Prif Weinidog gonest

Mae gen i frith gof i mi ganmol Mr Johnson yn un o’r colofnau hyn.  Dyma gyfle arall i wneud hynny; a’r tro hwn – coeliwch neu beidio – ei ganmol am ei onestrwydd. Ddydd Mawrth, daeth y Prif Weinidog i Dŷ’r Cyffredin i roi ei fersiwn unigryw ei hun o ‘ymddiheuriad’ wedi’r ddirwy a gafodd am dorri deddf ei Lywodraeth ei hun wrth ddathlu ei ben-blwydd gyda chriw o bobl yn Stryd Downing yng nghanol y Cyfnod Clo ym mis Mai 2020. ‘Sori,’ meddai, ‘ond ar y pryd doeddwn i ddim yn credu mod i’n gwneud dim o’i le. A dwi dal o’r un farn!’ I unrhyw brif weinidog arall, byddai’r awr a hanner o ddadlau a chyhuddo a ddilynodd yn  wewyr cydwybod difrifol. Ond fel y gŵyr pawb, nid prif weinidog cyffredin mo hwn.

Yn wyneb yr alwad iddo ymddiswyddo roedd mwyafrif yr Aelodau Ceidwadol a siaradodd yn amddiffyn Mr Johnson. Un ohonynt oedd Aelod Seneddol Wycombe, Steve Baker, a ddywedodd na allasai’r Prif Weinidog fod wedi cyflwyno ymddiheuriad mwy gwylaidd nag a wnaeth. Nid syndod i mi fu deall ers hynny am ddaliadau Cristnogol Mr Baker: roedd ei eirfa’n ei fradychu.  Meddai, ‘Mae cyfiawnder a thrugaredd a gostyngeiddrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae cyfiawnder sy’n arwain at faddeuant yn dibynnu ar syniad hen ffasiwn iawn – edifeirwch’. Ac yna gofynnodd, ‘Pa sicrwydd y gall y Prif Weinidog ei roi na ddigwydd peth fel hyn byth eto?’

Roedd yn gwestiwn heriol, yn arbennig gan aelod o blaid Mr Johnson. Roedd hefyd yn gwestiwn teg a roddai gyfle i Mr Johnson ategu’r ymddiheuriad trwy addo na ddigwyddai dim tebyg eto. Ac roedd yn gwestiwn annisgwyl yn Nhŷ’r Cyffredin erbyn hyn gan fod  egwyddorion yr Efengyl wrth ei wraidd: maddeuant i droseddwyr, ond maddeuant sy’n anhepgorol ynghlwm wrth edifeirwch. Mae Efengyl Iesu Grist yn cyhoeddi maddeuant i bawb sy’n edifarhau am eu pechodau. Mae maddeuant llawn Duw’n amodol ar edifeirwch: heb edifeirwch nid oes faddeuant. Ond mae maddeuant hefyd yn esgor ar edifeirwch: mae’r ffaith fod Duw’n maddau yn cymell pobl i ymdrechu i beidio â phechu mwyach. I’r Cristion, mae edifeirwch yn amod ac yn ffrwyth maddeuant yr un pryd. Ym mywydau pobl sy’n credu yn Iesu Grist y mae’r gwirioneddau hyn yn realiti. Ond ar ryw wedd, y maent yn egwyddor lywodraethol gyffredin: o dderbyn maddeuant gan eraill, mae’n ofynnol i ni wneud pob ymdrech i fod yn well ac i beidio â phechu mwyach.  

Ni chafwyd gan Mr Johnson sicrwydd na ddigwyddai’r un peth eto; ddim hyd yn oed addewid i geisio bod yn well. Pe byddai ganddo fwriad i gadw’r rheolau a dweud y gwir, oni fyddai wedi dweud hynny? Ond ddywedodd o ddim byd. Tybed ai’r ‘gonestrwydd’ hwn – mudandod llwyr sy’n awgrymu nad oes ganddo fwriad i newid ei ffyrdd – a wnaeth i Mr Baker, ddydd Iau, ddatgan ei bod yn bryd i’r Prif Weinidog adael ei swydd?

