Troi’r cloc ymlaen

Beth sydd orau gennych?  Troi’r cloc yn ôl yn yr hydref ynteu ymlaen yn y gwanwyn? Ar y cyfan, gwell gennym, mae’n debyg, droi’r cloc ymlaen gan wybod y bydd y dydd yn ymestyn wrth i ni wynebu’r gwanwyn a’r haf. O ran y weithred ei hun, gwell gan rai droi’r cloc yn ôl gan fod hynny’n golygu awr ychwanegol yn y gwely’r bore wedyn. Ond er colli awr o gwsg mae’n haws gen i droi’r cloc ymlaen, fel y gwnaed neithiwr, gan fy mod yn gam neu’n gymwys yn dal yn amharod i droi bysedd na chloc nac oriawr o chwith rhag gwneud niwed iddynt.

Mewn ystyr arall, gallwn droi’r cloc ymlaen a cholli amser trwy ei afradu a pheidio á gwneud yn fawr o bob awr a phob munud. Mae amser yn werthfawr, ond mor rhwydd yw ei wastraffu a cholli cyfle i wneud a dweud rhyw bethau neu’i gilydd. Ac nid mor rhwydd y gall neb ohonom droi’r cloc yn ôl. Mewn gwirionedd y mae, yn aml iawn, yn amhosibl gwneud hynny a’r cyfle wedi mynd am byth. Lawer gwaith, gwaetha’r modd, y bu i mi beidio á gwneud rhywbeth a difaru wedyn o weld na chafwyd cyfle arall i  godi’r ffôn, sgwennu’r llythyr, gwneud yr ymweliad neu beth bynnag. Ac er dymuno hynny, amhosibl oedd troi’r cloc yn ôl i gael cyfle arall i wneud pethau’n wahanol.

Yr un person nad afradodd eiliad erioed  yw’r Arglwydd Iesu Grist, a gallwn ninnau felly ddysgu llawer oddi wrtho. Wrth drafod agwedd Iesu at amser nodwyd y deg peth a ganlyn mewn un erthygl a ddarllenais. Roedd ganddo amser i weddi ac i’r ysgrythurau. Ni wastraffodd amser trwy bechu am na phechodd erioed. Nid oedd yn cael ei reoli gan ddisgwyliadau pobl.  Roedd ei fwriadau’n gwbl glir. Roedd ei flaenoriaethau’n gywir. Roedd ganddo amser i bob unigolyn oedd angen ei sylw. Rhoes amser i baratoi eraill ar gyfer eu cenhadaeth. Roedd yn dewis ei gwmni’n ofalus. Gofalodd am amser i orffwys. Nid oedd yn diogi o gwbl.

Nodi’n unig y pethau hyn a wnaf yma. Cewch enghreifftiau o bob un ohonynt yn yr efengylau. Mwy na thebyg y gellid ychwanegu sawl peth arall atynt o ddilyn hanes Iesu o’r crud i’r bedd. Ond â’r Pasg wrth law, gwelwn fod hyn oll yn wir amdano yn ystod yr Wythnos Fawr. Mae’n amlwg fod ei fryd ar gyflawni’r gwaith a osodwyd ar ei gyfer, ac ni chaiff neb na dim ei rwystro rhag mynd i’r groes. Gofalodd baratoi ei ddisgyblion ar gyfer bod hebddo a pharhau eu gweinidogaeth. Mynnodd encilio i Fethania i orffwyso ac i weddïo er mwyn bod yn barod ar gyfer ei ddioddefaint. Ac er i’r groes fwrw ei chysgod drosto – a hyd yn oed ar y groes – dangosodd ei gariad trwy roi sylw i anghenion pobl eraill.

