Ddigwyddodd o ddim. Wnaeth y Blaid Geidwadol ddim ail ethol y Prif Weinidog a adawodd ei swydd mewn cywilydd wythnosau’n gynharach. Ond pwy a ŵyr pa mor agos y daethon nhw at wneud hynny? Roedd Mr Johnson ei hun yn honni iddo gael y gefnogaeth angenrheidiol o du’r aelodau seneddol i orfodi etholiad am arweinyddiaeth y blaid. Ond wedi deuddydd gwyllt cyhoeddodd nos Sul diwethaf nad oedd am barhau â’i ymgyrch. Golygai hynny mai Rishi Sunak fyddai’r arweinydd a’r Prif Weinidog newydd.
Daeth Mr Sunak i’w swydd ddydd Mawrth. Yn ôl yr arfer, traddododd araith y tu allan i 10 Stryd Downing. Canmolodd ei ddau ragflaenydd, ond un o frawddegau cynnil a dadlennol yr araith oedd, “When the opportunity to serve comes along you cannot question the moment, only your willingness”. “Aw!” Pam “Aw”? Am mai brawddeg olaf datganiad Mr Johnson nos Sul oedd, “I believe I have much to offer, but I am afraid that this is simply not the right time.” Barnodd nad dyma’r amser i ail afael yn yr awenau. Roedd miliynau o bobl wedi dweud hynny ers dyddiau, ond doedd hynny ddim am ei rwystro. Ond ar yr unfed awr ar ddeg camodd o’r neilltu o weld na fyddai mwyafrif aelodau seneddol ei blaid yn ei gefnogi. Doedd o ddim am gael ei drechu. Gwell camu’n ôl na hynny, er gwaetha’r ‘llawer sydd gennyf i’w gynnig’ ac er gwaetha’i ymffrost y byddai’n sicrhau buddugoliaeth i’w blaid yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mae’r Beibl yn llawn o gyfeiriadau at wasanaeth. Nid rhyfedd hynny gan fod gwasanaeth yn greiddiol i’r Ffydd a’r bywyd Cristnogol am mai gwasanaeth sydd wrth wraidd yr hyn a wnaeth Iesu Grist trosom. Dod i wasanaethu eraill a wnaeth Mab Duw wrth ddod yn ddyn. Gwasanaethai eraill trwy’r cyfan a wnâi wrth ddysgu a gosod esiampl a herio ac iachau. A phen draw’r llwybr gwasanaeth hwn oedd ei barodrwydd i roi ei fywyd tros eraill ar Galfaria, gan ddwyn cosb eu pechodau yn eu lle.
Gwasanaethu o gariad a wnâi Iesu, heb gyfri’r gost iddo’i hun. Ni feddyliodd am un eiliad nad oedd yr amser yn briodol na bod y pris yn ormod i’w dalu. Yng ngardd Gethsemane, ar drothwy’r Groes fe weddïodd, ‘Fy Nhad, os yw’n bosibl, boed i’r cwpan hwn fynd heibio i mi’. Chwerwder y cwpan ac aruthredd y dioddefaint a barodd i weddïo felly yn hytrach nag unrhyw amharodrwydd i’w wynebu. Oherwydd meddai ar unwaith wedyn, ‘ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di’. Roedd gwasanaeth Iesu’n unigryw gan na fedrai neb arall wneud yr hyn a wnaeth trwy ddwyn y gosb am ein pechodau. Ac eto, yr oedd ei wasanaeth yn esiampl i’w ddilynwyr sydd wedi eu galw i wasanaethu eraill. Ac yn y gwasanaeth hwnnw, ni ddylai ei ddilynwr, mwy nag a wnaeth Iesu ei hun ofyn, ‘Ydi hi’n hwylus i mi wneud hyn?’ neu ‘Fydd hyn o les i mi?’ Cawn ein galw i wasanaethu’n gilydd ac i wasanaethu eraill fel y cawsom ninnau ein gwasanaethu gan ei Gwaredwr.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Hydref 2022