Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban yr wythnos ddiwethaf y cyntaf o gyfres o ‘bapurau’ a fydd yn cyflwyno’r achos dros alw refferendwm arall ynghylch annibyniaeth. Ac ar unwaith, yr hyn a’m trawodd o wylio News at Ten y BBC a gwrando ar Radio 5 Live oedd y duedd i orffen pob adroddiad ynglŷn â hyn ar nodyn ‘negyddol’. Bwletin 5 Live er enghraifft yn cyfeirio at yr hyn a ddywedodd Nicola Sturgeon yn ei chynhadledd newyddion, ond yn cloi’r adroddiad trwy ddarlledu ymateb beirniadol Boris Johnson. A News at Ten yn rhoi sylw i ffermwr pleidiol i annibyniaeth ond yn cloi efo bragwr a bleidleisiodd o blaid annibyniaeth yn Refferendwm 2014 ond sydd bellach yn ei erbyn.
Rhaid cyflwyno dwy ochr y ddadl, ond rwy’n ofni mai ernes a welwn yma o’r hyn a gawn ni dros y misoedd nesaf: rhoi llais i’r ddwy ochr, ond cloi yn amlach na heb (os nad yn ddieithriad) efo’r gwrthwynebiad i annibyniaeth. A thrwy hynny, am ein bod yn tueddu i ddal gwell sylw ar yr hyn a glywn ar ddiwedd adroddiad, hyrwyddo’r farn wrthwynebus i annibyniaeth (gan roi’r argraff o fod yn ddiduedd). Byddai’n dda gen i fod yn anghywir yn hyn o beth, ond rwy’n ofni mai dyma fydd y patrwm. Gwyddom beth i’w ddisgwyl.
Yn wahanol i’r BBC, does dim angen i’r Eglwys Gristnogol fod yn ddiduedd. Rwy’n gobeithio o’r herwydd fod pobl yn gwybod beth i’w ddisgwyl oddi wrthi, nid o ran gwleidyddiaeth ond o ran ei neges sylfaenol a chanolog. Does yna ddim byd diduedd ynglŷn ag Eglwys Iesu Grist: mae hi o blaid y Ffydd, o blaid yr Efengyl, o blaid ei Harglwydd. A chyhoeddi’r newyddion da am Grist a ffordd iachawdwriaeth yw ei galwad a’i chyfrifoldeb. Sut bynnag a thrwy ba gyfrwng bynnag y gwna hi hynny, yr un yw ei neges. O oes i oes, bu’r Eglwys yn cyhoeddi bywyd a marwolaeth ac atgyfodiad Crist ac yn galw ar bobl i gredu ynddo a derbyn trwyddo fywyd newydd a gobaith sicr. Ac oes, mae gan bobl hawl i ddisgwyl mai’r gwirionedd am Grist y bydd yr Eglwys yn ei gyhoeddi o hyd.
Ar bob cyfrif, ceisiwn ffyrdd newydd a gwahanol o gyflwyno’r neges honno. Trwy bob cyfrwng hen a newydd, yn nerth yr Ysbryd Glân awn â’r Efengyl i sylw pobl ein hoes. A maddeued Duw i ni am bob esgeulustod yn y gwaith hwn. Ond beth bynnag y cyfrwng a’r negesydd a’r amrywiol faterion y mae Eglwys Crist yn ymgodymu â hwy ar wahanol adegau, gwyddom beth i’w ddisgwyl oddi wrthi. ‘Y gair am y groes’ (1 Cor. 1:18) yw pob dim i’r Eglwys. Dyma galon y Ffydd, ac nid yw’r Eglwys yn ymddiheuro i neb am dynnu sylw pobl drachefn a thrachefn at yr hyn a gyflawnodd Crist trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Ac fel pobl y Ffydd honno, gwyddom beth i’w ddisgwyl bob tro y daw neb atom yn enw Crist: gair a fydd dyrchafu ein hannwyl Waredwr a’i arw groes.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Mehefin 2022