Aros am yr Ysbryd

Beth pe byddai …?  Pe byddwn wedi gwneud y peth yma?  Neu heb wneud y peth acw? Anodd ydi deud beth allasai fod wedi digwydd dan amgylchiadau gwahanol.

Ond nid felly heddiw ar y Pentecost wrth i ni gofio’r hyn a ddigwyddodd i ddisgyblion yr Arglwydd Iesu ddeng niwrnod wedi iddo esgyn i’r nefoedd a hanner can diwrnod wedi’r atgyfodiad. Rhoesai Iesu Grist addewid a siars i’w ddisgyblion: ‘Ac yn awr yr wyf fi’n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth’ (Luc 24:49).  Pe na fyddent wedi gwneud yr hyn a orchmynnodd, ond yn bwysicach fyth pe na fyddai Duw wedi cadw ei addewid iddynt, gwyddom beth fyddai wedi digwydd. Neu, yn fwy cywir, yr hyn na fyddai wedi digwydd.

Pe na fyddai’r Ysbryd Glân wedi ei roi iddynt, ni fyddai’r disgyblion wedi dod yn dystion i’r Efengyl. Ni fyddent wedi ymdaflu i’w cenhadaeth. Ni fyddai’r Efengyl wedi ei lledaenu. Ni fyddai’r cenhedloedd wedi troi at Grist. Ni fyddai’r Eglwys wedi ei sefydlu. Mor wahanol fyddai hanes y byd cyfan. Ac mor wahanol ein bywydau ninnau pe na fyddai’r Ysbryd wedi dod mewn nerth y diwrnod hwnnw. 

Mae’r Pentecost yn amlwg yn un o ddyddiau allweddol ein Ffydd,  ac mae tywalltiad yr Ysbryd Glân yn un o’i digwyddiadau hanfodol. Y mae yr un mor hanfodol i’r Ffydd a’r Eglwys â’r hyn a ddathlwn ar y Nadolig a’r Pasg gan ei fod yn rhan o gynllun Duw i fynd â’r newydd da am Iesu Grist a’i waith achubol i bob cwr o’r byd.  Yn hynny o beth, roedd y Pentecost yn unigryw a’r diwrnod hwnnw felly’n un o’r dyddiau mawr sy’n bwrw ei gysgod dros hanes ein byd.  Ni fyddai’r un ohonom yn credu yng Nghrist pe na fyddai’r Ysbryd wedi ei roi a phe na fyddai’r disgyblion wedi eu nerthu ar gyfer eu cenhadaeth.

Dathlwn y Pentecost gan ddiolch am yr olwg ar y digwyddiad rhyfeddol a gawn yn Llyfr yr Actau.  Ond er ei fod yn ddigwyddiad unigryw, cofiwn mai trwy’r un Ysbryd y cyflawnir gwaith Duw ym mhob oes. Ers y Pentecost bu’r Ysbryd Glân ar waith yn bywhau ac arwain a nerthu Eglwys Iesu Grist. Ac yn nerth yr Ysbryd hwnnw y mae i ninnau obaith o gyflawni ein gwaith. Dim ond  trwy ei ddylanwad y gwêl yr Eglwys fendith a llwyddiant.

Rhwng y Dyrchafael a’r Pentecost, ‘aros’ i’r disgyblion oedd ‘dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi’ (Actau 1:14).  Esgorodd y gweddïo ar ufudd-dod i Dduw wrth iddynt ddewis Mathias i gymryd lle Jwdas Iscariot. Ond heb os, prif nodwedd yr ‘aros’ oedd erfyn ar Dduw i wireddu’r addewid i roi iddynt yr Ysbryd. Ym mhopeth a wnawn yng  ngwasanaeth Crist, boed yr ‘aros’ hwn yn brofiad i ni, wrth i ninnau erfyn am dywalltiad grasol o Ysbryd Glân Duw i ysgwyd byd a betws trwy ddyrchafu enw Iesu a thynnu pobl ato.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Y Sulgwyn, 05 Mehefin 2022

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s