Oni bai am ras

Mr Johnson druan. A dyna fi wedi dechrau’r golofn hon am yr ail wythnos yn olynol gyda’r un frawddeg! Ond yn wahanol i’r wythnos ddiwethaf, am y Prif Weinidog yr wyf yn sôn. Ia, druan ohono. Nid am iddo, yn ôl y gwêl o bethau, ddioddef oherwydd ‘greddf yr haid’ wrth i’w aelodau seneddol droi arno o un i un. Nid am iddo golli’r swydd y bu’n ein chwenychu cyhyd. Nid hyd yn oed am y bydd raid iddo adael fflat moethus y papur wal drud.

Druan ohono am na allai newid. Mwy na thebyg y byddai pethau’n wahanol iawn pe byddai wedi medru gwneud hynny. Ond yn ôl ei gyfaddefiad ei hun lai na thair wythnos yn ôl nid oedd unrhyw bosibilrwydd y gallai brofi ‘rhyw fath o drawsnewidiad seicolegol’. Nid cyffes onest oedd y geiriau hyn ond her i’w feirniaid: ‘Dwi ddim am newid!’ O bosib ei bod bellach yn edifar ganddo ddweud hyn gan fod y geiriau’n sicr wedi cyfrannu at ei gwymp trwy ddryllio unrhyw obaith a fu gan rai o’i aelodau seneddol y byddai, yn hwyr neu hwyrach, yn newid ei ffyrdd. Ia, druan ohono. Pe byddai ond wedi rhoi’r awgrym lleiaf o fwriad i newid gallasai pethau fod mor wahanol iddo. Ond unwaith y dechreuodd aelodau blaenllaw ei blaid seneddol o’r diwedd sylweddoli bod celwyddau a diffyg gonestrwydd eu Prif Weinidog yn gwneud drwg gwirioneddol i’w hachos yr oedd ar ben ar un a fu’n ddigon digywilydd ac annoeth i gyhoeddi na fedrai ac na fyddai’n newid.

Druan ohono. Nid hawdd ydi cefnu ar arferion oes. Anodd os nad amhosibl ydi newid a gwella ymddygiad a pheidio â phechu. Nid Boris Johnson ydi’r cyntaf i weld na all wneud hynny  na’r cyntaf i gydnabod nad oes arno hyd yn oed awydd i wneud hynny. Ac nid fo fydd yr olaf chwaith.

Onid y gwir amdani yw mai felly y byddem ninnau oni bai am ras Duw? Gras Duw sy’n ein goleuo i weld ein beiau; gras Duw sy’n ein gwneud yn edifeiriol; gras Duw sy’n ein galluogi i gefnu ar bechod ac i geisio bod yn well. Gras Duw sy’n ein gwneud yn bobl newydd trwy ffydd yn Iesu Grist. Nid ‘trawsnewidiad seicolegol’ fel y soniodd Mr Johnson amdano, nac ymdrech ddynol, na phenderfyniad i droi dalen newydd sydd eu hangen ond y galon newydd y mae Duw yn ei rhoi i bwy bynnag sydd, trwy ras, yn troi at ei Fab Iesu Grist.

Oni bai am ras Duw ni fyddwn innau erioed wedi gweld angen am newid. Oni bai am ras mi fyddwn yn berffaith fodlon ar fy mywyd amherffaith. Oni bai am ras ni fyddwn wedi ceisio maddeuant Duw o gwbl. Ac oni bai am ras ni fyddwn erioed wedi gweld gwerth yn yr Arglwydd Iesu Grist a’i aberth trosof ar Galfaria. Gras Duw sy’n ein galluogi i garu Duw, caru’r gwir a charu eraill yn fwy hyd yn oed nag yr ydym yn ein caru ni’n hunain.  Ie, oni bai am y gras hwnnw yn Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr, druan ohonom ninnau hefyd. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Gorffennaf 2022

Gadael sylw