Am hydoedd

Wnân nhw ddim wrth gwrs. Mwya’ piti. Mi bara nhw am wythnos neu ddwy o bosib, ond nid am lawer mwy na hynny. Nid am yr ‘hydoedd’ y mae’r cwmni a anfonodd y neges yn ei addo. Yn sicr, nid am fisoedd a blynyddoedd. Nid bod y cwmni, cofiwch, yn honni am un eiliad y bydd y blodau’n para am flynyddoedd. Wrth gwrs nad ydyw. Yr ‘am hydoedd’ neu’r ‘for ages’ sy’n  golygu gwahanol beth i wahanol bobl.

Byddai’r Salmydd wedi cwestiynu’r  ‘am hydoedd’ pe byddai wedi gweld hysbyseb y cwmni gan iddo ddweud am ‘flodeuyn y maes – pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach’ (Sam 103:15–16).  Felly hefyd Eseia, a soniodd am y ‘blodeuyn yn gwywo’ (Eseia 40:8). Gwyddai’r ddau nad yw’r un blodyn yn para’n hir iawn. Ac mae yna rywbeth digalon ynglŷn â’r sylweddoliad hwnnw.

Ond i’r Salmydd ac Eseia fel ei gilydd, roedd rhywbeth mwy digalon. I’r ddau, mil gwaeth na breuder unrhyw flodyn freuder bywyd dynol. ‘Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn; y mae’n blodeuo fel blodeuyn y maes – pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach’, medd y Salmydd.  Ac meddai Eseia, ‘Yn wir, glaswellt yw’r bobl. Y mae’r glaswellt yn crino, a’r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.’ Dyddiau dyn, a phobl eu hunain yn gwywo a chrino a diflannu. 

‘Pob un meidrol fel glaswellt, a’i holl nerth fel blodeuyn … yn gwywo’? ‘Ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach’? Pe na fyddai dim arall i’w ddweud byddai’n anobeithiol ar bawb ohonom. Bywyd, a ninnau gydag ef yn darfod ac  yn mynd yn angof. Mae yna rywbeth hunllefus ynglŷn â’r syniad. Ond neges y Salmydd ac Eseia yw nad oes rhaid iddi fod felly, ac nad ydyw felly i bobl Dduw. Mae’r ‘ond’ yn bwysig i’r ddau ohonynt. ‘Ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth’ (Eseia 40:8). ‘Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy’n ei ofni … i’r rhai sy’n cadw ei orchmynion ac yn ufuddhau’ (Salm 103:17–18). 

Ie, brau a darfodedig yw’r blodau harddaf; a ninnau gyda hwy. Ond, a minnau ar ganol ysgrifennu’r geiriau hyn fe’m hatgoffwyd am rywbeth arall a ddywedodd y Salmydd am bobl Dduw: ‘Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a’i ddeilen heb fod yn gwywo’ (Salm 1:3). Er i ni fod wrth natur yn flodau sy’n darfod, fe’n gwneir trwy ras Duw yn goed cadarn nad yw hyd yn oed eu dail yn gwywo. Trwy fuddugoliaeth Iesu Grist dros y gelyn marwolaeth, nid gwywo a darfod na mynd yn angof fydd hanes y rhai sy’n credu ynddo, ond bywyd. A’r bywyd hwnnw gyda Duw a chyda Iesu Grist, ac nid hyd yn oed ‘am hydoedd’ chwaith. Oherwydd nid yn unig air ein Duw ni fydd yn sefyll hyd byth: dyna wna ei bobl hefyd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Ionawr 2023

