Roedd hi’n sioe a hanner nos Fercher wrth i fellten ar ôl mellten oleuo’r awyr a hollti tywyllwch canol nos. Wnes i ddim sylwi’n iawn am faint y parodd y mellt a’r taranau ond roedd yn amlwg yn syfrdanol a dramatig. Mae ymateb gwyddonwyr ac arbenigwyr tywydd ers hynny wedi cadarnhau mor anghyffredin mewn gwirionedd oedd y storm. Yn nhymor y Diolchgarwch cawsom ein hatgoffa o’r newydd o ryfeddod y Cread a gallu’r Duw sy’n dal i gynnal y cyfan a luniodd. Gallwn ddweud gyda’r Salmydd, ‘Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd’ (Salm 77:18). A gallwn ddweud gyda’r proffwyd Jeremeia, ‘Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda’r glaw, a dwg allan wyntoedd o’i ystordai … Oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw’ (Jeremeia 10:12-13, 16).
Roedd yr awr neu ddwy o fellt y noson o’r blaen yn ein hatgoffa o aruthredd a grym y Cread a’n bychander ni ein hunain. Ni allem ond oedi a gwylio a rhyfeddu a hyd yn oed arswydo wrth weld y fintai o fellt yn goddiweddyd y tywyllwch. Doedd dim y medrai neb ei wneud i’w rhwystro, ac o’r holl luniau a welwyd ers hynny mae’n amlwg bod pobl dros ardal eang wedi mwynhau’r olygfa cyn i’r storm dawelu.
Storm wahanol oedd yn cyniwair yn San Steffan nos Fercher: storm o gread y Llywodraeth wrth i aelodau seneddol fwrw pleidlais wedi’r ddadl ynghylch gwahardd ffracio yn Lloegr. Yn ôl a glywyd, bron nad oedd ambell un yn bwrw ei gilydd wrth i’r Llywodraeth ddwyn perswâd ar eu haelodau i’w chefnogi. Ond doedd ennill y bleidlais o fawr budd i Lywodraeth Ms Truss gan i’r Prif Weinidog ymddiswyddo drannoeth.
A thybed pa storm sydd ar y gorwel wrth i’w phlaid unwaith eto ethol Arweinydd, ac o bosibl ail ethol Prif Weinidog a adawodd y swydd mewn cywilydd lai na deufis yn ôl. Mae miliynau’n anobeithio o feddwl na allan nhw wneud dim i rwystro’r storm nac i gysgodi rhagddi. Mae’n syfrdanol fod cynifer o bobl yn un o wledydd cyfoethoca’r byd yn arswydo ar drothwyr’r gaeaf na fedran nhw fforddio bwyd a gwres. Oes gobaith i ŵr a gafodd £315,000 rai dyddiau’n ôl am anerchiad hanner awr ac a oedd ar o leiaf ei drydydd gwyliau ers iddo ddweud y byddai’n ildio’r swydd (pan yw ei gyd-aelodau seneddol wrth eu gwaith, cofiwch) ddeall y tlodi y mae cynifer yn ei wynebu yng ngwledydd Prydain? Er cywilydd i Lywodraeth a fu mewn grym ers deuddeng mlynedd bydd miloedd lawer yn ddibynnol ar haelioni cymdogion a chyd-ddinasyddion trwy fanciau bwyd ac amrywiol elusennau dros y misoedd nesaf. Diolchwn i’r Arglwydd am yr haelioni hwnnw sydd mor aml, yn wahanol i’r mellt y noson o’r blaen, yn ddirgel ac o’r golwg.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Hydref 2022