Gair yn ei bryd

Hed amser, ond nid mor gyflym â hynny.

Wedi darllen yr erthygl yn ystod yr wythnos, mae’n debyg nad fi oedd yr unig un a drodd at y dyddiadur. Trafod dadleuon o blaid ac yn erbyn Amser Haf Prydain oedd y Yorkshire Post gan ddweud fod yr amser wedi dod i droi’r clociau unwaith eto. Minnau’n dychryn o glywed hynny cyn sylweddoli bod rhywun yn amlwg wedi gwneud cawl o bethau a chyhoeddi’r erthygl fis yn rhy gynnar.

Mae perffaith ryddid i drafod y mater hwn unrhyw bryd wrth gwrs, ond yn naturiol ceir mwy o drafod arno cyn troi’r clociau ddwywaith y flwyddyn. Rywsut, roedd yr erthygl hon yn llai gwerthfawr am ei bod mor anamserol, a hynny wrth gwrs yn eironig iawn o gofio’r testun. Does fawr o bwrpas ein hannog i gofio troi’r clociau fis cyfan o flaen llaw.

I fod o werth, mae’n rhaid i rybudd fod yn ei bryd. Caiff arwydd ffordd sy’n rhybuddio rhag tro drwg neu allt serth ei osod yn agos at y rhwystr gan na fyddai o fawr werth filltiroedd i ffwrdd. O gael y rhybudd yn rhy fuan byddem wedi anghofio am y rhwystr; o’i gael yn rhyw hwyr … gallai fod yn rhy hwyr!

Gair yn ei bryd ydi Efengyl Iesu Grist: newyddion da perthnasol ac amserol. Nid bod pawb yn ei gweld felly wrth gwrs: I rai, mae’r neges am Iesu Grist a’i farwolaeth a’i atgyfodiad yn gwbl amherthnasol. Felly hefyd bob sôn am Dduw, a phob gwahoddiad a rhybudd sy’n rhan o’n Ffydd. Ond i eraill, nid amherthnasol ond anamserol yw’r gwahoddiad a’r rhybudd. O bosib bod yna werth i’r Efengyl; o bosib bod gan Iesu Grist rywbeth i’w gynnig; ac o bosib bod yna rybudd y dylid cymryd sylw ohono, ond nid ar hyn o bryd. Rhywbryd eto o bosib.  Felly’n union y meddyliai’r person a ddywedodd – o glywed am y lleidr edifeiriol ar y groes – y gallai yntau fyw heb Dduw a throi ato ar ei wely angau pe dymunai. A dyna hefyd agwedd y gweinidog a ddywedodd ers talwm wrth ffrind i mi y byddai hen ddigon o amser  i roi sylw i bethau’r Ffydd pan fyddai’n hŷn. Rhywbryd eto o bosib!

Gair yn ei bryd yw gwahoddiad a rhybudd yr Efengyl. O ddeall hynny, ac o ymateb yn gadarnhaol i’w galwad cawn brofi’r hedd a’r llawenydd a’r gobaith sy’n rhan o’r bywyd newydd a geir trwy ffydd yng Nghrist. Po hwyaf yr oedwn wrth ymateb, mwyaf fydd ein colled gan mai’r bywyd hwn yng Nghrist yw bywyd ar ei lawnaf ac ar ei orau.  Ond gwaeth na hynny, gall gwrthod y gair yn ei bryd olygu colli’r cyfan. Ŵyr neb beth a ddigwydd mewn un dydd nac un eiliad, a gall fod na ddaw cyfle arall i ymateb i alwad yr Efengyl. Gall gwrthod ymateb neu oedi rhag gwneud hynny olygu colli’r cyfle olaf i dderbyn maddeuant Duw a’r bywyd tragwyddol sydd trwy ffydd yn Iesu Grist. 

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Chwefror 2023