Mae Cristnogion yn debyg i’w gilydd, ond mi fedran nhw fod yn wahanol iawn i’w gilydd hefyd. Ni ddylai hynny ein synnu gan fod Cristnogion pob oes yn credu yn yr un Arglwydd ond yn gymeriadau unigol ac unigryw. Yn aml iawn, ffydd yn Iesu Grist ydi’r unig beth sy’n gyffredin i Gristnogion sy’n wahanol eu diddordebau a’u diwylliant a’u gwleidyddiaeth a phopeth arall.
Mae ei hedmygedd o’i hannwyl brif weinidog yn ddigon i awgrymu i mi nad oes lawer yn gyffredin rhyngof a’r Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries. Ond roedd rhaid gwenu o ddarllen ei hymateb i adolygydd a ddywedodd mai ei nofel gyntaf hi oedd y waethaf a ddarllenodd ers talwm: awgrymodd Ms Dorries y dylai’r dyn ddarllen ei hail nofel gan ei bod ‘yn well o lawer’. Fodd bynnag, rhywbeth arall a ddarllenais amdani a dynnodd fy sylw’r dydd o’r blaen; y geiriau, o’u cyfieithu, ‘Mae Nadine Dorries yn Gristion’. Ardderchog o beth bob amser yw clywed am bobl sy’n arddel y Ffydd Gristnogol, a braf fyddai clywed rhagor am ffydd Ms Dorries, fel pob Cristion arall.
Daeth y cyfle i wneud hynny mewn cyfweliad rhyngddi a Rachel Johnson, chwaer y Prif Weinidog, a’i holodd am ei ffydd. Ond er mawr siom, tebyg i lawer o bobl sy’n ansicr ac aneglur eu ’ffydd’ yw Ms Dorries wedi’r cyfan. ‘Rydw i yn grediniwr,’ meddai, ‘Dwi’n credu fod yna dduw … Dwi yn credu … Dwi ddim yn rhywun sy’n Bible-basher nac yn rhedeg i’r eglwys bob pum munud.’ A chwarae teg iddi, roedd rhaid edmygu ei gonestrwydd pan ofynnwyd a oedd ei ‘ffydd’ yn rhoi iddi nerth yn wyneb bryntni byd gwleidyddiaeth: ‘Dwi ddim cymaint o grediniwr â hynny … Dwi ddim yn meddwl fod fy ffydd mor gryf … dydi o ddim yn sail i bob peth a wnaf.’
Y gorau y medrai ei ddweud oedd bod a wnelo’i ffydd â’i syniad o’r da a’r drwg a’i bod yn credu fod yna gynllun i bawb a phopeth. A bod yn deg â hi, wn i ddim a fyddai Nadine Dorries yn ei galw’i hun yn Gristion erbyn hyn, beth bynnag ei chefndir. Mae’r hyn a ddywedodd yn y cyfweliad yn sicr yn awgrymu nad yw disgrifiad yr erthygl ohoni’n gywir. Nid ‘credu fod yna dduw’ yw ystyr ‘credu’ i’r Cristion ond ymddiried â’r holl galon yn y Gwaredwr Iesu Grist, Mab Duw. Nid yw’r Cristion yn dirmygu’r Beibl a phawb sy’n ei gredu nac yn ddilornus o’r arfer o fynychu capel neu eglwys. Ac er cydnabod gwendid a methiant i ymddiried yn Nuw fel y dylai, mae gan y Cristion ryw syniad a phrofiad o nerth a chymorth Duw yn ei fywyd bob dydd. Mae llawer mwy i’r Ffydd Gristnogol na hyn.
Gweddïwn dros bawb tebyg i Nadine Dorries – pwy bynnag ydynt – sydd mor annelwig ac ansicr eu ‘cred’, ar iddynt ddod i weld mai ymddiriedaeth yn Iesu Grist yw swm a sylwedd ‘credu’ i’r Cristion.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mehefin 2022