Y trysor pennaf oll

Mae’r deg enw ar restr a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn ddieithr i mi. Nid syndod hynny gan fod eu bydoedd hwy a minnau mor wahanol i’w gilydd. A bod yn onest, chlywais i ddim am saith o’r deg, yn cynnwys yr un ar frig y rhestr. Arwydd o’m hanwybodaeth yw hynny: o bosib eich bod chi’n fwy cyfarwydd ag enwau fel Warren Buffett, Larry Page a Gautam Adani,. Doedden nhw’n sicr yn golygu dim i mi. Ond os dywedaf mai tri o’r enwau eraill ar y rhestr oedd Jeff Bezos, Bill Gates ac Elon Musk, mae’n debyg y byddwch yn gwybod mai rhestr o bobl gyfoethocaf y byd oedd hi. Ar ben y rhestr mae Bernard Arnault. Ac er na chlywais amdano, mi glywais am rai o’r cwmnïau y mae’n berchen arnyn nhw: cwmnïau fel Christian Dior, Givenchy, Dom Perignon, Louis Vuitton  a Tiffany & Co. Ia, byd gwahanol iawn i’m byd bach i. Pwy all ddychmygu faint yn union yw 172.9 biliwn o ddoleri na beth ellid ei brynu â’r fath arian? Dyna yn ôl y rhestr yw ffortiwn Monsieur Arnault.

Ydi, mae’r bobl hyn yn ddieithr i mi, a minnau’n gwybod y nesaf peth i ddim hyd yn oed am y rhai y clywais amdanynt. Wn i ddim beth yw agwedd y cyfoethogion hyn at eu harian. Yn ôl a ddarllenais beth bynnag, nid yw cael ei gydnabod y person cyfoethocaf yn y byd o bwys mawr i Bernard Arnault. Wn i ddim chwaith pa ddefnydd y mae o na’r un o’r naw arall yn ei wneud â’u harian, ond o gofio’r holl angen sydd yn y byd a’r holl gymorth y medr arian ei sicrhau, byddai’n braf meddwl bod cyfran sylweddol ohono’n cael ei ddefnyddio i ddibenion da. Fedrwn ni ond gobeithio.

Os nad wyf yn camgymryd yn arw, wêl neb ohonom ni unrhyw beth a ddaw’n agos at ffortiwn y bobl hyn. Waeth i ni heb â breuddwydio am y fath gyfoeth. Ac eto, rwy’n gwbl sicr nad camgymryd ydw i wrth ddweud fod gan bob Cristion yn yr Arglwydd Iesu Grist gyfoeth llawer mwy na holl arian ac aur y bobl hyn. Mae hynny’n swnio’n ystrydebol iawn wrth gwrs. Ond y mae hefyd yn gwbl wir! Y mae Iesu Grist yn fwy o drysor na dim y medr arian ei brynu. Y mae’r hyn a wnaeth trosom a’r hyn a sicrhaodd i ni trwy ei fywyd a’i farwolaeth yn fwy gwerthfawr nag unrhyw beth y medrwn roi ein llaw arno yn y byd hwn. Nid oes drysor mwy na’r maddeuant a’r cymod a’r bywyd y mae’r Iesu wedi eu darparu ar ein cyfer. Ydi, mae’n rhwydd bod yn ystrydebol; ond nid ystrydeb yw dweud mai Iesu Grist yw’r trysor pennaf. Ond tybed ydach chi a minnau wir yn credu hyn ar drothwy’r Nadolig? Ydan ni’n credu nad oes gyfoeth mwy na baban Mair? Ydan ni’n credu mai trwyddo ac ynddo ef y cawn afael ar y cyfoeth na all neb na dim fyth ei gymryd oddi arnom?

