‘Dwi isio bod yn Dori?’

Credwch neu beidio, mae bron hanner can mlynedd ers i Huw Jones ganu ‘Dwi isio bod yn Sais’. Af fi ddim mor bell ag aralleirio’r gân heddiw a dweud, ‘Dwi isio bod yn Dori’, ond dwi’n cael fy nhemtio i awgrymu y byddai’n ‘braf bod yn Dori’.

Nid unrhyw Dori cofiwch, ond y math o Dori a fu dros y pythefnos diwethaf yn ymgiprys am swydd Arweinydd y blaid. Erbyn hyn, dau yn unig sydd yn y ras a’r ddau hynny, yn fwy na’r un o’r ymgeiswyr eraill, sy’n nodweddu’r math o Dori dan sylw. Mor braf fyddai bod fel Rishi Sunak a Liz Truss. Nid mod i am un eiliad yn chwennych bod yn Brif Weinidog nac yn arweinydd plaid na hyd yn oed yn wleidydd. Ond mor braf (os braf hefyd) fyddai medru gwadu pob cyfrifoldeb am bob llanast.

Pe na fyddem yn gwybod yn wahanol, fyddai neb o wrando ar y ddau’n sôn am fethiannau llywodraethau diweddar San Steffan wedi dychmygu mai eu plaid hwy a fu mewn grym ers 2010. Fyddai neb chwaith wedi dychmygu bod y ddau wedi dal swyddi allweddol yn eu Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir yr argraff na fu a wnelon nhw na’u plaid ag unrhyw wendid neu fethiant a gaed ym mhenderfyniadau’r Llywodraeth ers deuddeng mlynedd. Ie, mor braf fyddai bod yn Dori – dim ond am ennyd, dim ond pan fo’r gydwybod yn fy mhoeni a’r euogrwydd yn llethu. Mor braf fyddai bod yn Dori a chael gwadu pob cyfrifoldeb am unrhyw beth a phopeth aeth o’i le.

Ond nid felly y mae hi yn y byd go iawn, wrth gwrs. Yn hwnnw, mae’n rhaid derbyn ac ysgwyddo cyfrifoldeb am yr hyn a wnawn. Chawn ni ddim cau ein llygaid i’n camgymeriadau a’n beiau.  Ac yn sicr, chawn ni ddim beio pawb a phopeth arall am bethau a wnaethom ni neu bethau y bu gennym ni ryw fesur o gyfrifoldeb amdanynt.  Mae cydnabod bai wrth wraidd profiad y Cristion o adnabod Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd.

Ni all yr un ohonom ymffrostio yn ein cyflawniadau pitw o feddwl am gyflwr Achos Crist yn ein plith. Y peth olaf y dylem ei wneud yw mynnu nad oes a wnelom â’r marweidd-dra a’r tlodi sydd i raddau helaeth yn nodweddu’r Eglwys yn ein gwlad. Dim ond ffŵl fyddai’n dadlau nad oes a wnelo oerni fy nghariad at Grist a gwendid fy nhystiolaeth a chloffni fy ngweddïau dros y blynyddoedd â chyflwr y gwaith a’r eglwysi yr wyf yn eu gwasanaethu. Gwae fi os wyf am un eiliad yn credu fy mod i’n ddi-euog ac yn mynnu mai eraill sydd ar fai. Mae’r Arglwydd yn ceisio gennym edifeirwch am bob pechod a bai. Ond wedi dweud hynny, rhaid gochel rhag ein beio’n hunain am holl ddiffygion a thlodi’r Eglwys. Mae yna bethau y tu hwnt i’n rheolaeth. Rhaid cofio hefyd mai’r Arglwydd Dduw sy’n ben dros ei waith ei hun a’i fod yn fwy nag abl, pe dymunai wneud hynny, i fendithio a llwyddo ei waith er ein gwaethaf ni a’n beiau.  Nid gwadu fy nghyfrifoldeb ydi cydnabod ei allu a galw arno i lwyddo’i waith.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2022