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Ebrill 2022

Pasg Dedwydd

Ymhlith y cardiau cyfarch yn nrôr y ddesg mae cerdyn pen-blwydd i ferch 8 oed. Mae yno ers blynyddoedd, a’r flwyddyn nesaf, os byw ac iach, mi gaf o’r diwedd ei ddefnyddio (os na fyddaf wedi anghofio amdano ac wedi prynu cerdyn arall). Mae yno hefyd gardiau pen-blwydd eraill a chardiau Nadolig, a chardiau llongyfarch am briodas a geni babi a phasio arholiad ac ati. Mae’r ddau neu dri cherdyn Pasg sydd yn y drôr efo nhw’n debygol o fod dal yno’r wythnos nesaf am nad ydw i’n anfon cardiau Pasg. A dweud y gwir, anaml os o gwbl y bydda i hyd yn oed yn dymuno ‘Pasg Dedwydd’ neu ‘Basg Hapus’ i neb, er mor braf yw derbyn cerdyn neu glywed ffrindiau a theulu’n cyfarch ei gilydd felly.

Gan mor anodd yw newid arfer oes, dowch i mi yma o leiaf ddymuno i chi fendithion yr Ŵyl. Ond be’ fydd ‘Pasg Hapus’ eleni? Mae’r Pasg yn llawer llai materol a masnachol na’r Nadolig wrth gwrs, ond mae gwyliau ysgol, ac wyau siocled a hetiau lliwgar a chig oen a byns y Grog yn draddodiadol yn rhan o’r arlwy. Nid bod neb ohonom yn meddwl am eiliad mai dyna sy’n rhoi i’r Ŵyl ei harwyddocâd na’i gwerth. Gwyddom yn iawn mai’r hyn sydd wrth wraidd y Pasg yw’r stori am groes a bedd gwag Iesu Grist.

‘Pasg Dedwydd’ yn un peth fydd gweld nad ffuglen na chwedl ond stori wir yw stori’r Pasg. Nid dychmygol mohoni ond dogfennol. Cofnodi digwyddiadau go iawn a wna awduron yr efengylau, nid cyflwyno darluniau. Daw gwir ddedwyddwch o’r hyn a wnaeth Iesu Grist ar groes Calfaria yn hytrach nag o unrhyw symbolaeth y medr neb ei weld yn yr hanes.

‘Pasg dedwydd’ fydd sylweddoli bod a wnelo’r digwyddiadau a gaiff ein sylw ar yr Ŵyl â ni ein hunain. Trosom ni – er ein mwyn ni – yn ein lle ni yr aeth Iesu i’r groes. Er bod deall hynny’n gwneud i ni gywilyddio, y mae hefyd yn ein rhyfeddu am fod ei ddioddefaint a’i farwolaeth yn dangos cariad Duw tuag atom. Gymaint oedd ei gariad fel ei fod yn barod i roi ei Fab am mai trwy farwolaeth ddirprwyol ei Fab yn unig y gallai rhai gwael fel ni fod yn dderbyniol iddo.

A ‘Phasg dedwydd’ fydd sylweddoli’r hyn a ddigwyddodd ar fore Sul y Pasg a’r hyn a ddethlir gan Gristnogion ein byd heddiw. Yn y ffaith fod Iesu Grist wedi dod o’r bedd yn fyw y mae ein dedwyddwch. Oherwydd yn union fel ei groeshoeliad, digwyddiad go iawn oedd ei atgyfodiad. Nid symbol oedd y bedd gwag; nid awgrym fod y da yn trechu’r drwg neu fod bywyd rywsut yn para. Daeth Iesu, a fu farw ac a gladdwyd, yn ôl yn fyw go iawn a choncro marwolaeth. Dedwyddwch y Pasg yw’r sicrwydd fod marwolaeth wedi ei drechu a bod pawb ohonom sy’n ymddiried yn Iesu Grist a’i waith achubol yn ddiogel am byth gyda Duw. Nid oes gan farwolaeth afael ar bobl Crist, sef pobl y Pasg.

Oedfa Groglith yr Ofaleth

Oedfa’r Groglith

Bore Gwener, 15 Ebrill

Bydd Oedfa’r Groglith yn Capel Coch am 10.00 o’r gloch.

