Carwch

‘Oedd o yn y coleg efo taid yr hogan?’ ‘Oedd hi’n nain i gefnder ei ffrind?’ Yn nhymor yr eisteddfodau, dyna’r math o beth y bydd rhywrai’n ei ddeud am ambell feirniad! ‘Oni fyddai pob un gwerth ei halen wedi gweld mai fy mhlentyn i oedd y gorau o bell ffordd?’ Yn wyneb y fath gyhuddiadau, byddai beirniaid parchus o Fôn i Fynwy’n rhuthro i ddatgan eu bod bob amser yn gwbl deg ac yn hollol ddiduedd.

Fasa fo ddim yn gneud beirniad da. Fasa fo’n sicr ddim yn ddiduedd! A fasa fo ddim yn trio cuddio hynny chwaith. Beth petai o’n nabod un o’r cystadleuwyr? Beth petai un o’i blant ei hun yn camu i’r llwyfan? Fyddai dim pwrpas i neb arall gystadlu (pe byddai wedi ei nabod wrth gwrs!) ‘Y wobr gyntaf i Johnson Junior’ fyddai hi bob gafael. Beth arall ellid ei ddisgwyl oddi wrth ddyn a roddodd sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi i’w frawd ac sy’n awyddus i anrhydeddu ei dad ei hun â’r teitl ‘Syr’ trwy’r rhestr anrhydeddau y clywsom amdani’r wythnos ddiwethaf? Y fath wyneb sydd ganddo! Ond doedden ni’n gwybod hynny p’run bynnag?

Y peth rhwyddaf yn y byd yw ffafrio ffrindiau a châr. Mae’n naturiol i bobl ddymuno’r gorau i’w hanwyliaid, ond mewn byd a betws rhaid gochel rhag ffafriaeth. A ddylid dyrchafu pobl am eu bod yn perthyn i rywun o bwys? A ddylid cyflwyno i gydnabod a theulu gyfleoedd a manteision nad ydynt ar gael i eraill? Mor gyfan gwbl wahanol yw gorchymyn Iesu Grist i’w bobl: ‘Ond wrthych chwi sy’n gwrando rwy’n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich  casáu, bendithiwch y rhai sy’n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy’n eich cam-drin’ (Luc 6:27-28). Nid ffafrio câr ar draul eraill ond caru a gwneud daioni i bawb, hyd yn oed bobl sy’n ein cam-drin ac yn bwriadu drwg i ni. Mae’r gorchymyn hwn yn cyfleu’n berffaith y bywyd newydd a gwahanol y galwyd y Cristion iddo: gwasanaeth i Grist a chariad at eraill, pwy bynnag a beth bynnag ydynt. Yn ôl Iesu, ffafrio cyfeillion a charu’r rhai sy’n ein caru ni yw ffordd y byd, ac  ‘Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny’ (6:33). Mae ffordd Iesu’n chwyldroadol o wahanol. Ac am ei bod yn gwbl amhosibl i neb ei dilyn ohono’i hun mae arnom ni, fel ei holl ddisgyblion dros y canrifoedd, angen y gras a’r nerth a geir trwy ffydd yn Iesu Grist ei hun. Yn Efengyl Luc (fel yn y Bregeth ar y Mynydd yn Efengyl Mathew) daw’r gorchymyn hwn i garu wedi’r disgrifiad a geir yn y Gwynfydau o’r Cristion fel y tlotyn ysbrydol sy’n wylo am ei gyflwr ac yn newynu am faddeuant a derbyniad i deyrnas a theulu Duw. Pobl felly sy’n ceisio gras i ufuddhau i orchmynion mawr Iesu i garu fel hyn. Pobl ydyn nhw sy’n sylweddoli nad yw Iesu’n gofyn iddyn nhw wneud dim nad ydi o’i hun wedi ei wneud o’u blaen gan iddo fod yn fodlon i ddioddef a marw ar Galfaria dros bobl a oedd unwaith yn elynion iddo.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Mawrth 2023