roedd y lladdfa hon yn ystod gorymdaith brotest heddychlon yn un o’r digwyddiadau a gyfrannodd at ddwysau’r rhaniadau a gwaethygu’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon dros gyfnod o ryw 30 o flynyddoedd, o ddiwedd y Chwedegau ymlaen. Wedi blynyddoedd o ymladd, cafwyd ym 1998 Gytundeb Gwener y Groglith a ddaeth nid yn unig â gobaith am gymod a heddwch ond hefyd sail i gydweithio a dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng pobl a fu am gyhyd yn elynion. Nid bod hynny chwaith yn cuddio’r ffaith fod tensiynau’n parhau, ac o’r herwydd bod angen gwneud pob ymdrech bosibl i warchod yr heddwch ac i barhau’r cydweithio er lles pawb.

Un o’r ofnau pennaf trwy’r holl drafod a fu ynghylch ‘Brexit’ oedd oblygiadau ymadael a’r Undeb Ewropeaidd i’r heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Nid bod pleidwyr ‘Brexit’ wedi colli fawr o gwsg yn ei gylch. Iddynt hwy, roedd pob pris yn werth ei dalu er mwyn cael y maen brecsitaidd i’r wal. Ers i ‘Brexit gael ei wneud’ mae pethau wedi bod yn mud ferwi trwy’r holl ddadlau ynghylch Protocol Gogledd Iwerddon, a chafwyd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf y cam diweddaraf gydag ymddiswyddiad ’Prif Weinidog’ Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, sy’n amlwg yn creu ansefydlogrwydd a thensiynau diangen. Trueni pethau ydyw ei bod yn ymddangos nad oedd ots o gwbl gan bleidwyr Brexit eu bod yn y pen draw yn peryglu’r heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Beth bynnag arall a gaiff le yn ein gweddïau dros y dyddiau nesaf, da o beth fydd i ni gofio am ein cymdogion yng Ngogledd Iwerddon a thros y ffin yn y Weriniaeth. Does dim rhaid i ni hyd yn oed ddeall y symudiadau gwleidyddol. Digon yw deall fod yr ansefydlogrwydd yn real, ac y gall y cydweithio a’r cyd-ddyheu y bu pawb mor ddiolchgar amdano dros yr ugain mlynedd diwethaf fod dan fygythiad am fod rhai o’r farn fod perthynas Gogledd Iwerddon â gweddill y Deyrnas Unedig, sydd mor hanfodol bwysig iddynt hwy, dan fygythiad. Gweddïwn am ddoethineb i arweinwyr y pleidiau gwleidyddol; gweddïwn am ysbryd cymodlon i bobl o bobl barn a pherswâd, ac yn fwy na dim gweddïwn am heddwch a diogelwch i bawb. A thrwy’r cyfan, boed i bob Cristion yno fod yn rym daionus yn enw’r Iesu.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 6 Chwefror 2022