Bydd modd ymuno â’r Oedfa trwy gyfrwng Zoom.

Mae’r ‘ddolen Zoom’ wedi ei hanfon trwy ebost erbyn hyn.

Pryderu am eiriau

Abertawe – Chwefror 1941

‘Pryderu … am eiriau; a dynion mewn tân, a dinistr a fföedigaethau!’ Nid fi pia’r frawddeg yna  ond mentraf ei benthyg wrth ymgodymu â’r golofn hon eto heddiw. Pa werth pryderu am eiriau ac ymlafnio am rywbeth i’w ddweud gan wybod fod yna filoedd o bobl mewn perygl einioes? Darllenais y frawddeg gyntaf yna yng nghyfrol fechan Ambrose Bebb, Dyddlyfr 1941.  Cyfeirio a wna’r dyddiadur at y bomio a fu ar ddinas Abertawe ym mis Chwefror y flwyddyn honno. ‘Ffoant i bentrefi’r Cymoedd, a’r rheini’n llawn gan ffoaduriaid o Loegr. Nid oes le iddynt roddi pen i lawr – yn eu gwlad eu hunain!  Myn Crist, oni wybuost Tithau …?’

Canrif arall, gwlad arall, a thros bedwar ugain mlynedd yn ddiweddarach mae’r Crist yr apeliai Ambrose Bebb ato, y Crist a ffodd rhag Herod yn blentyn bach ac nad  oedd ganddo do uwch ei ben am ran helaethaf ei weinidogaeth gyhoeddus yn deall trueni ffoaduriaid Wcráin a phob gwlad arall heddiw. A  chaiff ei gydymdeimlad â hwy a’i ofal amdanynt fynegiant trwy bopeth y mae ei bobl, ei Eglwys, yn ymdrechu i’w wneud er mwyn estyn cymorth iddynt hwy ac i bawb sy’n dioddef oherwydd y rhyfel.

Canrif arall, a byd arall. Heddiw, daw’r teledu a’r cyfryngau cymdeithasol â’r rhyfel atom ddydd a nos. Daeth Kyiv, Mariupol, Chernihiv, Kharkiv, Bucha, Luhansk, Donestsk, Kramatorsk a’u tebyg yn enwau rhy gyfarwydd am y rhesymau anghywir. Mor wahanol oedd hi yn 1941, ac Ambrose Bebb yn ysgrifennu ym Mangor ar Chwefror 21, wedi dwy noson o fomio: ‘Clywed sibrwd – dim ond sibrwd,  erchyll sibrwd – am ymosodiad ciaidd ar Abertawe. Neithiwr ac echnos, meddir, a sôn am alanas fawr. Gwae ni!’ Drannoeth noson olaf y bomio, meddai Bebb ar Chwefror 22, ‘Clywed eto, – clywed, nid darllen, am ladd mil a hanner o bobl yn yr ymosod ar Abertawe’. Diolch am hynny, nid oedd y sibrydion yn gwbl gywir gan mai 230 a laddwyd, gyda bron i 400 wedi eu hanafu.  Ond dyna 230 yn ormod, yn union fel mae’r miloedd a laddwyd yn Wcráin yn ormod.

Canrif arall ond yr un byd, gyda’i anghyfiawnder a’i ryfela diddiwedd. Yr un drygioni, yr un beiau, yr un difrawder a’r un dibristod o fywyd. Yr un angen am edifeirwch a maddeuant a chymod â Duw ac â chyd-ddyn. A’r un angen am y waredigaeth rhag pechod a’i ganlyniadau y daeth y Brenin a farchogodd ar asyn i Jerwsalem ar Sul y Blodau i’w sicrhau. 

