Mae’n dda gen i ddweud nad oeddwn (yn ôl un rhaglen gyfrifiadurol o leiaf) yn euog o lên-ladrad yn y golofn hon y Sul diwethaf. Mae rhaglenni o’r fath yn gwirio dogfennau gan dynnu sylw at ddarnau sydd o bosibl wedi eu dwyn o ddogfennau neu gyhoeddiadau eraill. Gallaf fod yn dawel fy meddwl felly nad oedd erthygl y Sul diwethaf wedi ei lladrata o rywle arall. Cofiwch chi, wn i ddim faint o goel y dylwn ei roi ar y rhaglen o gofio’i bod yn nodi fod yna 190 o wallau sillafu yn yr erthygl! Cyn y medraf gysgu’n gwbl dawel mae’n debyg y dylwn ddefnyddio rhaglen Gymraeg gyfatebol (os yw’r fath beth yn bod).
Ond, a bod o ddifri’, fynnwn i ddim i neb fy nghyhuddo o lên-ladrad, sef cymryd geiriau neu syniadau pobl eraill a’u cyflwyno fel fy ngwaith fy hun. Soniodd rhywun wrthyf unwaith am ddogfen a luniodd ac a rannodd â chyd-weithiwr, a hwnnw wedyn yn cyflwyno’r un ddogfen i gydweithwyr eraill fel ei waith o’i hun. Clywais hefyd am bregethwr yn ‘dwyn’ pregeth a glywsai gan weinidog ac yn ei phregethu yng nghapel y gweinidog hwnnw. Ac yna, pan bregethodd y gweinidog y bregeth wreiddiol yn ei gapel ei hun cafodd ei gyhuddo o ladrata pregeth y llall!
Dwi’n gobeithio nad wyf, yn fwriadol neu fel arall, mewn pregeth nac erthygl wedi dwyn syniad neu eiriau pobl eraill a’u cyflwyno fel fy ngwaith gwreiddiol i fy hun. Ond wedi dweud hynny, mae’n anodd i’r un pregethwr fod yn gwbl wreiddiol. Ar un wedd, mae’n amhosibl i bregethwr fod felly gan mai cyflwyno’r neges oesol am Iesu Grist a wna. Yr un yw’r Efengyl o hyd. Ac er y gellir dweud am Iesu Grist,
‘rhyw newydd wyrth o’i angau drud
a ddaw o hyd i’r golau’,
yr un yw’r Iesu a’r un yw’r newydd da amdano o oes i oes. Ar un wedd, mae’n amhosibl dweud unrhyw beth newydd a gwreiddiol amdano. Ail ddweud yr un pethau, ail gyflwyno’r un gwirioneddau a ddatguddiwyd yn y Beibl am Iesu Grist a’i waith a’i groes a’i fedd gwag yw’r dasg holl bwysig a ymddiriedwyd i’r pregethwr ym mhob oes. Mae yna reidrwydd i geisio gwneud hynny mewn ffordd ffres a newydd wrth gwrs; ond rhaid gwneud hynny heb newid dim ar y neges ei hun. Pe byddwn yn dweud rhywbeth cwbl wreiddiol wrthych am Iesu Grist, rhywbeth nad oes neb arall wedi ei ddweud o’m blaen, gallech fentro fy mod ar lwybr peryglus.
Nid bod pob gwreiddioldeb i’w osgoi. Ar bob cyfrif, anelwn at wreiddioldeb wrth sôn am Iesu Grist gan geisio ffyrdd newydd o gyflwyno’r Efengyl. Gwnaeth rhai hynny’n effeithiol ar hyd y cenedlaethau wrth ddod â’r neges oesol i sylw pobl mewn gwahanol gyfnodau a diwylliannau. Gochel sydd raid rhag cyhoeddi pethau newydd a gwreiddiol am Iesu, gan gofio y gall gwreiddioldeb o’r fath esgor ar Grist gwahanol iawn i Grist y Beibl.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Chwefror 2023