Wrth ddweud hyn, nid wyf am eiliad yn awgrymu nad oes werth i arian. Wrth gwrs bod gwerth iddo. Wrth gwrs nad oes rinwedd mewn bod yn dlawd ac heb ddim. Ac wrth gwrs bod cyfle i ninnau, fel i gyfoethogion byd, ddefnyddio arian ac eiddo i ddibenion da. Wedi dweud hyn, rhaid cydnabod nad oes barhad i gyfoeth daearol. Ond mae’r cyfoeth sydd yn yr Iesu’n para’n fwy na phob trysor arall, am y rheswm syml y bydd yn para am byth.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Rhagfyr 2022

Pris a gwerth

Yng nghanol yr holl sôn a’r pryder cynyddol ynghylch costau byw, un o’r meysydd nad yw arian yn brin ynddo yw Uwch Gynghrair Bêl Droed Lloegr. Ac wedi i bethau dawelu gyda Chwpan y Byd, buan iawn y bydd perchnogion y clybiau yn gwario arian mawr am chwaraewyr pan gân nhw ail ddechrau gwneud hynny ym mis Ionawr. Ac wedi i ambell un chwarae’n dda dros ei wlad yng Nghwpan y Byd, bydd rhaid i ba glwb bynnag sydd am eu prynu talu miliynau o bunnoedd yn fwy na phe bydden nhw wedi eu prynu yn ystod yr haf. Mae gôl neu dacl yng Nghwpan y Byd wedi codi’r pris yn arw, a bydd mwy nag un clwb yn difaru nad aethon nhw i siopa’n gynharach.

Cyn diwedd Ionawr, felly, mi glywn ni lawer am werth gwahanol chwaraewyr. Rheitiach fyddai sôn am eu pris. Wedi’r cwbl, mae byd o wahaniaeth rhwng ‘gwerth’ a ‘phris’. Ydi, mae’r clybiau’n talu miliynau o bunnoedd am chwaraewyr, a hyd yn oed iddyn nhw! Y gwir ydi mai’r pris ydi pa faint bynnag y maen nhw’n barod i’w dalu. Ond o feddwl beth arall y gellid ei brynu â’r symiau enfawr hyn mae’n amlwg nad oes yr un chwaraewr werth y fath arian. 

Os gall y clybiau pêl droed mwyaf  anwybyddu’r gwahaniaeth hwn rhwng gwerth a phris, nid felly’r mwyafrif  ohonom. Heb syniad o werth pethau, rydym mewn peryg o dalu pris gwirion. Mae hynny’n bwysicach fyth heddiw pan fo arian yn brin i’r rhelyw o bobl. Dim ond ffŵl fyddai’n talu cannoedd o bunnoedd am rywbeth sydd werth ceiniogau’n unig.

Heb os, mae adnabod yr hyn sydd o werth yn un o gyfrinachau mawr bywyd. I lawer, nid oes unrhyw werth i Feibl nac Efengyl nac eglwys, nac i Grist ei hun. Ond i’r Cristion, dyma’r pethau – a dyma’r person – mwyaf gwerthfawr sydd, a thystiolaeth pob Cristion yw tystiolaeth Pantycelyn:

 ‘popeth gwerthfawr a drysorwyd
  yn fy Mhrynwr mawr ynghyd’

Gwêl y Cristion werth yn yr hyn y mae pawb arall yn ddibris ohono: y newydd da am Iesu Grist a’r gwaith a gyflawnodd ar groes Calfaria. Trwy ei farwolaeth yr aeth Iesu i’r afael â phroblem fwyaf y byd ym mhob oes: gwrthryfel pobl yn erbyn Duw. Trwy gymryd ein pechod arno’i hun, mae wedi delio’n llawn â’r broblem ac wedi dileu’r elyniaeth yn achos pawb sy’n ymddiried ynddo. A thrwyddo cawn berthynas iawn â Duw, a maddeuant a llawenydd bywyd newydd.