Roedd gan Iesu amser i bopeth ac i bawb, ac roedd pob eiliad wedi ei chysegru i’w Dad nefol ac i’r dasg a osodwyd iddo, i fod yn Waredwr trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Mawrth 2022

Nazanin a’r ddyled

Daeth Anoosheh Ashoori adref o Iran yn hwyr nos Fercher, a rhyddhawyd Morad Tahbaz o’r carchar yno er nad yw eto wedi cael gadael y wlad. Ond a hithau’n fam i ferch fach 7 mlwydd oed mae’n debyg nad oedd hyd yn oed Mr Ashoori a’i deulu’n gwarafun i’r prif sylw gael ei roi’r wythnos ddiwethaf i ddychweliad Nazanin Zaghari-Ratcliffe at ei theulu wedi chwe blynedd. Achos llawenydd mawr i bawb a fu’n cefnogi ymgyrch ei gŵr Richard a’i theulu i’w rhyddhau o’i chaethiwed oedd ei gweld o’r diwedd yn ôl gartref yn ddiogel. Yn hwylus iawn, roedd Mr Johnson oddi cartref, yn closio at Lywodraeth Saudi Arabia i geisio ganddi ragor o olew yn lle’r olew na fydd yn ei brynu o Rwsia; ac ar wahân i un cyfweliad, cymharol dawel fu’r Prif Weinidog ynghylch rhyddhau Nazanin. Nid syndod hynny gan y byddai’n anodd iddo ef hyd yn oed beidio â gweld mai anweddus fyddai iddo ddweud llawer o gofio bod sylwadau anghywir a wnaeth ef fel Ysgrifennydd Tramor yn 2017 heb os wedi gwaethygu pethau iddi. Pe na fyddai felly, gallwn fentro y byddai’r Prif Weinidog  wedi hawlio iddo’i hun beth o’r clod a roddwyd i Liz Truss, yr Ysgrifennydd Tramor presennol. 

Yn gyfnewid am ryddhau’r tri (neu yn ôl y Llywodraeth, ‘yn gyfochrog’ â hynny) mae Llywodraeth San Steffan  wedi ad-dalu i Iran hen ddyled o 70au’r ganrif ddiwethaf. Dyfarnodd llys rhyngwladol yn 2009 ei bod yn ddyled ddilys ond ers hynny mae San Steffan wedi gwrthod ei thalu. Yn sgil yr anghydfod rhwng llywodraethau   Llundain a Tehran y cafodd Nazanin ei charcharu yn anghyfiawn yn Iran.

Un o ‘amodau’ ad-dalu’r ddyled o £400miliwn i lywodraeth Iran oedd mai at ddibenion dyngarol yn hytrach na milwrol y caiff ddefnyddio’r arian. Da o beth yw hynny; ac eto, ni allaf  lai na rhyfeddu at eironi a rhagrith y cyfan. Mae Llywodraeth San Steffan am sicrhau na fydd Iran yn halogi’r £400miliwn trwy ei wario ar arfau. Dyna fwriad digon clodwiw, ond o gofio cefndir y ddyled mae’n llawn rhagrith hefyd. Ym 1974 archebodd Shah Iran 1,750 o danciau Chieftain a cherbydau milwrol, a thalu am y cyfan ymlaen llaw. Dim ond 185 a anfonwyd ato cyn iddo gael ei ddisodli gan y Chwyldro Islamaidd ym 1978 ac i’r llywodraeth newydd ganslo’r archeb a hawlio ad-daliad am y tanciau diangen. O gofio hanes cythryblus  Iran ers hynny gellir deall yr awydd i sicrhau na werir ceiniog o’r arian ar arfau. Ond y fath ragrith ar ran Llywodraeth San Steffan o gofio mai arian a gafwyd am danciau oedd hwn yn wreiddiol. Roedd yn iawn i Iran wario ei harian ar arfau Prydeinig ym 1974, fel y mae’n iawn mae’n debyg i wahanol lywodraethau wario eu harian ar arfau Prydeinig yn 2022!  O bosib y daw’r dydd y bydd llywodraeth Iran yn eu plith eto. Trasiedi pethau yw bod un olwg ar Wcráin heddiw’n ein hatgoffa o wir bwrpas y fath danciau o hyd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 20 Mawrth 2022

Neb o gwbl?