Canrif arall, a thrwy drugaredd yr un Gwaredwr i fyd euog a dolurus gan fod cydymdeimlad Crist nid yn unig â ffoaduriaid pob cyfnod ond hefyd â phechaduriaid pob oes. Mae’r Crist a wylodd dros anghrediniaeth Jerwsalem ar Sul y Blodau wedi’n caru ni ddigon i farw trosom, i’n gwared rhag tân a dinistr. A’n braint yw morol am eiriau addas i gyhoeddi’r newydd da hwn.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Sul y Blodau, 10 Ebrill 2022

Unllygeidiog

Un diog ydi o. Felly roedd o yn yr ysgol fach ers talwm. Ac felly bu fyth ers hynny. Ei fai mawr ydi nad ydi o’n tynnu’i bwysau. Byddai o’n gwadu hynny o bosib, ond mae gen i hawl i ddeud. Dwi’n gwybod ei hanes ac yn ei nabod yn iawn. Dydw i wedi byw efo’r llygad chwith yma erioed!  Ond nid y llygad diog sydd ar fai fy mod i’n greadur mor unllygeidiog: yn arbennig felly efo chwaraeon, ac efo pêl droed yn benodol.

Trafod “y gêm” oeddwn i yn ystod yr wythnos. Mi wyddoch pa gêm. Cymru ac Awstria. Stadiwm orlawn. Dafydd Iwan. ‘Yma o Hyd.’ Goliau Gareth Bale. 2-1. A’r anthem! Roedd cyfaill i mi wedi dotio at y canu a’r chwarae ac yn holi am gyfrinach yr ‘awyrgylch’ rhyfeddol yn y gêm. Awgrymais fod a wnelo canu’r anthem yn ddigyfeiliant lawer â’r peth, ond mai’r wir gyfrinach yw bod pawb yn cymryd yr holl beth ‘o ddifri’. Nid achlysur cymdeithasol ond gêm ‘go iawn’. Nid penwisg wirion. Nid crwydro nôl a blaen i’r bar. Nid llwyfan i fwch gafr a band milwrol. Nid tocynnau can punt i bobl na welan nhw gêm arall trwy’r flwyddyn. Pawb yno am un rheswm syml: i weld y gêm. Mewn gair, y cyfan ‘go iawn’. Ac ydw, cyn i neb ohonoch ei ddweud, dwi’n gwybod fy mod i’n gwbl unllygeidiog yn hyn o beth!

Fel arfer, nid da bod yn unllygeidiog. Ond ambell waith gellir ei gyfiawnhau yn yr ystyr o fod â’n holl olwg ar y pethau gorau. Mi garwn er enghraifft fod â’m holl fryd ar fawrygu Duw ym mhob dim. Mi garwn fod â’m llygaid wedi eu hoelio ar Iesu a’i waith. Mi garwn fod ‘o ddifrif’ fy ngherddediad gyda Christ. Mi garwn i’m ffydd a’m bywyd defosiynol fod yn ddyfnach. Mi garwn i’m cariad at Dduw a’i bobl fod yn  bur a diragrith. Ac mi garwn i’m tystiolaeth a’m gwasanaeth i’r Iesu fod yn fwy ffyddlon; yn fwy ‘go iawn’.

Bod yn unllygeidiog yn fy mywyd Cristnogol fyddai bod yn angerddol dros Dduw, dros Grist, dros yr Efengyl a thros yr Eglwys; bod o ddifri wrth ei addoli gyda’m cyd-gristnogion ac wrth ei geisio fy hunan; caru a gwasanaethu pobl, yn gymdogion a dieithriaid, ‘go iawn’ â’m holl nerth.

Nid hobi yw’r Ffydd. Nid traddodiad yw Cristnogaeth. Nid diwylliant na ffordd o fyw ond bywyd ei hun. Dyw hobi na thraddodiad na diwylliant hyd yn oed yn hawlio unllygeidiogrwydd. Ond y mae’r Ffydd yn ei hawlio, ac y mae Duw o’i drugaredd yn ei roi i bwy bynnag sy’n ei geisio. Oherwydd Duw yn ei ras sydd yn ein bywhau ac yn ein gwneud yn bobl newydd trwy ffydd yn ei Fab. Duw yn unig fedr ein gwneud yn bobl a chennym yr un amcan o’i garu Ef â’n holl galon. Duw yn unig fedr ein galluogi i gadw ein llygaid ar Iesu Grist a’i aberth ar Galfaria. A Duw yn unig a’n gwna ni’n ddigon unllygeidiog i geisio bob dydd yr     Ysbryd Glân a’i nerth i’n galluogi i fyw er ei glod.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Ebrill 2022