Fwy nag unwaith ers marwolaeth y Frenhines dychmygais beth ddywedai’r cyfryngau Prydeinig o weld golygfeydd tebyg mewn rhannau eraill o’r byd. Beth ddyweden nhw am y catrodau o luoedd arfog yn gorymdeithio, a’r llu baneri balch yn amgylchu pob sgwâr a stryd, a’r ciwiau hir o filoedd o alarwyr yn aros am oriau i dalu gwrogaeth? Ni fu raid aros yn hir i gael yr ateb gan fod angladd gwladol wedi ei gynnal yn Japan yr wythnos ddiwethaf: angladd Shinso Abe, cyn Brif Weinidog y wlad, a lofruddiwyd ym mis Gorffennaf. Mor wahanol eu tôn oedd yr adroddiadau a gafwyd ar newyddion y BBC o’u cymharu â’r hyn a gafwyd o Lundain wythnos yn gynharach.
Oedd angen angladd gwladol enfawr? Oedd yr ymadawedig yn haeddu’r fath rwysg? Oedd angen gwario o leiaf 10 miliwn o bunnoedd? Oedd modd cyfiawnhau’r fath gost mewn cyfnod o gynni? Oedd rhaid i’r gwladweinwyr deithio mor bell? Onid oedd hanner poblogaeth y wlad yn gwrthwynebu’r cyfan? Ac onid oedd rhaid rhoi sylw i’r bobl a ddangosai eu gwrthwynebiad trwy orymdeithio ar ddydd yr angladd?
Diddorol oedd sylwi ar y gwahaniaeth. Prin fod y cyfryngau Prydeinig wedi caniatau i gwestiynau o’r fath gael sylw o gwbl ynghylch y naill angladd ond roedden nhw’n fodlon iawn rhoi mynegiant iddyn nhw ynghylch y llall. Rwy’n deall yn iawn nad yr un oedd y ddwy sefyllfa. Un rheswm dros y gwrthwynebiad i’r angladd yn Japan oedd mai un gwleidydd yn unig a gafodd angladd gwladol yno cyn hyn. Rheswm arall oedd y ffaith bod Shinso Abe ym marn llawer yn euog o beryglu heddwch ei wlad trwy ei hymrwymo i fod yn rhan o ymladd posibl y tu hwnt i’w ffiniau ei hun. Bid a fo am hynny, yr hyn sy’n ddiddorol yw’r argraff a geir fod rhai pethau’n dderbyniol mewn un cyd-destun ond nid yn y llall.
Mor rhwydd y medrwn ninnau fod yn feirniadol o bethau y bydd pobl eraill yn eu gwneud er i ninnau wneud yr un pethau’n union. Ac mae peryg i ni fod felly hyd yn oed ynglŷn â phethau sy’n greiddiol i’r Ffydd Gristnogol. Rwy’n barod iawn i gyhuddo pobl o ddiffyg parch at yr Ysgrythur, ac eto’n gorfod cydnabod nad wyf finnau’n plygu i’w awdurdod ym mhob peth. Rwy’n gresynu nad oes fawr o bwyslais ar weddi yn yr eglwysi, ond yn gorfod cydnabod tlodi fy ngweddiau i fy hun. Rwy’n tristau o weld cyn lleied o ffyddlondeb sydd i oedfaon ymhlith cynifer o aelodau capeli ac eglwysi ein gwlad, ond yn gorfod fy holi fy hun ynghylch fy ffyddlondeb personol i’m Harglwydd a’m Gwaredwr Iesu. Rwy’n feirniadol o unrhyw aneglurder ynghylch gwirioneddau sylfaenol y Ffydd, ond yn cywilyddio wrth feddwl am fy methiant fy hunan i gyhoeddi rhai o’r gwirioneddau hynny’n ffyddlon ac eglur. Duw roddo ras i mi, ac i bawb ohonom, i beidio â bodloni ar bethau yn ein bywydau ein hunain yr ydym yn barod iawn i’w beirniadu ym mhobl eraill.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 2 Hydref 2022