Dwi ddim am ddeud wrthych am ba un o’m ffrindiau y dywedir y geiriau hyn a welais ar y we y dydd o’r blaen.  Yn Saesneg yr oedd y cofnod: ‘… is a NONE’. Ia, mewn priflythrennau!  Nid bod y peth yn wir wrth gwrs. Nid ‘neb o gwbl’ i’w ffrindiau a’i deulu; nid ‘neb o gwbl’ yn ei gymdogaeth; ac nid ‘neb o gwbl’ yn ei waith. Wna i ddim deud pa waith yw hwnnw rhag i chi ddechrau dyfalu!  Ond dylwn egluro nad oedd i’r cofnod na drwg na malais. Nodwyd am eraill a restrwyd eu bod yn athrawon neu weithwyr swyddfa ac ati. Yn syml iawn, diffyg gwybodaeth am swydd fy ffrind oedd yn gyfrifol am y ‘NONE’. 

Ond fedrwn i ddim peidio â gwenu o weld y cofnod. ‘NONE’?  Fel arall yn hollol y mae wrth gwrs, yn arbennig o gofio’r hyn ydyw fy ffrind yng ngolwg Duw. ‘Neb o gwbl’?  Na, ddim o gwbl. Geiriau Paul am Gristnogion Effesus (a phob Cristion arall gyda hwy) sy’n dangos hynny i ni’n glir: ‘Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe’n gwnaeth ni, ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub .. cofiwch eich bod yr amser hwnnw heb Grist, yn ddieithriaid i ddinasyddiaeth Israel, yn estroniaid i’r cyfamodau a’u haddewid, heb obaith a heb Dduw yn y byd. Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist’ (Effesiaid 2:4-5, 12-13).

‘Yng Nghrist Iesu’ mae pob Cristion o bwys, a llawer mwy na hynny. Lle bu gynt heb Grist, heb obaith, heb Dduw yn y byd ac yn farw yn ysbrydol, mae bellach wedi ei ddwyn yn agos a’i wneud yn fyw trwy ffydd yn Iesu Grist a thrwy farwolaeth Crist ar Galfaria.

Y fath wahaniaeth a wna’r Arglwydd Iesu Grist i bawb sy’n credu ynddo. Y cas wir yw mai ‘neb o gwbl’ yw pawb ohonom yn naturiol, yn bell oddi wrth Dduw, yn ddieithr i bob addewid ddwyfol ac yn amddifad o bob gobaith. Ond trwy ffydd yn Iesu Grist yr ydym wedi ein dwyn yn agos at Dduw, ac wedi ein gwneud yn blant iddo ac yn etifeddion yr holl fendithion a enillodd Iesu i ni. Darllenwch y bennod gyfan i gael rhyw syniad o’r darlun cyflawn.

Na, ni ellir deud am yr un ohonom sy’n credu yn Iesu Grist mai ‘neb o gwbl’ ydym. Plant i Dduw ydym: plant y mae Duw wedi ein caru ddigon i roi ei Fab i farw trosom. Nid pawb heddiw a wêl werth i’w bywyd. Llethir llawer gan ddiffyg gwerth a diffyg pwrpas eu bywydau. Ond yr un peth a ddylai fod o gymorth i’r Cristion, beth bynnag ei ansicrwydd a’i ofnau, yw’r hyn a ddywed y Beibl am ei berthynas â Duw. Mae pob Cristion yn wrthrych cariad Duw, wedi ei oleuo ynglŷn â phwy a beth yw Duw, wedi ei ddwyn yn agos ato, wedi ei wneud yn blentyn iddo ac yn etifedd y bywyd newydd a thragwyddol a ddarparodd Duw ar ei gyfer.  Na, nid ‘neb o gwbl’; nid ‘neb o bwys’! 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 13 Mawrth 2022

Celu’r gwir

Mae’r rhyfel yn Wcráin dros ddeng niwrnod oed erbyn hyn, a gwaethygu mae pethau. Ac er gweld y lluniau a chlywed yr adroddiadau o awr i awr, mae’n anodd amgyffred y dioddefaint ac yn anos fyth ddeall meddylfryd yr Arlywydd Putin sy’n fodlon achosi’r fath ddioddefaint ar unrhyw wlad, heb sôn am wlad y mae o’n honni sy’n un â’i Rwsia ef ei hun.

