Gair yn ei bryd

Hed amser, ond nid mor gyflym â hynny.

Wedi darllen yr erthygl yn ystod yr wythnos, mae’n debyg nad fi oedd yr unig un a drodd at y dyddiadur. Trafod dadleuon o blaid ac yn erbyn Amser Haf Prydain oedd y Yorkshire Post gan ddweud fod yr amser wedi dod i droi’r clociau unwaith eto. Minnau’n dychryn o glywed hynny cyn sylweddoli bod rhywun yn amlwg wedi gwneud cawl o bethau a chyhoeddi’r erthygl fis yn rhy gynnar.

Mae perffaith ryddid i drafod y mater hwn unrhyw bryd wrth gwrs, ond yn naturiol ceir mwy o drafod arno cyn troi’r clociau ddwywaith y flwyddyn. Rywsut, roedd yr erthygl hon yn llai gwerthfawr am ei bod mor anamserol, a hynny wrth gwrs yn eironig iawn o gofio’r testun. Does fawr o bwrpas ein hannog i gofio troi’r clociau fis cyfan o flaen llaw.

I fod o werth, mae’n rhaid i rybudd fod yn ei bryd. Caiff arwydd ffordd sy’n rhybuddio rhag tro drwg neu allt serth ei osod yn agos at y rhwystr gan na fyddai o fawr werth filltiroedd i ffwrdd. O gael y rhybudd yn rhy fuan byddem wedi anghofio am y rhwystr; o’i gael yn rhyw hwyr … gallai fod yn rhy hwyr!

Gair yn ei bryd ydi Efengyl Iesu Grist: newyddion da perthnasol ac amserol. Nid bod pawb yn ei gweld felly wrth gwrs: I rai, mae’r neges am Iesu Grist a’i farwolaeth a’i atgyfodiad yn gwbl amherthnasol. Felly hefyd bob sôn am Dduw, a phob gwahoddiad a rhybudd sy’n rhan o’n Ffydd. Ond i eraill, nid amherthnasol ond anamserol yw’r gwahoddiad a’r rhybudd. O bosib bod yna werth i’r Efengyl; o bosib bod gan Iesu Grist rywbeth i’w gynnig; ac o bosib bod yna rybudd y dylid cymryd sylw ohono, ond nid ar hyn o bryd. Rhywbryd eto o bosib.  Felly’n union y meddyliai’r person a ddywedodd – o glywed am y lleidr edifeiriol ar y groes – y gallai yntau fyw heb Dduw a throi ato ar ei wely angau pe dymunai. A dyna hefyd agwedd y gweinidog a ddywedodd ers talwm wrth ffrind i mi y byddai hen ddigon o amser  i roi sylw i bethau’r Ffydd pan fyddai’n hŷn. Rhywbryd eto o bosib!

Gair yn ei bryd yw gwahoddiad a rhybudd yr Efengyl. O ddeall hynny, ac o ymateb yn gadarnhaol i’w galwad cawn brofi’r hedd a’r llawenydd a’r gobaith sy’n rhan o’r bywyd newydd a geir trwy ffydd yng Nghrist. Po hwyaf yr oedwn wrth ymateb, mwyaf fydd ein colled gan mai’r bywyd hwn yng Nghrist yw bywyd ar ei lawnaf ac ar ei orau.  Ond gwaeth na hynny, gall gwrthod y gair yn ei bryd olygu colli’r cyfan. Ŵyr neb beth a ddigwydd mewn un dydd nac un eiliad, a gall fod na ddaw cyfle arall i ymateb i alwad yr Efengyl. Gall gwrthod ymateb neu oedi rhag gwneud hynny olygu colli’r cyfle olaf i dderbyn maddeuant Duw a’r bywyd tragwyddol sydd trwy ffydd yn Iesu Grist. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Chwefror 2023

Cyfrifoldeb

Ar y llyfr y mae’r bai.

Hebddo, faswn i ddim yn dychwelyd mor fuan at yr hyn y soniais amdano yn Gronyn dair wythnos yn ôl. Faswn i ddim wedi meddwl cyfeirio eto mor fuan â hyn at eiriau’r Salmydd am freuder ein bywydau: ‘Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn; y mae’n blodeuo fel blodeuyn y maes – pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach’ (Salm 103:15-16). Ond dyna a wnaf heddiw; ac ie, ar y llyfr y mae’r bai.

Hen lyfr o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi o. Math o ddyddiadur ac ynddo adnod a phennill ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn ynghyd â gofod i nodi gwahanol ddigwyddiadau. Ac er mai ‘Llyfr Pen-blwydd’ yw ei deitl, cofnodi marwolaethau yn hytrach na genedigaethau a wnaeth ei berchennog. Ran amlaf, dim ond nodi enw a wnaeth gyferbyn â’r dyddiad: eithriad ydi’r cofnod manylach am farwolaeth un hen flaenor a’r ‘golled fawr am un ffyddlon a diwid, a halld i bob pechod a gwastraff, sef smocio ac yfed cwrw’.

