Mr Johnson druan. Maen nhw’n deud ei fod mor glên. Ac eto roedd bron pawb yn ei erbyn. Doedd ryfedd bod golwg flinedig arno’r noson o’r blaen. At y diwedd, roedd o’n amlwg wedi cael mwy na digon ac yn falch o gael dianc o olwg y camerâu.
Mae ambell un yn awgrymu bod ei ddyddiau gorau drosodd a’i bod yn bosibl na welwn lawer o Mr Johnson eto ar y llwyfan mawr. Gobeithio na ddigwydd hynny. Yn ôl a glywais, mae o’n gwrtais a charedig, a byddai’n biti mawr colli rhywun felly sy’n esiampl dda i’w gydweithwyr a’r genhedlaeth sy’n codi.
Yn aml iawn, y pethau bychain sy’n bwysig ac yn dweud cyfrolau. Nos Wener, enillodd Cameron Norrie ei gêm ar y Cwrt Canol yn Wimbledon. Yn Seland Newydd y magwyd ef, ond Cymraes yw ei fam ac Albanwr yw ei dad. Ond rhywbeth a ddywedwyd am ei wrthwynebwr nos Wener a dynnodd fy sylw: ‘Ar ddechrau pob gêm ar ei “serf” ei hun, mae o’n diolch i’r hogia neu’r genod sy’n taflu’r peli ato’. Mae’r ffaith fod y sylwebydd wedi crybwyll hyn yn amlwg yn dangos ei fod yn anghyffredin. Mae pethau bach felly yn werth eu clywed ac yn ennyn parch. Chwarae teg iddo, a hir y parhao Steve Johnson yn esiampl yn hyn o beth i’w gyd-chwaraewyr.
Byddai’n ddifyr iawn gwybod a oedd unrhyw arwyddocâd i’r groes a wisgai Steve Johnson ar y gadwyn o amgylch ei wddf. Mae’n bosibl nad oedd ond addurn, ond tybed a oedd yn arwydd o ffydd? Wn i ddim. Ond mi wn fod y pethau lleiaf yn medru bod yn arwydd o ffydd y Cristion, ac mai trwy bethau bychain y bydd eraill yn sylwi ar y ffydd honno.
Dweud diolch; dweud ‘sori’; holi am hynt a helynt; bod yn gwmni; cadw cefn; gwneud neges; torri’r ardd; anfon neges ffôn neu lythyr neu e-bost: gall cant a mil o bethau bychain ddangos cariad a gofal y Cristion am eraill. Yn aml, y pethau bychain yw’r pethau pwysicaf gan mai dyna sy’n gwneud argraff ar bobl. Gweld parodrwydd Cristnogion i wneud y pethau bychain sy’n peri i rai gymryd eu tystiolaeth i’r Arglwydd Iesu Grist a’u ffydd ynddo o ddifrif. Ar brydiau, nid ein geiriau o dystiolaeth i Grist a’i waith – er mor bwysig yw’r rheiny – sy’n siarad orau ond y gweithredoedd syml o gariad a thosturi sy’n deillio o waith grasol Crist ynom. A gall prinder y fath weithredoedd ddweud cyfrolau am natur a dilysrwydd ein ffydd. Dyma a ddywed Iesu wrthym: ‘Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd’ (Mathew 5:16).
Peidiwn byth â blino ar wneud daioni nac ar wneud y gweithredoedd lleiaf gan fod y weithred leiaf un yn medru llefaru’n eglur am gariad Duw sy’n ein cymell ninnau i garu a gwasanaethu.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Gorffennaf 2022