Neb arall

Nid cynhyrchiad newydd o Upstairs, Downstairs oedd y gyfres deledu er gwaetha’r sylw a wnaed gan un o weithwyr y gwaelodion: ‘Dyma’n lefel ni; ac fe ddywedyd wrthon ni nad oes reswm i ni fod i fyny’r grisiau o gwbl’. Welwch chi byth mohonof fi i fyny’r grisiau hwnnw gan mor ddrud yw   stafell yno. Ond pe byddech wedi talu ffortiwn i mi, fasech chi byth chwaith wedi fy ngweld dan y grisiau gyda’r criw o Donegal. Yn The Mayfair Hotel Megabuild, adroddir stori adnewyddu Gwesty Claridge’s yn Llundain. A’r gwesty moethus yn parhau i groesawu ymwelwyr fel arfer, aed ati dros rai blynyddoedd i chwalu ac ail godi ei loriau uchaf. Ond er mor rhyfeddol y gwaith hwnnw roedd rhywbeth mwy syfrdanol yn digwydd dan y gwesty. Dau fetr yn unig dan lawr gwaelod yr adeilad roedd criw o gloddwyr gyda chaib a rhaw yn prysur gloddio er mwyn adeiladu estyniad newydd o sawl llawr dan y ddaear. Waeth i mi heb â cheisio egluro sut oedd y peth yn bosibl, ond roedd yn gampwaith o brosiect peirianyddol na welwyd ei debyg yn unman cyn hynny. Roedd y cloddwyr dan arweiniad Gwyddel o’r enw Jim Mackey, a oedd wedi ymddeol cyn iddo gael ei berswadio i ymgymryd â’r gwaith hwn am nad oedd neb arall ar gael. Yn ôl y rhaglen, treuliodd y peiriannydd hynod a phrofiadol ei holl yrfa’n gwneud y gwaith na allai neb arall ei wneud ac na fyddai neb arall yn fodlon ei wneud. Yn gwbl ryfeddol, fel y dengys y gyfres, doed i ben â’r gwaith.

Gall y pethau rhyfeddaf a’r bobl fwyaf annisgwyl ein hatgoffa o’r Arglwydd Iesu Grist. Ac yn eu plith ar sail y sylw uchod, Jim Mackey. Oherwydd oni ddaeth Iesu Grist i’r byd i wneud yr hyn na fedrai neb arall ei wneud, ac na fyddai neb arall wedi bod yn fodlon ei wneud hyd yn oed pe medrai?  Dim ond Iesu Grist, Mab Duw, a fedrai fynd yn gyfrifol am ein heuogrwydd ni: dim ond fo’r dyn perffaith a fedrai gymryd ein pechodau a dwyn y gosb amdanyn nhw ar Galfaria. Pe byddai Duw, a phe byddem ni’n chwilio’r holl fyd dros yr holl ganrifoedd am rywun arall i wneud hynny, ni fyddai neb i’w gael. Dim ond Iesu allai gyflawni’r gwaith. A hyd yn oed pe medrai neb arall ei wneud, ni fyddai’n fodlon. Pwy arall a fyddai wedi’n caru ni ddigon i fynd o’i fodd i Galfaria yn ein lle?

Mae Iesu’n galw arnom i’w efelychu: ‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi’n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi’n ei orchymyn ichwi’ (Ioan 15:12-15). Mae modd i gyfeillion Iesu Grist, trwy gymorth Duw, garu a hyd yn oed roi eu bywydau dros ei gilydd. Ni fyddai Iesu wedi dweud hyn pe na fyddai’n bosibl. Ond y peth unigryw a wnaeth ef, yr hyn na fedrai ac na fyddai neb arall yn fodlon ei wneud, oedd cymryd ei gosbi yn lle’r rhai oedd yn elynion iddo. Bu farw dros rai felly er mwyn eu gwneud yn gyfeillion.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Ionawr 2023

Trugaredd yn ei bryd

Gallasai’n rhwydd iawn fod yn deitl ar gyfrol ddiwinyddol, ond nofel gyffrous gan John Grisham am gyfreithiwr o’r enw Jake Brigance yw A Time For Mercy a ddarllenais dros y Nadolig. Dyma’r drydedd nofel am Brigance, ac mewn nodyn ar ddiwedd y gyfrol mae Grisham yn ymddiheuro am unrhyw gamgymeriad gan ddweud ei fod yn rhy ddiog i ail ddarllen y nofelau eraill er mwyn sicrhau nad oes anghysondeb o’r naill stori i’r llall. O gofio bod dros 30 o flynyddoedd ers iddo ysgrifennu gyntaf am Brigance gellid maddau i Grisham unrhyw anghysondeb bychan.