Fel y digwydd, mae’r hen flaenor a minnau’n rhannu’r un cyfenw. Ac eto, mae o mor ddieithr i mi â gweddill yr enwau sydd yn y llyfr. Ond rywsut, daeth y llyfr i’m meddiant, a wn i ddim be’ i’w wneud ag o. Mewn ffordd ryfedd, dwi’n teimlo cyfrifoldeb i’w warchod, ac i warchod yr enwau sydd ynddo. Dyw’r rheiny’n golygu dim i mi; ond dwi’n ofni y byddwn o wared â’r llyfr yn rhannol gyfrifol am beri nad ‘yw ei le’n ei adnabod mwyach’. Ond dwi hefyd yn sylweddoli nad oes modd i mi fod yn gyfrifol am bobl gwbl ddieithr o’r ganrif ddiwethaf a’r ganrif o’i blaen.

Mae’r dioddefaint yn Nhwrci a Syria ers pythefnos wedi cadarnhau’r hyn a ddywed y Salmydd am freuder bywyd: ‘Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn’. Dau ddaeargryn mewn un diwrnod yn lladd dros 40,000 o bobl, gan adael miliynau’n ddigartref a diymgeledd yn wyneb oerni gaeaf ac arswyd newyn a haint. Mae pob un ohonynt yn ddieithr i mi; yn fwy dieithr hyd yn oed na’r enwau a welais yn y llyfr. Ond rywsut, rwy’n gyfrifol amdanynt: nid am y bobl a laddwyd ond am y rhai sydd bellach yn gwbl ddibynnol ar eraill i estyn iddynt gymorth yn ei bryd. Yn wyneb dioddefaint ac angen o’r fath mae geiriau’r Arglwydd Iesu’n herio’i ddilynwyr: ‘A bydd y Brenin yn eu hateb, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch”’ (Mathew 25:40). Mae’r elusennau Cristnogol sy’n rhan o’r ymdrech fyd-eang i gynorthwyo pobl Twrci a Syria’n sianelau parod i bob gofal a chariad a ddangoswn trwy ein hymateb i’r argyfwng dychrynllyd. Credodd yr Eglwys erioed bod arni gyfrifoldeb i gyhoeddi’r Efengyl i fyd anghenus, a chredodd hefyd bod arni gyfrifoldeb i gynorthwyo’r tlodion a dioddefwyr anghenus, o’i mewn ei hun yn gyntaf ond hefyd oddi allan.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Chwefror 2023

Gwreiddioldeb

Mae’n dda gen i ddweud nad oeddwn (yn ôl un rhaglen gyfrifiadurol o leiaf) yn euog o lên-ladrad yn y golofn hon y Sul diwethaf.  Mae rhaglenni o’r fath yn gwirio dogfennau gan dynnu sylw at ddarnau sydd o bosibl wedi eu dwyn o ddogfennau neu gyhoeddiadau eraill. Gallaf fod yn dawel fy meddwl felly nad oedd erthygl y Sul diwethaf wedi ei lladrata o rywle arall. Cofiwch chi, wn i ddim faint o goel y dylwn ei roi ar y rhaglen o gofio’i bod yn nodi fod yna 190 o wallau sillafu yn yr erthygl! Cyn y medraf gysgu’n gwbl dawel mae’n debyg y dylwn ddefnyddio rhaglen Gymraeg gyfatebol (os yw’r fath beth yn bod).

Ond, a bod o ddifri’, fynnwn i ddim i neb fy nghyhuddo o lên-ladrad, sef cymryd geiriau neu syniadau pobl eraill a’u cyflwyno fel fy ngwaith fy hun. Soniodd rhywun wrthyf unwaith am ddogfen a luniodd ac a rannodd â chyd-weithiwr, a hwnnw wedyn yn cyflwyno’r un ddogfen i gydweithwyr eraill fel ei waith o’i hun. Clywais hefyd am bregethwr yn ‘dwyn’ pregeth a glywsai gan weinidog ac yn ei phregethu yng nghapel y gweinidog hwnnw. Ac yna, pan bregethodd y gweinidog y bregeth wreiddiol yn ei gapel ei hun cafodd ei gyhuddo o ladrata pregeth y llall! 

