Y Ddau Dŵr

Mae’n un o’r ychydig ddyddiadau sydd wedi ei serio ar gof cenhedlaeth o bobl: 9/11; y nawfed o fis Medi, 2001. Union un mlynedd ar hugain i heddiw y chwalwyd tyrrau Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd gan ladd 2,753 o bobl (yn cynnwys yr ymosodwyr).

Roedd yn anodd gwybod beth i’w ddweud yn dilyn y digwyddiad erchyll, ond dyma y ceisiwyd ei ddweud yn Gronyn  y Sul dilynol (wedi cyfeirio at yr angen i weddïo dros bobl Efrog Newydd a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y gyflafan).

“Ac mae angen gweddïo hefyd dros arweinwyr y gwledydd, y cânt ddoethineb a phwyll a gras. Mae’r sôn am ddial a chyrchoedd milwrol yn erbyn gwledydd sy’n cael eu hamau o fod yn gefnogol i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ffiaidd yn peri  pryder i lawer ohonom. Mae angen dal a gosod y troseddwyr gerbron llysoedd, a gobeithio bydd pob ymdrech i sicrhau hynny yn llwyddiannus. Ond mae’r holl sôn am ddial a chyrchoedd milwrol yn erbyn gwledydd a allai fod yn  llochesu’r rhai a amheuir o’r terfysgaeth yn fater o gryn bryder i lawer o wleidyddion a phobl gyffredin. Mae’n anodd gweld sut y byddai lladd cannoedd os nad miloedd o bobl mewn gwlad arall yn helpu dim ar bethau, heb sôn am fod yn gyfiawn i’w wneud.”

Aed ymlaen i sôn am gyflwyno pob pryder a gofal i ofal Duw; a’r un yw’r anogaeth wedi’r holl flynyddoedd.

Nôl ym mis Medi 2001 ni fuasai neb wedi medru darogan faint yn union fyddai’r “cannoedd os nad miloedd” a ledid mewn unrhyw gyrch milwrol dialgar. Trasiedi mawr yr un mlynedd ar hugain diwethaf yw nad oes eto fodd gwybod faint o bobl a laddwyd trwy’r rhyfeloedd a ymladdwyd yn Affganistan ac Irac mewn ymateb i ddinistrio’r Ddau Dŵr. Cofnodwyd nifer y milwyr o’r Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid a laddwyd: 3,576 yn Affganistan (2001-2021) a 4,825 yn Irac (2003-2011). Mae hynny ynddo’i hun deirgwaith y nifer a laddwyd ar Fedi’r 11eg! Anos yw dweud faint o bobl Affganistan ac Irac (yn filwyr a phobl gyffredin) a laddwyd gan fod gwahanol ffynonellau’n nodi ffigurau sy’n amrywio cymaint. Bu o leiaf 175,000 farw yn Affganistan mae’n debyg ond mae’n bosibl iawn fod y gwir nifer yn uwch o lawer. Bu o leiaf 150,000 farw yn Irac, ond mae rhai ffynonellau’n honni bod dros filiwn o bobl wedi eu lladd yno.

Beth bynnag y gwir niferoedd, mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth ddiymwad i ynfydrwydd rhyfel. A dylent ysgogi arweinwyr cenhedloedd byd i ganfod ffyrdd amgenach o ddatrys anghydfod a cheisio cymod a heddwch. Gweddïwn am ddoethineb i’r arweinwyr hyn, yn arbennig y rhai sydd yng nghanol y rhyfeloedd presennol. Arwydd o warth ein byd syrthiedig yw bod degau a channoedd o filoedd o fywydau mor ddibris a diwerth yng ngolwg y rhai sy’n llywodraethu drostynt. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Medi 2022

