Dydd Iau Dyrchafael

Dydd Iau diwethaf oedd un o ‘ddyddiau coll’ yr Eglwys Gristnogol: un o ddyddiau arwyddocaol bywyd a gweinidogaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Ychydig o sylw a roddir i’r diwrnod hwn, yn arbennig o’i gymharu â’r dyddiau y cofiwn arnynt enedigaeth a marwolaeth ac atgyfodiad y Gwaredwr. Ac eto, mae Dydd Iau Dyrchafael o bwys am ei fod yn coffau ymadawiad yr Arglwydd Iesu o’r byd hwn, ac felly oddi wrth ei ddisgyblion. Cofnodir y digwyddiad rhyfeddol yn niweddglo Efengyl Luc ac agoriad Llyfr yr Actau, lle gwelwn Iesu’n cael ei godi oddi ar y ddaear yng ngŵydd ei ddisgyblion cyn iddo ddiflannu o’u golwg mewn cwmwl.

Mae’r Dyrchafael, neu esgyniad Iesu Grist, yn ein sicrhau o fwy nag un gwirionedd. Esgyn i’r nefoedd a wnaeth y diwrnod hwnnw wrth gwrs, ac mae’r ffaith iddo gael ei dderbyn yn ôl i’r nefoedd yn dangos ei fod wedi cyflawni’n llawn y gwaith y daethai i’r byd i’w wneud wrth farw ac atgyfodi. Mae’r Esgyniad yn ein sicrhau wedyn mai Arglwydd a Gwaredwr byw yw Iesu gan iddo ddychwelyd i’r nefoedd, lle nad oes marwolaeth o gwbl. Mae hefyd yn ein hatgoffa fod y Crist a ddyrchafwyd i’r nefoedd nid yn unig yn teyrnasu ac yn cael ei addoli gan holl breswylwyr y nef ond hefyd yn eiriol dros ei bobl ar y ddaear. Ydy, mae Iesu Grist yn gweddïo drosom, ar i ni brofi nerth a gras i lynu wrth y ffydd a byw bob dydd er clod i Dduw.

Ond o droi nôl at y Testament Newydd mae dau beth arall sydd werth sylwi arnynt: ymateb y disgyblion a neges y ddau angel. Mae Iesu wedi paratoi ei ddisgyblion ar gyfer y dydd hwn, a hwythau felly’n gwybod mai dyma’r tro olaf y byddant yn ei weld. Ond lle byddai disgwyl iddynt fod yn drist wedi iddo fynd a’u gadael, maent yn ‘ei addoli ar eu gliniau’ a dychwelyd i Jerwsalem ‘yn llawen iawn’ (Luc 24:52). Roedd Iesu wedi eu sicrhau y byddai, wedi iddo eu gadael, yn anfon yr Ysbryd Glân atynt i’w nerthu i fod yn dystion iddo (Luc 24:46–49). Ond o gofio mor araf fu’r disgyblion i gredu a chofleidio geiriau Iesu, mae’n debyg mai geiriau’r ddau angel (y ‘ddau ŵr … mewn dillad gwyn’, Actau 1:10) sy’n egluro’u haddoliad a’u llawenydd yma.

A’r disgyblion yn sefyll ac yn ‘syllu tua’r nef’ daeth yr angylion atynt i’w sicrhau o ddau beth. Yn gyntaf, rhag bod unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd, cânt wybod mai wedi ei ddyrchafu i’r nefoedd yr oedd Iesu.  Ac yn ail, er mwyn cynnau eu gobaith a’u disgwyl cânt eu sicrhau y bydd yr Iesu hwn yn dychwelyd rhyw ddydd ‘yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef’ (Actau 1:10–11). Does ryfedd iddynt ei addoli, a does ryfedd chwaith eu bod yn llawenhau.

Addolwn ninnau’r Iesu dyrchafedig; ein Gwaredwr yn y nef, ar ei orsedd yn eiriol trosom; ein Harglwydd byw sydd i ddychwelyd rhyw ddydd yn Farnwr y byw a’r meirw.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Mai 2022

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s