Dwi’n gobeithio nad wyf, yn fwriadol neu fel arall, mewn pregeth nac erthygl wedi dwyn syniad neu eiriau pobl eraill a’u cyflwyno fel fy ngwaith gwreiddiol i fy hun. Ond wedi dweud hynny, mae’n anodd i’r un pregethwr fod yn gwbl wreiddiol. Ar un wedd, mae’n amhosibl i bregethwr fod felly gan mai cyflwyno’r neges oesol am Iesu Grist a wna. Yr un yw’r Efengyl o hyd. Ac er y gellir dweud am Iesu Grist,

  ‘rhyw newydd wyrth o’i angau drud

   a ddaw o hyd i’r golau’,

yr un yw’r Iesu a’r un yw’r newydd da amdano o oes i oes. Ar un wedd, mae’n amhosibl dweud unrhyw beth newydd a gwreiddiol amdano. Ail ddweud yr un pethau, ail gyflwyno’r un gwirioneddau a ddatguddiwyd yn y Beibl am Iesu Grist a’i waith a’i groes a’i fedd gwag yw’r dasg holl bwysig a ymddiriedwyd i’r pregethwr ym mhob oes. Mae yna reidrwydd i geisio gwneud hynny mewn ffordd ffres a newydd wrth gwrs; ond rhaid gwneud hynny heb newid dim ar y neges ei hun. Pe byddwn yn dweud rhywbeth cwbl wreiddiol wrthych am Iesu Grist, rhywbeth  nad oes neb arall wedi ei ddweud o’m blaen, gallech fentro fy mod ar lwybr peryglus.

Nid bod pob gwreiddioldeb i’w osgoi. Ar bob cyfrif, anelwn at wreiddioldeb wrth sôn am Iesu Grist gan geisio ffyrdd newydd o gyflwyno’r Efengyl. Gwnaeth rhai hynny’n effeithiol ar hyd y cenedlaethau wrth ddod â’r neges oesol i sylw pobl mewn gwahanol gyfnodau a diwylliannau. Gochel sydd raid rhag cyhoeddi pethau newydd a gwreiddiol am Iesu, gan gofio y gall gwreiddioldeb o’r fath esgor ar Grist gwahanol iawn i Grist y Beibl.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Chwefror 2023

Nabod

Synnwn i ddim nad ydw i’n well am nabod lleisiau nag wynebau. Mi fyddaf yn aml yn cael trafferth i nabod pobl, yn arbennig wrth daro arnyn nhw’n  annisgwyl neu mewn lle a sefyllfa ddieithr. Mae gen i gof i mi unwaith gyfarch rhywun gan ddweud nad oeddwn wedi ei weld ers blynyddoedd, cyn sylweddoli fy mod wedi ei weld ac wedi sgwrsio ag o’r diwrnod cynt. Hen beth cas (y profiad, nid y person)!

Ond mi fedraf yn fynych nabod llais dros y ffôn cyn i’r galwr ei gyflwyno’i hun. A da o beth ydi hynny o gofio tuedd ambell un i agor y sgwrs efo, ‘Da chi’n gwybod pwy sydd yma?’ Yn amlach na heb, wrth gwrs, mi fyddwn yn ein cyflwyno ein hunain wrth ffonio ffrindiau a dieithriaid. Byddai bywyd yn haws i greadur fel fi pe byddem yn gwneud yr un peth wyneb yn wyneb! Oherwydd un peth ydi methu nabod llais: peth arall ydi methu nabod wyneb cyfarwydd. 

Tybed oedd y Pêr Ganiedydd yn un da am nabod wyneb a llais? Roedd o’n amlwg yn nabod wyneb a llais yr Arglwydd Iesu.

Gweld wyneb fy Anwylyd
     wna i’m henaid lawenhau
drwy’r cwbwl ges i eto
     neu fyth gaf ei fwynhau;
pan elont hwy yn eisiau,
     pam byddaf fi yn drist
tra caffwyf weled
     wyneb siriolaf Iesu Grist?

Mae llais yn galw i maes o’r byd
     a’i bleser o bob rhyw;
minnau wrandawa’r hyfryd sŵn,
     llais fy Anwylyd yw.

Trwy ffydd, roedd Williams yn gweld wyneb a chlywed llais y Gwaredwr. Nid syndod hynny o gofio mai am wyneb a llais ei Anwylyd y sonia. Welson ni ei wyneb siriolaf? Glywson ni ei lais hyfryd? Os rhywbeth, mae’r emynwyr yn sôn mwy am yr wyneb na’r llais; ond mae’r ddau’n rhan o’r adnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu ac yn sail i’r gobaith sydd gennym ninnau trwy ffydd. Ys dywed Simon B Jones: 

Pan ddryso llwybrau f oes,
     a’m tynnu yma a thraw,
a goleuadau’r byd
     yn diffodd ar bob llaw,
rho glywed sŵn dy lais
     a gweld dy gadarn wedd
yn agor imi ffordd
     o obaith ac o hedd.

A chan mai trwy’r hyn a ddatguddiodd Duw yn y Beibl y daw’r adnabyddiaeth honno, mae’r wyneb a’r llais a’r gweld a’r clywed yn un. Trwy ei eiriau, gallwn weld wyneb Iesu; a thrwy ei weithredoedd, gallwn glywed ei lais. O weld trwy eiriau ei ddysgeidiaeth, ac o glywed trwy ei waith a’i ddioddefaint, cawn ninnau (a benthyg geiriau Gerallt Lloyd Owen) ‘weld llais a chlywed llun’. Oes, mae modd i ninnau weld a chlywed yr Anwylyd trwy’r hyn a wnaeth a’r hyn a ddywedodd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Chwefror 2023