‘Dwi isio bod yn Dori?’

Credwch neu beidio, mae bron hanner can mlynedd ers i Huw Jones ganu ‘Dwi isio bod yn Sais’. Af fi ddim mor bell ag aralleirio’r gân heddiw a dweud, ‘Dwi isio bod yn Dori’, ond dwi’n cael fy nhemtio i awgrymu y byddai’n ‘braf bod yn Dori’.

Nid unrhyw Dori cofiwch, ond y math o Dori a fu dros y pythefnos diwethaf yn ymgiprys am swydd Arweinydd y blaid. Erbyn hyn, dau yn unig sydd yn y ras a’r ddau hynny, yn fwy na’r un o’r ymgeiswyr eraill, sy’n nodweddu’r math o Dori dan sylw. Mor braf fyddai bod fel Rishi Sunak a Liz Truss. Nid mod i am un eiliad yn chwennych bod yn Brif Weinidog nac yn arweinydd plaid na hyd yn oed yn wleidydd. Ond mor braf (os braf hefyd) fyddai medru gwadu pob cyfrifoldeb am bob llanast.

Pe na fyddem yn gwybod yn wahanol, fyddai neb o wrando ar y ddau’n sôn am fethiannau llywodraethau diweddar San Steffan wedi dychmygu mai eu plaid hwy a fu mewn grym ers 2010. Fyddai neb chwaith wedi dychmygu bod y ddau wedi dal swyddi allweddol yn eu Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir yr argraff na fu a wnelon nhw na’u plaid ag unrhyw wendid neu fethiant a gaed ym mhenderfyniadau’r Llywodraeth ers deuddeng mlynedd. Ie, mor braf fyddai bod yn Dori – dim ond am ennyd, dim ond pan fo’r gydwybod yn fy mhoeni a’r euogrwydd yn llethu. Mor braf fyddai bod yn Dori a chael gwadu pob cyfrifoldeb am unrhyw beth a phopeth aeth o’i le.

Ond nid felly y mae hi yn y byd go iawn, wrth gwrs. Yn hwnnw, mae’n rhaid derbyn ac ysgwyddo cyfrifoldeb am yr hyn a wnawn. Chawn ni ddim cau ein llygaid i’n camgymeriadau a’n beiau.  Ac yn sicr, chawn ni ddim beio pawb a phopeth arall am bethau a wnaethom ni neu bethau y bu gennym ni ryw fesur o gyfrifoldeb amdanynt.  Mae cydnabod bai wrth wraidd profiad y Cristion o adnabod Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd.

Ni all yr un ohonom ymffrostio yn ein cyflawniadau pitw o feddwl am gyflwr Achos Crist yn ein plith. Y peth olaf y dylem ei wneud yw mynnu nad oes a wnelom â’r marweidd-dra a’r tlodi sydd i raddau helaeth yn nodweddu’r Eglwys yn ein gwlad. Dim ond ffŵl fyddai’n dadlau nad oes a wnelo oerni fy nghariad at Grist a gwendid fy nhystiolaeth a chloffni fy ngweddïau dros y blynyddoedd â chyflwr y gwaith a’r eglwysi yr wyf yn eu gwasanaethu. Gwae fi os wyf am un eiliad yn credu fy mod i’n ddi-euog ac yn mynnu mai eraill sydd ar fai. Mae’r Arglwydd yn ceisio gennym edifeirwch am bob pechod a bai. Ond wedi dweud hynny, rhaid gochel rhag ein beio’n hunain am holl ddiffygion a thlodi’r Eglwys. Mae yna bethau y tu hwnt i’n rheolaeth. Rhaid cofio hefyd mai’r Arglwydd Dduw sy’n ben dros ei waith ei hun a’i fod yn fwy nag abl, pe dymunai wneud hynny, i fendithio a llwyddo ei waith er ein gwaethaf ni a’n beiau.  Nid gwadu fy nghyfrifoldeb ydi cydnabod ei allu a galw arno i lwyddo’i waith.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2022

Tystion

Pum munud ar hugain i bump, nos Wener, y pymthegfed o fis Gorffennaf. Eleni.  Echnos. Ac roeddwn i yno ar flaen y ciw, ar yr union funud, yn dyst i’r peth. Dyna fraint, a dyna gyffro, er nad oedd y peth ei hun o bosib o fawr bwys i rai ohonoch. Ond i bawb a fu’n byw efo’r holl waith ar y lôn rhwng Llanberis a Chwm-y-glo ers dechrau’r flwyddyn, roedd gweld y goleuadau traffig ger Llwyn Coed yn cael eu cadw yn achos dathlu, coeliwch fi. Nid bod y gwaith yn dod i ben. Wedi chwe mis, megis dechrau y mae’r cyfan, ac mae gennym flynyddoedd o oedi o’n blaen eto – blynyddoedd o Waitings wrth  oleuadau. Mae’r egwyl fyrraf i’w chroesawu, hyd yn oed os mai dros benwythnos Ras yr Wyddfa yn unig y bydd hynny yn achos y goleuadau nesaf at Lanberis. Ond gan fod y gwaith i fod i oedi dros wyliau’r haf mae  gobaith y cawn ni cyn bo hir lôn glir am sbel.