Mi faswn i’n taeru fy mod wedi sôn yn ddiweddar am Nathan Jones, rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Southampton. Ond er pob chwilio, fedraf fi yn fy myw â gweld cyfeiriad ato heno.* Rhaid mai wedi bwriadu sôn amdano oeddwn ar ôl darllen ei fod yn aml yn cyfeirio mewn cyfweliadau at ei ffydd yn Iesu Grist. Gwnaeth hynny unwaith eto wedi i’w dîm guro Manchester City nos Fercher. Ennill neu golli, doedd o ddim yn poeni, meddai, am ei fod fel Cristion ail-anedig, yn credu bod pob dim yn llaw Duw. Mor braf yw clywed y Cymro hwn o Flaenrhondda’n tystio mor agored i’w ffydd.

I Gristion, calondid yw gweld pobl amlwg yn arddel y Ffydd Gristnogol. Gwych o beth yw bod miliynau o bobl yn clywed tystiolaeth Nathan Jones a Darren Moore, rheolwr Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday ac eraill. Pwy a ŵyr pa ddefnydd y gall Duw ei wneud ohonynt?  Rhwydd yw diolch i Dduw am eu tystiolaeth i’w Gwaredwr.

Ond ambell dro, mae’n stori wahanol. Ambell dro, caiff y dystiolaeth ei dryllio. Pêl-droediwr arall a fu’n arddel ffydd yn Iesu Grist yw Richard Rufus, a chwaraeodd bron i 300 o gemau dros Charlton Athletic cyn ymddeol yn 2004 oherwydd anaf. Bu’n weithgar gyda sawl eglwys ac elusen Gristnogol ers hynny. Ond ddydd Iau diwethaf cafodd ddedfryd o saith mlynedd a hanner o garchar am dwyll ariannol. Roedd un eglwys yn Llundain wedi colli dros dair miliwn o bunnoedd wedi iddi ymddiried yn Rufus i fuddsoddi’r arian ar ei rhan. Y fath gwymp, a’r fath siom i filoedd o Gristnogion a fu mor ddiolchgar am ei dystiolaeth dros y blynyddoedd.

Disgrifiad un papur newydd o Richard Rufus oedd, ‘a self-styled born-again Christian’, gyda’r ‘self-styled’ o bosibl yn awgrymu mai ffug fu ei broffes a thwyll fu ei holl fywyd Cristnogol. Wn i, mwy na’r papur newydd, ddim am hynny: Duw yn unig a ŵyr beth sydd yng nghalon Richard Rufus. Ond yr hyn a ŵyr pob Cristion yw mor rhwydd yw syrthio a phechu a chwalu tystiolaeth oes. Dyna pam y gweddïwn yn gyson am ras a nerth i’n cadw’n ffyddlon i Dduw. A dyna hefyd pam y diolchwn am y maddeuant am bob pechod a bai sydd trwy Iesu Grist i bob pechadur edifeiriol. Beth ddywedais i oedd teitl y nofel hefyd?

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Ionawr 2023

*Mi sylweddolais yn ddiweddarach fy mod wedi cyfeirio ato y tu mewn i Gronyn ar Dachwedd 20, 2022 wrth gyfeirio at Gymru yng Nghwpan y Byd. Erbyn i mi ddod o hyd i’r cyfeiriad roedd Nathan Jones wedi colli ei swydd yn Southampton, ond rwy’n sicr ei fod yn dal i dystio bod popeth yn ddiogel yn llaw Duw. .

