Wel, er mawr siom, pharodd o ddim yn hir. Ar un wedd, ‘Digwyddodd, darfu, megis seren wib’, a hynny’n fwy fyth am fod y golled yn erbyn Iran wedi dod yng ngêm gyntaf yr ail gylch o gemau. Ond os mai troi am adref fydd raid wedi’r gêm yn erbyn Lloegr nos Fawrth, nid oes unrhyw gywilydd nac unrhyw awgrym o weld bai. Oes, mae yna rywfaint o siom na welwyd chwaraewyr Cymru ar eu gorau hyd yma, ond dim ond balchder sydd o fod wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers dros drigain mlynedd. Ie, balchder a diolch i’r rheolwr Rob Page a’r garfan gyfan, a diolch yn arbennig i’r chwaraewyr dawnus a fu’n allweddol i lwyddiant ein tîm cenedlaethol dros y degawd diwethaf.
Ac eto, pwy a ŵyr beth a ddigwydd? Gall fod y paragraff uchod yn gyn-amserol gan nad yw’r cyfan ar ben eto. Rydan ni dal yng Nghwpan y Byd. Y mae yna obaith. Os curwn ni’r Saeson (a hynny o 4 gôl i 0 os na fydd y gêm rhwng Iran ac America’n gorffen yn gyfartal) byddwn dal yno. Rwy’n genfigennus o’r chwaraewyr gan mai nhw yn unig fedr wneud unrhyw beth i’n cadw yn y gystadleuaeth. Dim ond gwylio a chwysu all pawb arall ei wneud. Ond beth bynnag a ddigwydd, mae’r hogia’n arwyr gwlad. Hyd yn oed os digwydd y gwaethaf eleni a bod y tlws a phêl droed o’r diwedd yn ‘dod adref’ bydd y ffaith fod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, i ni, yn fwy o gamp o lawer.
Pwy a ŵyr beth a ddaw? Pwy a ŵyr na chawn ni cyn hir dîm cystal â’r un a gafodd y fath lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf? Mae llawer yn ofni bod y dyddiau euraidd drosodd, ond pwy all ddweud nad yw’r gorau eto i ddod? Mae gan bawb ei obaith, ac mi ddaliaf i obeithio er gwaetha’r ofnau a’r amheuon i gyd.
Peth anodd ydi byw efo’r ofn y gallai’r gorau fod o’r tu cefn i ni, a hynny’n aml mewn pethau pwysicach o lawer na phêl droed. Ond yr un peth nad oes raid i ni ofni hynny yn ei gylch yw’r bywyd a gynnigir i ni trwy ffydd yn Iesu Grist. ‘Yr wyf fi,’ meddai, ‘wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder’ (Ioan 10:10). Ac meddai eto am y bywyd hwn, ‘A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist’ (Ioan 17:3). Yma ar y ddaear, nid oes un eiliad o’r bywyd hwn o adnabod Iesu Grist y medrwn ddweud amdani fod y gorau o’r tu cefn i ni: mae dyfnach adnabyddiaeth o Dduw a’i gariad o’n blaen o hyd. Tyfu mewn adnabyddiaeth o’n Gwaredwr Iesu yw’r addewid a’r gobaith a roed i ni. Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, y tu hwnt i’r byd a’r bywyd hwn, gobaith sicr y Cristion yw bod y gorau eto o’i flaen gan fod y ‘bywyd tragwyddol’ nid yn unig yn golygu bywyd ar ei orau yn y byd hwn ond hefyd fywyd a fydd yn para am byth gyda Duw. Ac nid oes nac ofn nac amheuaeth yn ei gylch gan fod addewid Duw yn gyfan gwbl sicr.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022