Nid fi oedd yr unig dyst. Fi oedd ar flaen y ciw, ond roedd hanner dwsin o geir y tu ôl i mi a chryn ddwsin yn dod o’r cyfeiriad arall. Ond doedd dim rhaid bod yno nos Wener i allu tystio i ddiflaniad y goleuadau traffig. Gall pawb a aeth heibio ers nos Wener wneud hynny hefyd. Mae’r ffordd yn glir, a’r peiriannau a’r rhwystrau wedi mynd (am y tro!)

Welodd neb atgyfodiad Iesu Grist, ac eto cafwyd tystion i’r digwyddiad. Roedd mwy na digon o dystiolaeth i’r gwragedd a’r disgyblion allu cyhoeddi ei fod yn ôl yn fyw ac wedi dod allan o’r bedd. Ac er ein bod ni’n bellach o lawer oddi wrth y digwyddiad na’r bobl hyn, gallwn ninnau dystio i’r ffaith fod ein Gwaredwr Iesu’n fyw.

Doedd raid i’r ffrindiau hyn weld â’u llygaid er mwyn bod yn dystion, a does raid i ninnau chwaith. Mae yn y Beibl fwy na digon o dystiolaeth am fywyd a gweinidogaeth Iesu Grist i’n gwneud ninnau’n dystion iddo. Dan ddylanwad yr Ysbryd Glân cawn ein hargyhoeddi fod y cyfan a ddywedir amdano’n wir. Ac o gredu’r dystiolaeth down ninnau hefyd, fel pawb arall a gredodd ar hyd y canrifoedd, yn dystion i’r person mwyaf a phwysicaf a fu. Er na welsom mohono, ac er i ni fyw mewn man a chyfnod gwahanol, mae ein tystiolaeth mor sicr a dibynadwy â phe byddem wedi bod yno gydag unrhyw un o’r bobl a’i gwelodd o’i grud i’w fedd am ei bod yn seiliedig ar yr hyn a ddywed Gair Duw amdano.

Gwn i sicrwydd fod y goleuadau wedi eu cadw nos Wener am fy mod wedi gweld â’m llygaid fy hun. Rwyf hyd yn oed yn fwy sicr o’r dystiolaeth am eiriau a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist gan mai’r Beibl sy’n tystio iddynt. A’r fath fraint a gawsom o gael tystiolaeth mor glir a dibynadwy: tystiolaeth Duw ei hun i’w Fab. Dros dro yn unig y bydd y rhyddhad a deimlais nos Wener gan mai yn ôl y daw’r goleuadau, ond nid felly’r bendithion y tystia’r Beibl iddynt. Bendithion sydd i bara am byth a ddaw i ni trwy Iesu Grist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Gorffennaf 2022

Oni bai am ras

Mr Johnson druan. A dyna fi wedi dechrau’r golofn hon am yr ail wythnos yn olynol gyda’r un frawddeg! Ond yn wahanol i’r wythnos ddiwethaf, am y Prif Weinidog yr wyf yn sôn. Ia, druan ohono. Nid am iddo, yn ôl y gwêl o bethau, ddioddef oherwydd ‘greddf yr haid’ wrth i’w aelodau seneddol droi arno o un i un. Nid am iddo golli’r swydd y bu’n ein chwenychu cyhyd. Nid hyd yn oed am y bydd raid iddo adael fflat moethus y papur wal drud.

Druan ohono am na allai newid. Mwy na thebyg y byddai pethau’n wahanol iawn pe byddai wedi medru gwneud hynny. Ond yn ôl ei gyfaddefiad ei hun lai na thair wythnos yn ôl nid oedd unrhyw bosibilrwydd y gallai brofi ‘rhyw fath o drawsnewidiad seicolegol’. Nid cyffes onest oedd y geiriau hyn ond her i’w feirniaid: ‘Dwi ddim am newid!’ O bosib ei bod bellach yn edifar ganddo ddweud hyn gan fod y geiriau’n sicr wedi cyfrannu at ei gwymp trwy ddryllio unrhyw obaith a fu gan rai o’i aelodau seneddol y byddai, yn hwyr neu hwyrach, yn newid ei ffyrdd. Ia, druan ohono. Pe byddai ond wedi rhoi’r awgrym lleiaf o fwriad i newid gallasai pethau fod mor wahanol iddo. Ond unwaith y dechreuodd aelodau blaenllaw ei blaid seneddol o’r diwedd sylweddoli bod celwyddau a diffyg gonestrwydd eu Prif Weinidog yn gwneud drwg gwirioneddol i’w hachos yr oedd ar ben ar un a fu’n ddigon digywilydd ac annoeth i gyhoeddi na fedrai ac na fyddai’n newid.

Druan ohono. Nid hawdd ydi cefnu ar arferion oes. Anodd os nad amhosibl ydi newid a gwella ymddygiad a pheidio â phechu. Nid Boris Johnson ydi’r cyntaf i weld na all wneud hynny  na’r cyntaf i gydnabod nad oes arno hyd yn oed awydd i wneud hynny. Ac nid fo fydd yr olaf chwaith.

