Cyfrifoldeb

Ar y llyfr y mae’r bai.

Hebddo, faswn i ddim yn dychwelyd mor fuan at yr hyn y soniais amdano yn Gronyn dair wythnos yn ôl. Faswn i ddim wedi meddwl cyfeirio eto mor fuan â hyn at eiriau’r Salmydd am freuder ein bywydau: ‘Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn; y mae’n blodeuo fel blodeuyn y maes – pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach’ (Salm 103:15-16). Ond dyna a wnaf heddiw; ac ie, ar y llyfr y mae’r bai.

Hen lyfr o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi o. Math o ddyddiadur ac ynddo adnod a phennill ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn ynghyd â gofod i nodi gwahanol ddigwyddiadau. Ac er mai ‘Llyfr Pen-blwydd’ yw ei deitl, cofnodi marwolaethau yn hytrach na genedigaethau a wnaeth ei berchennog. Ran amlaf, dim ond nodi enw a wnaeth gyferbyn â’r dyddiad: eithriad ydi’r cofnod manylach am farwolaeth un hen flaenor a’r ‘golled fawr am un ffyddlon a diwid, a halld i bob pechod a gwastraff, sef smocio ac yfed cwrw’.

Fel y digwydd, mae’r hen flaenor a minnau’n rhannu’r un cyfenw. Ac eto, mae o mor ddieithr i mi â gweddill yr enwau sydd yn y llyfr. Ond rywsut, daeth y llyfr i’m meddiant, a wn i ddim be’ i’w wneud ag o. Mewn ffordd ryfedd, dwi’n teimlo cyfrifoldeb i’w warchod, ac i warchod yr enwau sydd ynddo. Dyw’r rheiny’n golygu dim i mi; ond dwi’n ofni y byddwn o wared â’r llyfr yn rhannol gyfrifol am beri nad ‘yw ei le’n ei adnabod mwyach’. Ond dwi hefyd yn sylweddoli nad oes modd i mi fod yn gyfrifol am bobl gwbl ddieithr o’r ganrif ddiwethaf a’r ganrif o’i blaen.

Mae’r dioddefaint yn Nhwrci a Syria ers pythefnos wedi cadarnhau’r hyn a ddywed y Salmydd am freuder bywyd: ‘Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn’. Dau ddaeargryn mewn un diwrnod yn lladd dros 40,000 o bobl, gan adael miliynau’n ddigartref a diymgeledd yn wyneb oerni gaeaf ac arswyd newyn a haint. Mae pob un ohonynt yn ddieithr i mi; yn fwy dieithr hyd yn oed na’r enwau a welais yn y llyfr. Ond rywsut, rwy’n gyfrifol amdanynt: nid am y bobl a laddwyd ond am y rhai sydd bellach yn gwbl ddibynnol ar eraill i estyn iddynt gymorth yn ei bryd. Yn wyneb dioddefaint ac angen o’r fath mae geiriau’r Arglwydd Iesu’n herio’i ddilynwyr: ‘A bydd y Brenin yn eu hateb, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch”’ (Mathew 25:40). Mae’r elusennau Cristnogol sy’n rhan o’r ymdrech fyd-eang i gynorthwyo pobl Twrci a Syria’n sianelau parod i bob gofal a chariad a ddangoswn trwy ein hymateb i’r argyfwng dychrynllyd. Credodd yr Eglwys erioed bod arni gyfrifoldeb i gyhoeddi’r Efengyl i fyd anghenus, a chredodd hefyd bod arni gyfrifoldeb i gynorthwyo’r tlodion a dioddefwyr anghenus, o’i mewn ei hun yn gyntaf ond hefyd oddi allan.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Chwefror 2023