Dwi wedi gwneud yn dda (er mai fi sy’n dweud). Do, dwi wedi llwyddo i fod yn dawel am dri mis ynghylch y gwaith o osod y ceblau trydan dan y briffordd o Lanberis i Gwm-y-glo ac ymlaen wedyn i Bentir. Ar Chwefror 13 y soniais ddiwethaf yn Gronyn am y gwaith hwn. Erbyn hyn, mae tri set o oleuadau traffig i dorri ein siwrnai. (Dau set a addawyd; ond beth yw un set arall rhwng ffrindiau ’de?)
Maen nhw’n tyllu’r lôn o’r hen dwnnel trên at y gylchfan newydd erbyn hyn. Cwestiwn un plentyn 6 oed o’u gweld yn cychwyn gwneud hynny oedd, ‘Pam na fasa nhw wedi gwneud hyn cyn gwneud y lôn newydd?’ Cwestiwn rhesymol a theg.
Rwy’n sylweddoli bod rhaid gwneud y gwaith ond yn cydymdeimlo’n fawr â’r bobl a orffennodd y gylchfan a’r lonydd o’i gwmpas lai na blwyddyn yn ôl. Dychmygwch blant yn codi cestyll tywod ar lan y môr, a hen fwli mawr yn dod heibio a chicio’r cyfan drosodd. Gyda phob parch i’r bobl sy’n gweithio ar y lôn ar hyn o bryd (a hynny mor ddidrafferth â phosibl i bawb ohonom, a bod yn deg), dyna’r darlun a ddaw i’m meddwl wrth yrru heibio heddiw.
Nid un y gellir ei fwlio yw’r Arglwydd Dduw. Does neb all wneud hynny i Frenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi. Does neb na dim yn medru ei ddychryn. Ond yr ydym wedi halogi ei fyd a sathru ei ddeddfau a chwalu’r gymdeithas a ddarparodd ar ein cyfer. Mae cymaint o’r pryderon presennol ynghylch y ddaear ei hun yn deillio o’r ysbeilio a’r camddefnydd a wnaed o’r adnoddau naturiol a berthyn i’r byd hardd a chyfoethog a greodd Duw ar ein cyfer. Mae deddfau perffaith Duw yn cael eu hanwybyddu a’u torri bob dydd, a ninnau’n gosod ein safonau ein hunain yn eu lle. Ac mae’r fendith a ddylai fod o gael pobl yn byw’n gytûn mewn parch a chariad yn cael ei chwalu nid yn unig gan ryfeloedd byd ond gan anghyfiawnder cymdeithasol a chasineb a chwerwedd a phob math o ddrygau eraill.
Dychmygwn siom y plentyn ar lan y môr. Dychmygwn siom y gweithwyr a fu’n ymfalchïo yn y lôn newydd y llynedd. A dychmygwn hefyd nid yn gymaint siom ein Duw ond y loes a achosir iddo gan bob amarch o’n tu ni tuag ato. Dyw’r bwli ddim yn dweud ‘sori’ wrth y plant bach. Fydd y cwmni trydan ddim yn ymddiheuro i’r bobl a fu’n gosod y gylchfan. Ond mae gofyn ein bod ni’n edifarhau am yr amarch at Dduw ei hun, ac at ei waith a’i gyfraith a’i fendithion. Ymhlith llawer o bethau eraill, gall hynny olygu: ystyried pa bethau bychain y medrwn ni eu gwneud i warchod y blaned; gwneud ymdrech fwriadol i barchu a chadw gorchmynion yr Arglwydd; ac ymroi i fyw hyd y gallwn mewn heddwch a phawb o’n cwmpas. Edifarhau am y loes yr ydym ni wedi ei achosi i Dduw ac ymdrechu, trwy ei nerth a’i ras, i fod yn fwy ffyddlon iddo o ddydd i ddydd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Mai 2022