O Bayko i Lepin

Hyd y gwn i, fu Bayko na Self-Locking Building Bricks Kiddicraft erioed ar gyfyl ein tŷ ni. Minibrix oedd gennym ni ers talwm, ond doedd gen i ddim cof amdano nes i mi weld llun ohono’n ddiweddar a chael f’atgoffa o’r briciau bach rwber brown a gwyn a’r tai yr oedd modd eu codi â nhw. Roedd yr Automatic Binding Brick hefyd yn gwbl ddieithr i mi. Teganau o dridegau a phedwardegau’r ganrif ddiwethaf oedd y rhain, ond rwy’n prysuro i ddweud nad dyna gyfnod fy mhlentyndod i!

Ond os yw’r Automatic Binding Brick y dechreuwyd ei werthu ym 1949 yn enw dieithr nid felly’r cwmni a’i gwnaeth ac a roddodd ei enw i’r tegan hwn yn fuan wedyn: Lego. Dyna un peth na fu’n ddieithr yn ein tŷ ni, o’r ratl Duplo cyntaf a ddaeth acw i’r car James Bond Creator a gefais i’n  anrheg gan y plant ac y treuliais oriau yn ei adeiladu yn ystod y Cyfnod Clo.

Enw cyfarwydd arall i genhedlaeth ein plant yw Mega Bloks, a daw’r enwau Lepin ac Oxford  yr un mor gyfarwydd mae’n debyg i’r genhedlaeth nesaf. Dyna amrywiaeth o deganau o wahanol wledydd a chyfnodau: y tri chyntaf o wledydd Prydain y tridegau a’r pedwardegau; Mega Bloks o Ganada’r nawdegau; a Lepin o China ac Oxford (er gwaethaf yr enw) o Gorea ill dau ond ychydig flynyddoedd oed. A Lego wrth gwrs o Ddenmarc. Ac eto nid mor wahanol gan mai teganau tebyg i Lego yw’r rhain oll: briciau bychan o blastig yw’r cyfan ac eithrio’r hen Minibrix.

Heb os, Lego ydi’r enwocaf; y mwyaf poblogaidd a’r mwyaf hirhoedlog o’r teganau hyn. Copïau cwbl ddigywilydd ohono ydi cynnyrch Lepin ac Oxford.  Fwy nag unwaith, aeth cwmni Lego i gyfraith yn eu herbyn hwy a Mega Bloks ac eraill i’w hatal rhag ‘dwyn’ ei syniadau a’i gynlluniau.  Lego, yn amlwg, ydi’r safon a’r ceffyl blaen ers dechrau’r pumdegau, ac eto nid y gwreiddiol. Roedd Bayko a Minibrix yn nwylo plant bach ers 1935, ond y gwir batrwm ar gyfer Lego oedd  Self-Locking Building Bricks Kiddikraft a gynhyrchwyd gyntaf ym 1947, ddwy flynedd cyn Automatic Binding Brick Lego. Camp fawr Lego oedd efelychu, gwella a pherffeithio cynnyrch Kiddikraft. A byth ers hynny, efelychu Lego a wnaeth yr holl gwmnïau eraill. 

Yr Arglwydd Iesu yw’r patrwm a’r safon ar gyfer ein bywydau, a galwyd pawb sy’n credu ynddo i’w efelychu. Bod o’r un feddwl ag ef yw’r nod: bod yn debyg i’r un a ddywedodd: ‘Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi’ (Ioan 13:15). Ond yn wahanol i Lego, fedrwn ni fyth fod yn well na’r patrwm perffaith a gafwyd yn Iesu Grist. Fedrwn ni ddim rhagori ar yr hyn a wnâi ein Gwaredwr, ond trwy ei nerth gallwn ymdrechu i’w efelychu mewn gair a gweithred. Copïau sâl ac annheilwng ohono fyddwn ar y gorau; ond trwy drugaredd Duw, gan mai dyna ei fwriad ar ein cyfer, copïau   dilys.  Boed i eraill edrych arnom ni a gweld yr Arglwydd Iesu Grist.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Medi 2022

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s