Synnwn i ddim nad ydw i’n well am nabod lleisiau nag wynebau. Mi fyddaf yn aml yn cael trafferth i nabod pobl, yn arbennig wrth daro arnyn nhw’n annisgwyl neu mewn lle a sefyllfa ddieithr. Mae gen i gof i mi unwaith gyfarch rhywun gan ddweud nad oeddwn wedi ei weld ers blynyddoedd, cyn sylweddoli fy mod wedi ei weld ac wedi sgwrsio ag o’r diwrnod cynt. Hen beth cas (y profiad, nid y person)!
Ond mi fedraf yn fynych nabod llais dros y ffôn cyn i’r galwr ei gyflwyno’i hun. A da o beth ydi hynny o gofio tuedd ambell un i agor y sgwrs efo, ‘Da chi’n gwybod pwy sydd yma?’ Yn amlach na heb, wrth gwrs, mi fyddwn yn ein cyflwyno ein hunain wrth ffonio ffrindiau a dieithriaid. Byddai bywyd yn haws i greadur fel fi pe byddem yn gwneud yr un peth wyneb yn wyneb! Oherwydd un peth ydi methu nabod llais: peth arall ydi methu nabod wyneb cyfarwydd.
Tybed oedd y Pêr Ganiedydd yn un da am nabod wyneb a llais? Roedd o’n amlwg yn nabod wyneb a llais yr Arglwydd Iesu.
Gweld wyneb fy Anwylyd
wna i’m henaid lawenhau
drwy’r cwbwl ges i eto
neu fyth gaf ei fwynhau;
pan elont hwy yn eisiau,
pam byddaf fi yn drist
tra caffwyf weled
wyneb siriolaf Iesu Grist?
Mae llais yn galw i maes o’r byd
a’i bleser o bob rhyw;
minnau wrandawa’r hyfryd sŵn,
llais fy Anwylyd yw.
Trwy ffydd, roedd Williams yn gweld wyneb a chlywed llais y Gwaredwr. Nid syndod hynny o gofio mai am wyneb a llais ei Anwylyd y sonia. Welson ni ei wyneb siriolaf? Glywson ni ei lais hyfryd? Os rhywbeth, mae’r emynwyr yn sôn mwy am yr wyneb na’r llais; ond mae’r ddau’n rhan o’r adnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu ac yn sail i’r gobaith sydd gennym ninnau trwy ffydd. Ys dywed Simon B Jones:
Pan ddryso llwybrau f oes,
a’m tynnu yma a thraw,
a goleuadau’r byd
yn diffodd ar bob llaw,
rho glywed sŵn dy lais
a gweld dy gadarn wedd
yn agor imi ffordd
o obaith ac o hedd.
A chan mai trwy’r hyn a ddatguddiodd Duw yn y Beibl y daw’r adnabyddiaeth honno, mae’r wyneb a’r llais a’r gweld a’r clywed yn un. Trwy ei eiriau, gallwn weld wyneb Iesu; a thrwy ei weithredoedd, gallwn glywed ei lais. O weld trwy eiriau ei ddysgeidiaeth, ac o glywed trwy ei waith a’i ddioddefaint, cawn ninnau (a benthyg geiriau Gerallt Lloyd Owen) ‘weld llais a chlywed llun’. Oes, mae modd i ninnau weld a chlywed yr Anwylyd trwy’r hyn a wnaeth a’r hyn a ddywedodd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Chwefror 2023