Plygu glin

Ers i’r Frenhines farw ddydd Iau bu llawer o sôn am gadernid ei ffydd Gristnogol, ei bywyd defosiynol, ei ffyddlondeb i’w Heglwys, ei pharch at y Beibl, ei hoffter o’r Llyfr Gweddi Gyffredin  a’i thystiolaeth i’r nerth a brofodd mewn gwahanol amgylchiadau trwy weddi bersonol. Cyfeiriwyd at ei chysylltiadau agos â dau o bregethwyr mwyaf dylanwadol ail hanner yr ugeinfed ganrif, yr efengylydd Billy Graham a’r diwinydd a’r offeiriad John Stott. Roedd y Ffydd Gristnogol a holl draddodiad ei Heglwys yn bwysig iddi, ond yn fwy na hynny hyd yn oed roedd ei ffydd bersonol yn Nuw ac yn Iesu Grist yn sylfaenol i’w bywyd.

Flynyddoedd yn ôl, clywais am oedfa Sul y Maer a gynhaliwyd, hyd y cofiaf, yn Abertawe. Seiliwyd pregeth y Sul hwnnw ar eiriau Iesu wrth Nicodemus: ‘Oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw’ (Ioan 3:3). Ac wedi dyfynnu’r geiriau, meddai’r pregethwr, “Ac mae hynny yn eich cynnwys chi, Mr Maer!” Wn i ddim sut yr ymatebodd y Maer i’r her honno, ond dangoswyd bod ar y Maer, fel pawb arall, angen y bywyd newydd yng Nghrist. Roedd hynny’n wir am Nicodemus hefyd, er ei fod ‘yn aelod o Gyngor yr Iddewon’, ac fe’i gwelwn yn ymgodymu â geiriau Iesu. Erbyn i ni ei weld nesaf, yn un o’r ddau a dynnodd gorff Iesu oddi ar y groes, mae Nicodemus yn amlwg wedi ymostwng i Iesu a chredu ynddo (Ioan 19:39). Yn ôl pob tystiolaeth, gwyddai’r Frenhines ei fod yn wir amdani hithau.

Clywsom am ei hymgysegriad i’w swydd. Ac er ei hymdeimlad amlwg o wasanaeth wrth gyflawni ei gwaith, mae’n amlwg wrth gwrs ei bod yn wraig freintiedig iawn. Ni allwn ond dychmygu’r ffordd y bu eraill yn gweini arni ar hyd ei hoes. Trwy ddeng mlynedd a thrigain ei brenhiniaeth bu pobl yn moesymgrymu o’i blaen ac yn talu gwrogaeth iddi. Ond er i’r afon o deyrngedau lifo’n fyrlymus ers tridiau, daeth y moesymgrymu a’r wrogaeth i ben gyda’i marwolaeth. A synnwn i ddim mai’r un person, yn anad neb, a groesawai hynny fyddai Elizabeth Alexandra Mary ei hun. Oherwydd trwy drugaredd Duw ac ar sail ei ffydd yn yr Arglwydd Iesu mae pob gobaith ei bod bellach, fel holl gredinwyr yr oesoedd, yn rhan o dyrfa ddirifedi sy’n plygu gerbron gorsedd Arglwydd yr arglwyddi a Brenin y brenhinoedd, a bod yr un a dderbyniodd wrogaeth y torfeydd ar y ddaear bellach yn rhan o dyrfa nefol sy’n seinio clodydd yr Oen a fu farw drosti er mwyn ei dwyn i mewn i Deyrnas amgenach a thragwyddol. Ac fel pawb arall a etifeddodd fywyd tragwyddol y nefoedd mae hi, er diosg ei choron ddaearol, yn fwy na bodlon o gael ei derbyn trwy ras i’w chartref nefol.

Un o ddirgelion y Ffydd yw llawenydd perffaith y nefoedd sy’n fwy na digon ar gyfer holl blant Duw, yn fonedd a gwrêng. A rhan o ryfeddod y nefoedd yw y bydd brenhines a wybu beth oedd pwyso ar Iesu Grist am ras a nerth a maddeuant yn gorfoleddu wrth blygu glin a moli’r Oen.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Medi 2022

E