
Gan fod y Bwystfil wedi ei ddal mewn traffig yn Llundain fore Llun roedd Mr Biden a’i wraig rai munudau’n hwyrach na’r disgwyl yn cyrraedd Abaty Westminster. O bosib y byddai wedi bod yn haws iddyn nhw fynd ar y bws gydag eraill o’r gwladweinwyr yn hytrach na defnyddio’r Bwystfil, y car arlywyddol anferth a gludwyd yn unswydd o America. Ond roedden nhw yn eu lle mewn da bryd ar gyfer yr angladd. Ac wrth gwrs, doedd a wnelo’r oedi ddim oll â’r ffaith eu bod yn eistedd bedair rhes ar ddeg yn ôl o’r rhes flaen yn y rhan o’r Abaty a neilltuwyd ar gyfer y llu o arweinwyr gwledydd byd oedd yn bresennol.
Roedd gweld eu harlywydd yn eistedd mor bell yn ôl o’r blaen yn anodd i rai Americanwyr. Ond mae’n siŵr fod Mr Biden ei hun yn deall mai’r drefn ar gyfer yr angladd oedd bod arweinwyr gwledydd y Gymanwlad yn eistedd yn nes i’r blaen nag arweinwyr gwledydd eraill. Gallwn ddiolch nad y bwystfil arall hwnnw, yr arlywydd blaenorol, oedd yno ac yntau wedi cyhoeddi ar unwaith o weld yr olygfa, ‘Pe bawn i’n Arlywydd fydden nhw ddim wedi fy ngosod i eistedd mor bell yn ôl!’. Bydden, mi fydden nhw, Mr Trump! Ond dychmygwch yr helynt a fyddai wrth i hwnnw geisio ymwthio i un o’r seddi blaen cyn i’r oedfa ddechrau.
Pan welodd Iesu bobl o’r un feddwl â Mr Trump meddai, ‘Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd … Dos a chymer y lle isaf’ (Luc 14:7-11). Aeth ymlaen i egluro mai rheitiach fyddai cael gwahoddiad i symud yn nes at ben y bwrdd na chael gorchymyn i symud yn nes at y gwaelod.
Pwrpas y ddameg fach hon gan Iesu oedd dangos mor allweddol i’r Cristion yw gostyngeiddrwydd, am ddau reswm. Yn gyntaf, gostyngeiddrwydd oedd yn nodweddu Iesu Grist wrth iddo’i dlodi ei hun a gwasanaethu eraill hyd angau ar groes. Gelwir ei ddilynwyr i’w efelychu trwy eu gwasanaeth hwythau. Ac yn ail, dim ond ar hyd llwybr gostyngeiddrwydd y daw neb ohonom at yr Arglwydd Dduw: ‘Oherwydd darostyngir pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy’n ei ddarostwng ei hun’ (14:11).
Ni allwn ymffrostio gerbron Duw ac ni allwn hawlio lle yn ei deyrnas. Y gwir amdani ydi nad oes yr un ohonom yn ddigon da i ddod o fewn cyrraedd i ddrws y nefoedd. Ond y rhyfeddod ydi bod y drws hwnnw’n agored led y pen i bwy bynnag sy’n cydnabod hynny ac yn pwyso ar Iesu Grist a’i haeddiant. Oherwydd addewid sicr yr Efengyl ydi bod Duw’n dyrchafu’r sawl sy’n ei ddarostwng ei hun trwy gydnabod ei annheilyngdod. Holl bwrpas Duw wrth iddo ein hargyhoeddi o’n beiau ydi ein codi hefyd i dderbyn a gwerthfawrogi ei gariad a’i faddeuant. Pobl sy’n gwybod eu lle ac yn cydnabod eu gwaeledd a gaiff yr anrhydedd fwyaf o berthyn i deulu Duw.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Medi 2022