Y peth hanfodol

Dwi ddim yn cofio be gawson ni yn y diwedd. Sbageti bolognese oedd i fod ar y fwydlen, ond ailfeddwl fu raid o weld bod y tun Wallace a Gromit sy’n dal y sbageti’n wag. Gwell i mi egluro, rhag ofn i neb ohonoch anfon hen fideo neu deganau o’r ddau gymeriad hynny ataf, mai siâp y tun, a dim arall, sydd i gyfrif mai dyna fu’n dal sbageti yn ein cegin ni ers blynyddoedd.

Byddai cogyddion go iawn yn siŵr o ddweud mai mewn ystyr lac y dylwn i ddefnyddio’r term ‘sbageti bolognese’ gan fod o bosib sawl cynhwysyn yn eisiau yn fy nghampweithiau i. Oes wir raid wrth y bacwn a’r seleri a’r chilli a’r holl berlysiau a welais mewn un rysáit heno? Seleri neu beidio, bacwn neu beidio mi lynaf wrth yr enw, ond mi rydw i wrth gwrs yn deall mai’r un peth y mae’n rhaid wrtho ydi sbageti. Dyna pam y bu raid cael rhywbeth arall i swper. Yr un peth hanfodol mewn sbageti bolognese, wedi’r cyfan, ydi sbageti.

Oes yna’r fath beth â sbageti’r bywyd Cristnogol? Heb os, mae yna sawl peth hanfodol i’r bywyd hwnnw; sawl peth y mae’n rhaid wrthyn nhw cyn y medrwn ddweud bod neb ohonom yn feddiannol arno. Ni cheir Cristion heb edifeirwch calon a ffydd yng Nghrist a chariad at Dduw. Ni cheir bywyd  Cristnogol heb y dyhead i anrhydeddu a phlesio Duw ac i garu eraill mewn ufudd-dod iddo. Nid oes Gristnogaeth  heb Feibl a gweddi ac addoliad. Mae’r cyfan yn hanfodol. Ac mae’r cyfan yn plethu i’w gilydd. Ond oes yna un peth sy’n greiddiol i’r cyfan?  Un peth y mae’r holl bethau hyn yn ddibynnol arno? Un peth y mae’n rhaid wrtho?

Gweithgaredd dynol yw popeth a nodwyd. Mae’r cyfan yn greiddiol i’r bywyd Cristnogol. Hebddynt, nid oes na Christion na Christnogaeth. A rhwydd hefyd fyddai rhestru rhagor o nodweddion y bywyd Cristnogol. Ond yr un peth na soniwyd amdano yw’r hyn y mae Duw ei hun yn ei wneud. A’r un peth hwnnw, gwaith Arglwydd  yng nghalon y Cristion, yw’r un peth cwbl hanfodol i’r bywyd Cristnogol. Oherwydd nid ein gweithgaredd ni sy’n ein gwneud yn Gristnogion, ac nid ein hedifeirwch na hyd yn oed ein ffydd ni yw dechrau’r stori. Gwaith Duw yw’r cyfan: ni fyddai’r un o’r gweithgareddau neu nodweddion Cristnogol hyn yn bosibl i ni pe na fyddai Duw, trwy’r Ysbryd Glân, wedi ein bywhau i ddechrau. Ond mor aml yr anghofiwn hynny a gwneud y bywyd Cristnogol yn ymddygiad neu weithgarwch dynol sy’n cychwyn a gorffen gyda ni.

