Neb arall

Nid cynhyrchiad newydd o Upstairs, Downstairs oedd y gyfres deledu er gwaetha’r sylw a wnaed gan un o weithwyr y gwaelodion: ‘Dyma’n lefel ni; ac fe ddywedyd wrthon ni nad oes reswm i ni fod i fyny’r grisiau o gwbl’. Welwch chi byth mohonof fi i fyny’r grisiau hwnnw gan mor ddrud yw   stafell yno. Ond pe byddech wedi talu ffortiwn i mi, fasech chi byth chwaith wedi fy ngweld dan y grisiau gyda’r criw o Donegal. Yn The Mayfair Hotel Megabuild, adroddir stori adnewyddu Gwesty Claridge’s yn Llundain. A’r gwesty moethus yn parhau i groesawu ymwelwyr fel arfer, aed ati dros rai blynyddoedd i chwalu ac ail godi ei loriau uchaf. Ond er mor rhyfeddol y gwaith hwnnw roedd rhywbeth mwy syfrdanol yn digwydd dan y gwesty. Dau fetr yn unig dan lawr gwaelod yr adeilad roedd criw o gloddwyr gyda chaib a rhaw yn prysur gloddio er mwyn adeiladu estyniad newydd o sawl llawr dan y ddaear. Waeth i mi heb â cheisio egluro sut oedd y peth yn bosibl, ond roedd yn gampwaith o brosiect peirianyddol na welwyd ei debyg yn unman cyn hynny. Roedd y cloddwyr dan arweiniad Gwyddel o’r enw Jim Mackey, a oedd wedi ymddeol cyn iddo gael ei berswadio i ymgymryd â’r gwaith hwn am nad oedd neb arall ar gael. Yn ôl y rhaglen, treuliodd y peiriannydd hynod a phrofiadol ei holl yrfa’n gwneud y gwaith na allai neb arall ei wneud ac na fyddai neb arall yn fodlon ei wneud. Yn gwbl ryfeddol, fel y dengys y gyfres, doed i ben â’r gwaith.

Gall y pethau rhyfeddaf a’r bobl fwyaf annisgwyl ein hatgoffa o’r Arglwydd Iesu Grist. Ac yn eu plith ar sail y sylw uchod, Jim Mackey. Oherwydd oni ddaeth Iesu Grist i’r byd i wneud yr hyn na fedrai neb arall ei wneud, ac na fyddai neb arall wedi bod yn fodlon ei wneud hyd yn oed pe medrai?  Dim ond Iesu Grist, Mab Duw, a fedrai fynd yn gyfrifol am ein heuogrwydd ni: dim ond fo’r dyn perffaith a fedrai gymryd ein pechodau a dwyn y gosb amdanyn nhw ar Galfaria. Pe byddai Duw, a phe byddem ni’n chwilio’r holl fyd dros yr holl ganrifoedd am rywun arall i wneud hynny, ni fyddai neb i’w gael. Dim ond Iesu allai gyflawni’r gwaith. A hyd yn oed pe medrai neb arall ei wneud, ni fyddai’n fodlon. Pwy arall a fyddai wedi’n caru ni ddigon i fynd o’i fodd i Galfaria yn ein lle?

Mae Iesu’n galw arnom i’w efelychu: ‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi’n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi’n ei orchymyn ichwi’ (Ioan 15:12-15). Mae modd i gyfeillion Iesu Grist, trwy gymorth Duw, garu a hyd yn oed roi eu bywydau dros ei gilydd. Ni fyddai Iesu wedi dweud hyn pe na fyddai’n bosibl. Ond y peth unigryw a wnaeth ef, yr hyn na fedrai ac na fyddai neb arall yn fodlon ei wneud, oedd cymryd ei gosbi yn lle’r rhai oedd yn elynion iddo. Bu farw dros rai felly er mwyn eu gwneud yn gyfeillion.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Ionawr 2023