Onid y gwir amdani yw mai felly y byddem ninnau oni bai am ras Duw? Gras Duw sy’n ein goleuo i weld ein beiau; gras Duw sy’n ein gwneud yn edifeiriol; gras Duw sy’n ein galluogi i gefnu ar bechod ac i geisio bod yn well. Gras Duw sy’n ein gwneud yn bobl newydd trwy ffydd yn Iesu Grist. Nid ‘trawsnewidiad seicolegol’ fel y soniodd Mr Johnson amdano, nac ymdrech ddynol, na phenderfyniad i droi dalen newydd sydd eu hangen ond y galon newydd y mae Duw yn ei rhoi i bwy bynnag sydd, trwy ras, yn troi at ei Fab Iesu Grist.

Oni bai am ras Duw ni fyddwn innau erioed wedi gweld angen am newid. Oni bai am ras mi fyddwn yn berffaith fodlon ar fy mywyd amherffaith. Oni bai am ras ni fyddwn wedi ceisio maddeuant Duw o gwbl. Ac oni bai am ras ni fyddwn erioed wedi gweld gwerth yn yr Arglwydd Iesu Grist a’i aberth trosof ar Galfaria. Gras Duw sy’n ein galluogi i garu Duw, caru’r gwir a charu eraill yn fwy hyd yn oed nag yr ydym yn ein caru ni’n hunain.  Ie, oni bai am y gras hwnnw yn Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr, druan ohonom ninnau hefyd. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Gorffennaf 2022

Cwrteisi Johnson

Mr Johnson druan. Maen nhw’n deud ei fod mor glên. Ac eto roedd bron pawb yn ei erbyn.  Doedd ryfedd bod golwg flinedig arno’r noson o’r blaen. At y diwedd, roedd o’n amlwg wedi cael mwy na digon ac yn falch o gael dianc o olwg y camerâu.

Mae ambell un yn awgrymu bod ei ddyddiau gorau drosodd a’i bod yn bosibl na welwn lawer o Mr Johnson eto ar y llwyfan mawr. Gobeithio na ddigwydd hynny. Yn ôl a glywais, mae o’n gwrtais a charedig, a byddai’n biti mawr colli rhywun felly sy’n esiampl dda i’w gydweithwyr a’r genhedlaeth sy’n codi.

Yn aml iawn, y pethau bychain sy’n bwysig ac yn dweud cyfrolau. Nos Wener, enillodd Cameron Norrie ei gêm ar y Cwrt Canol yn Wimbledon. Yn Seland Newydd y magwyd ef, ond Cymraes yw ei fam ac Albanwr yw ei dad. Ond rhywbeth a ddywedwyd am ei wrthwynebwr nos Wener a dynnodd fy sylw: ‘Ar ddechrau pob gêm ar ei “serf” ei hun, mae o’n diolch i’r hogia neu’r genod sy’n taflu’r peli ato’. Mae’r ffaith fod y sylwebydd wedi crybwyll hyn yn amlwg yn dangos ei fod yn anghyffredin. Mae pethau bach felly yn werth eu clywed ac yn ennyn parch. Chwarae teg iddo, a hir y parhao Steve Johnson yn esiampl yn hyn o beth i’w gyd-chwaraewyr.

Byddai’n ddifyr iawn gwybod a oedd unrhyw arwyddocâd i’r groes a wisgai Steve Johnson ar y gadwyn o amgylch ei wddf. Mae’n bosibl nad oedd ond addurn, ond tybed a oedd yn arwydd o ffydd?  Wn i ddim. Ond mi wn fod y pethau lleiaf yn medru bod yn arwydd o ffydd y Cristion, ac mai trwy bethau bychain y bydd eraill yn sylwi ar y ffydd honno.

Dweud diolch; dweud ‘sori’; holi am hynt a helynt; bod yn gwmni; cadw cefn; gwneud neges; torri’r ardd; anfon neges ffôn neu lythyr neu e-bost: gall cant a mil o bethau bychain ddangos cariad a gofal y Cristion am eraill. Yn aml, y pethau bychain yw’r pethau pwysicaf gan mai dyna sy’n gwneud argraff ar bobl. Gweld parodrwydd Cristnogion i wneud y pethau bychain sy’n peri i rai gymryd eu tystiolaeth i’r Arglwydd Iesu Grist a’u ffydd ynddo o ddifrif. Ar brydiau, nid ein geiriau o dystiolaeth i Grist a’i waith – er mor bwysig yw’r rheiny – sy’n siarad orau ond y gweithredoedd syml o gariad a thosturi sy’n deillio o waith grasol Crist ynom.  A gall prinder y fath weithredoedd ddweud cyfrolau am natur a dilysrwydd ein ffydd. Dyma a ddywed Iesu wrthym: ‘Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd’ (Mathew 5:16).

Peidiwn byth â blino ar wneud daioni nac ar wneud y gweithredoedd lleiaf gan fod y weithred leiaf un yn medru llefaru’n eglur am gariad Duw sy’n ein cymell ninnau i garu a gwasanaethu.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Gorffennaf 2022