Chi sy’n gyrru car, sawl blwyddyn sydd ers i chi basio’ch prawf gyrru? Wnaethoch chi lwyddo’r tro cyntaf? Neu ydych chi’n un o’r llu o bobl sy’n mynnu mai’r rhai sy’n pasio’r prawf ar yr ail gyfle ydi’r gyrrwyr gorau? Boed y tro cyntaf neu’r ail neu’r degfed, mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon gonest i gydnabod ein bod yn falch nad oes rhaid i ni sefyll y prawf gyrru eto gan ein bod wedi magu rhai arferion drwg dros y blynyddoedd ac am fod ein gwybodaeth o rai o reolau’r ffordd fawr yn fwy rhydlyd nag y dylai fod.
Un person nad yw’r prawf gyrru yn ei dychryn o gwbl ydi Inderjeet Kaur. Yn Llys y Goron Abertawe’r wythnos ddiwethaf cafwyd y wraig o Lanelli yn euog o sefyll dros 150 o brofion gyrru theori ac ymarferol yn lle pobl eraill. Mae’n debyg bod pobl yn talu oddeutu £800 iddi am sefyll y prawf yn eu lle a’i bod hi’n giamstar ar ei basio. Ond mae hi bellach yn wynebu 12 mis o garchar os na fydd yn talu’r ddirwy drom a roddwyd iddi.
Mae’n amlwg yn drosedd ddifrifol i sefyll prawf gyrru yn lle rhywun arall. Trwy’r twyll, galluogwyd degau o bobl i yrru car a hwythau heb erioed basio’r prawf. Ni ellir cyfiawnhau’r hyn a wnaeth y wraig hon, ac eto y mae un cwestiwn yn aros o gofio mai pobl na fedrant siarad Saesneg yn rhugl oedd yn talu iddi. A ddylai pobl gael yr hawl i sefyll y prawf gyrru mewn ieithoedd heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg ac iaith arwyddion?
Nid oedd Iesu’n troseddu ar Galfaria, ond yr oedd yn cymryd lle eraill wrth farw ar y groes. Nid twyllo oedd o; nid cymryd arno fod yn rhywun arall. Roedd y cyfan yn gyfreithlon ac yn yr amlwg. Cymryd arno euogrwydd pobl eraill a wnai. Ac nid cael ei dalu’n hael am wneud hynny chwaith. Y fo, trwy ei ddioddefaint a’i farwolaeth, oedd yn gwneud y talu: talu iawn am ein pechodau trwy ddwyn y gosb yn ein lle.
Dywed un o emynau Ann Griffiths am y ffordd sydd trwy Iesu Grist:
ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol;
ffordd i godi’r meirw’n fyw;
ffordd gyfreithlon i droseddwyr
i hedd a ffafor gyda Duw.
Ia, diolch am hynny, ffordd gyfreithlon gafwyd ar Galfaria ac yn yr Efengyl. Ffordd gyfreithlon o ddelio â phechod a phechadur. Ni ellir esgusodi pechod, ac ni all Duw ei anwybyddu na’i gyfrif yn llai o drosedd nag ydyw. Y mae’n rhaid delio â phechod; y mae’n rhaid i Dduw ei gosbi. Ac ar Galfaria caed ffordd gyfreithlon o wneud hynny, ond nid trwy gosbi’r pechadur. A dyma ryfeddod yr Efengyl: caiff y pechadur ei arbed rhag dwyn y gosb am fod Iesu wedi gwneud hynny drosto. Cyhoeddi’r ffordd gyfreithlon a wna’r Efengyl: bod Crist, yn gwbl agored a di-dwyll, wedi cymryd ein lle trwy ddwyn y gosb a marw trosom. ‘Yn awr, felly, nid yw’r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath’ (Rhufeiniaid 8:1).
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 9 Hydref 2022