Canmolwyd Rishi Sunak i’r cymylau ddydd Llun diwethaf am y ‘Fframwaith Windsor’ a gyhoeddwyd ganddo ar y cyd ag Ursula von dêr Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Ym Melffast drannoeth, wrth annog pawb o bob perswâd i gofleidio’r Fframwaith mynnodd y byddai Gogledd Iwerddon o’i gweithredu ‘mewn safle unigryw trwy’r byd i gyd, a chanddi fynediad i farchnad fewnol y Deyrnas Unedig – pumed economi fwyaf y byd – ac i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd. Does gan neb arall hynny; neb o gwbl. Dim ond chi, “guys”; dim ond yma! Dyna’r wobr!’ Byddai’r byd cyfan am fuddsoddi a sefydlu busnesau yn ardal economaidd fwyaf cyffrous y byd!
Un ai mae Mr Sunak yn dwp neu mae’n credu bod y gweddill ohonom yn dwp. Ofni ydw i fod y ddeubeth yn wir gan mai’r union beth y mae’r Prif Weinidog yn ei ganmol a ddilëwyd gan y Brecsit yr oedd o mor frwd o’i blaid. Ar Fawrth 26, 2016, meddai, ‘Dyma o bell ffordd y penderfyniad anoddaf i mi ei wneud fel Aelod Seneddol, ond ar Fehefin 23 byddaf yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd’. Roedd y breintiau hyn a wna i’r byd cyfan ‘genfigennu wrth Ogledd Iwerddon’ yn eiddo i’r Deyrnas Unedig cyn iddo fo a’i debyg fynnu eu taflu ymaith. Mae’n anhygoel ei fod bellach, heb owns o gywilydd na’r awgrym lleiaf o eironi, yn cymeradwyo’r union freintiau hyn.
Ar un wedd, roedd hyn yn f’atgoffa o’r ffordd y bydd llawer yn gofidio am ddirywiad a thranc cynifer o gapeli ac eglwysi yng Nghymru, a hwythau yn aml yn aelodau na wnaethant ddim i’w diogelu nac i gyfrannu at eu gwaith. Gweld eu gwerth wedi eu colli; gweld eu gwerth wedi eu gwrthod.
Ond gwaeth na phwysicach na hynny yw gwrthod yr Efengyl. Y neges am groes Iesu Grist a’i fedd gwag a roes i’r Eglwys ei gwerth a’i hystyr ar hyd y canrifoedd. Braint yr Eglwys fu credu’r neges; a’i bri fu bod yn offeryn i gyhoeddi’r neges honno. Ond aeth aberth ac atgyfodiad yn annerbyniol ac atgas i lawer ers blynyddoedd. Ac er pob dyhead am lewyrch a llwyddiant i’r Eglwys, mae’r union beth a rydd obaith i hynny wedi ei hen wrthod. Mae pobl am weld y byd yn cofleidio Crist ond ar yr un pryd yn gwadu’r Crist hwnnw eu hunain.
A rhag pwyntio bys at eraill yn unig, gwyliwn rhag annog eraill i gofleidio’r neges a ninnau hefyd, os nad yn ei gwrthod, yn ei dibrisio. Mor rhwydd yw cymeradwyo’r Efengyl i eraill, a’n calonnau ein hunain yn oer a chaled. Mor rhwydd yw pwyso ar eraill i droi at Grist, a ninnau’n euog o beidio ag ymddiried ynddo. Mor rhwydd yw cyfeirio eraill at fywyd o wasanaeth ac ymgysegriad i Grist, a’r ymdrech a’r ddisgyblaeth yn brin yn ein bywydau ein hunain. Gwyliwn rhag mawrygu’r bywyd Cristnogol yr ydym hefyd yn ei wrthod, ‘rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy’ (1 Cor. 9:27).
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 5 Mawrth 2023