Ar y gorau, efelychiad o’r Cristion a’r bywyd Cristnogol fydd unrhyw un ac unrhyw beth heb y bywyd newydd y mae Duw yn ei blannu yn y galon. Y bywyd hwn sy’n esgor ar berthynas real â Duw trwy ei Fab Iesu Grist, a’r berthynas hon yn hytrach nag unrhyw grefydd na moeseg sy’n sylfaenol i’r Cristion ac i bopeth a wna.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 08 Ionawr 2023

Dydd yr Arglwydd

Chwe blynedd yn ôl, y flwyddyn 2017, oedd y tro diwethaf i Ddydd Calan fod ar y Sul.  A chyn hynny 2012, 2006, 1995, 1989, 1984 a 1978, sy’n golygu mai seithwaith yn unig y digwyddodd hynny’r deugain mlynedd diwethaf hyn. Mae heddiw’n un o’r adegau prin hynny pan fo dydd gwawrio blwyddyn newydd yn cyd-daro â dydd cyntaf yr wythnos sy’n ein hatgoffa o’r gobaith  newydd a ddaeth trwy atgyfodiad yr Arglwydd Iesu. Heddiw felly, mae Dydd Calan yn Ddydd yr Arglwydd. Ac ar Ddydd yr Arglwydd, mae cyfle i ni gyflwyno’r flwyddyn i’r Arglwydd a’i rhoddodd i ni.

I’r Cristion, enw arall y Sul yw ‘Dydd yr Arglwydd’, ond  mewn gwirionedd gellir dweud bod pob dydd o’r wythnos a phob dydd o’r flwyddyn yn ddydd yr Arglwydd. Mae’n gwbl briodol wrth gwrs i ni gofio hynny ar Ddydd Calan. Duw sy’ pia pob dydd o’r flwyddyn. Duw a roddodd i ni ddyddiau’r hen flwyddyn yr ydym yn ffarwelio â hi, a Duw hefyd a rydd i ni, o un i un, ddyddiau’r flwyddyn newydd yr ydym yn camu iddi heddiw.

Rhoddion hael oedd pob llyfr, pob crys, pob bocs o siocledi, pob pâr o ’sanau a phopeth arall a ddaeth acw’r Nadolig hwn. A rhoddion yr Arglwydd Dduw fydd dyddiau’r flwyddyn newydd; ac fel yr anrhegion, derbyniwn hwythau ’n llawen. Gofalwn beidio â’u cymryd yn ganiataol; diolchwn amdanynt; a manteisiwn i’r eithaf arnynt.

Rhodd ydi rhodd, a does yr un ohonom, gobeithio, yn cymryd rhoddion teulu a chyfeillion yn ganiataol. Peth hyll fyddai i ni gredu bod gennym hawl arnyn nhw.  A rhodd eleni fydd pob un diwrnod y bydd yr Arglwydd yn ei ganiatáu i ni. Does gan yr un ohonom hawl ar na dydd nac awr.

Peth hyll hefyd fyddai i ni beidio â gwerthfawrogi’r rhoddion a pheidio byth â diolch amdanyn nhw. Diolchwn eleni am bob dydd a gawn. Diolchwn i Dduw am bob bore newydd a welwn ac am ei ofal amdanom a’i gynhaliaeth i ni.

A pheth hyll hefyd fyddai i ni wneud dim â’r rhoddion: peidio â gwisgo’r dilledyn, peidio ag agor y llyfr, peidio â bwyta’r siocledi. Os nad yw’r rhodd yn plesio neu’n addas am ryw reswm onid gwell fyddai eu rhoi i rywun arall na’u gadael i hel llwch neu bydru?  Gofalwn ein bod yn gwneud yn fawr o bob dydd ac yn manteisio ar bob cyfle a ddaw eleni i wasanaethu’r Arglwydd mewn addoliad a gweithredoedd da o gariad at Dduw ac at ein gilydd ac at eraill.

Ar ddechrau blwyddyn newydd ac yn wyneb yr her i dreulio’i dyddiau yng ngwasanaeth Crist, mae’n dda cofio’r hyn a ddywedodd Iago yn i Lythyr yng nghanol cyfres faith o anogaethau a gorchmynion: ‘A gras mwy y mae ef yn ei roi’ (Iago 4:6). Gras Duw a’n galluoga i fanteisio i’r eithaf ar rodd y flwyddyn newydd hon.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Ionawr 2023