Yn Rwsia heddiw, byddai brawddeg gyntaf yr erthygl hon yn beryglus gan fod geiriau fel ‘rhyfel’ ac ‘ymosodiad’ a ‘goresgyniad’ wedi eu gwahardd yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin. Mae’r rhyfel yn amlwg i bawb sydd â llygaid i weld a chlust i glywed, ond mae Mr Putin yn benderfynol o gelu’r hyn sy’n digwydd rhag pobl ei wlad ei hun. Ac mae’r bygythiadau’n amlwg yn llwyddo gan y gorfodwyd i fwy nag un gwasanaeth newyddion roi’r gorau i ddarlledu neu gyhoeddi. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth teledu Dozhd (neu TV Rain), Radio Echo a gwefan Znak.com. Yr unig beth a welir ar y wefan honno erbyn hyn yw’r geiriau hyn: ‘Rydym ni, staff golygyddol fersiwn ar lein Znak.com yn cyhoeddi’r cau. Rydym yn dirwyn ein gwaith i ben oherwydd y nifer fawr o gyfyngiadau sydd wedi eu gosod yn ddiweddar ar waith y wasg yn Rwsia.’ Mae hyd yn oed bapur fel y Novaya Gazeta, a berchir am safon a dewrder ei newyddiaduraeth ymchwiliol, wedi ei orfodi i fod yn dawel am y rhyfel ac i ddileu pob erthygl sy’n sôn amdano.

Yn naturiol ddigon, bydd y sensoriaeth ormesol ar y wasg yn Rwsia yn gwneud i lawer ymffrostio yn y wasg rydd dydd gennym yng ngwledydd Prydain a gwledydd y Gorllewin. Ac er gwaetha’r ffaith fod rhan helaeth o’r wasg brif lif honno yn nwylo ychydig o bobl o un perswâd gwleidyddol, y mae gennym le i ddiolch am y rhyddid sydd gennym i fynegi barn ac am y gwahanol gyfryngau y mae modd cael newyddion trwyddynt. Mor beryg yw hi pan fo’r gwir yn cael ei gelu rhag pobl, ac felly gweddïwn y bydd modd i bobl Rwsia rywsut ddal i gael gwybod am y rhyfel hwn a’r colledion enbyd sy’n dod i’w milwyr hwy eu hunain yn ogystal ag i bobl Wcráin.  Po fwyaf anwybodaeth ei bobl, rhwyddaf fydd hi i Putin barhau’r rhyfel.

Mae hanes yr Eglwys Gristnogol yn dangos i ni’r budd a ddaw o gael gwybodaeth yn llaw pobl. Meddyliwch am y bendithion a ddaeth i Gymru a gwledydd eraill o gyfieithu’r Beibl i iaith y bobl. O fedru darllen y Beibl eu hunain daeth pobl i weld a chlywed neges a oedd cyn hynny’n guddiedig oddi wrthynt. Mae’r gwir yn holl bwysig mewn byd a betws. Hebddo, mae Eglwys a byd mewn peryg. Mae ar bobl Wcráin angen pob cefnogaeth, ac mae’r ymateb hael a gafwyd yng ngwledydd Prydain i apêl ariannol Pwyllgor DEC yn ardderchog. Mae ar bobl Rwsia angen ein cymorth hefyd. Gweddïwn am bob ymgeledd posibl a phob gwybodaeth wir, a diwedd buan i’r rhyfel hwn.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 06 Mawrth 2022