Mor werthfawr y cyfan; ac o gariad at Grist ac yng ngwres ei ffydd mae’r Cristion yn gwybod y byddai’n werth rhoi popeth er mwyn ei gael. Mae’n ei nabod ei hun yn ddigon da fodd bynnag i gydnabod na fedrai fyth wneud hynny. Ond y llawenydd    mwyaf yw’r sylweddoliad bod y peth mwyaf gwerthfawr i’w gael yn rhad, ac nad ei haeddu ond ei dderbyn a wnawn trwy ffydd yn Iesu Grist.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Rhagfyr 2022

Lleiafrif

Roedd fy ngwaed yn berwi nos Fawrth, nid oherwydd y gêm bêl droed ond wrth wylio rhaglen Newsnight y BBC. Trafod yr ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig yn sgil ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd oedd y bwriad, ond tila iawn oedd y drafodaeth. Ond gwaeth o lawer oedd y cyfeiriad wedyn at ganlyniadau Cyfrifiad 2021. Roedd graff ar y sgrin yn nodi mai dim ond 3.2% o’r boblogaeth sy’n eu cyfrif eu hunain yn ‘Gymry yn unig’. Roedd hyn yn gwbl gamarweiniol gan mai’r ffigwr ar gyfer ‘Cymru a Lloegr’ oedd hwn. Y gwir ydi bod 55.2% o boblogaeth  Cymru yn eu cyfrif eu hunain yn ‘Gymry yn unig’, ond doedd y rhaglen ddim am i weddill gwledydd Prydain wybod hynny! 

O bosib i chi weld hefyd yr ystadegau o’r Cyfrifiad sy’n dangos bod y ganran o boblogaeth Cymru sy’n eu galw eu  hunain yn Gristnogion wedi gostwng o 57.6% yn 2011 i 43.6% yn 2021. Mae hynny’n golygu, am y tro cyntaf ers dechrau’r Cyfrifiad ym 1801, bod llai na hanner pobl Cymru’n eu galw eu hunain yn Gristnogion. Bu, a bydd eto gryn drafod ar yr ystadegau. Diddorol fyddai gwybod os ydi’r gostyngiad hwn yn cyfateb i’r lleihad a fu dros y degawd yn nifer y capeli a’r eglwysi. Ydi’r gostyngiad hwn wedyn yn gyson â’r ystadegau ynghylch y niferoedd o bobl sy’n mynychu oedfaon o gymharu â deng mlynedd yn ôl?  A thybed hefyd pa resymau eraill sydd gan bobl ein gwlad dros beidio â’u galw eu hunain yn Gristnogion?

Go brin fod yr ystadegau hyn yn synnu neb ohonom sy’n arddel Ffydd Crist yng Nghymru heddiw. Os ydym yn ymboeni ynghylch ystadegau, nid dyma’r rhai pwysicaf o bell ffordd gan ein bod yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod yna wahaniaeth mawr rhwng galw ein hunain yn Gristnogion a bod yn Gristnogion. Gall pobl uniaethu â’r Ffydd Gristnogol am resymau fel traddodiad a magwraeth a diwylliant heb iddynt o reidrwydd wybod dim am  gariad Duw na chredu am un eiliad yn Iesu Grist. Pe byddai unrhyw sail o gwbl dros gredu bod 43% o boblogaeth Cymru’n Gristnogion o argyhoeddiad byddai gennym reswm dros orfoleddu heddiw. Onid y gwir amdani yw bod pob tystiolaeth yn dweud wrthym fod Cristnogion yn lleiafrif yn ein gwlad ers blynyddoedd lawer?

Ystrydeb yw dweud y medrwch wneud unrhyw beth ag ystadegau. I rai Cristnogion, arwydd trist o ddirywiad yw’r ystadegau uchod. Bydd eraill yn eu croesawu gan ddadlau bod yma gymdeithas sy’n fwy agored i gael ei hargyhoeddi o werth yr Efengyl. Beth bynnag eu gwerth y maent, heb os, yn dangos bod Cymru’n faes cenhadol ers blynyddoedd. Ond y maent hefyd,  gobeithio, yn symbyliad i ni erfyn ar Dduw i ddwyn pobl i wir ffydd yn Iesu Grist. Mae’r hiraeth am weld pobl o un i un yn cael gras i droi at Grist yn fwy o ddyhead o lawer i bobl ffydd na gweld y cannoedd a’r miloedd yn taro tic yn ddifeddwl o bosibl yn yr un blwch ar unrhyw ffurflen.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 4 Rhagfyr 2022