Tybed be’ wnai’r ‘Hen Ŵr o’r Coed’ o’r holl newid a fu ers iddo gofnodi ei ‘Atgofion am Blwyf Llandegai’ union ganrif yn ôl yn rhifyn Mawrth 2023 o Y Cyfaill Eglwysig? Mae cymaint wedi newid mewn can mlynedd.
Wrth sôn am ysgolfeistr a ymadawodd â Llandegai ym 1863, dywedodd mai ‘hen ŵr nice’ oedd Mr Ffoulkes. Ond mae’n amlwg bod ein dealltwriaeth o’r gair bach Saesneg nice yn wahanol iawn erbyn hyn! Yn ôl yr erthygl, roedd Mr Ffoulkes yn ‘Gymro glân’, ond ni siaradai fyth air o Gymraeg â’r plant, a chosbai hwy â’r Welsh Not ac â ‘smack ar ei law’. Roedd ganddo ‘winnedd miniog, ac arferai binchio’r plant, ac wedi hynny eu gwatwar os wylent. Yn lle cansen roedd ganddo bric blaenfain … â’r hwn yr arferai frathu neu bwnio rhai ohonom mewn lle go dender, nes y byddem ar lawr yn rhwbio’r dolur, a’r hen sgŵl yn ein gwatwar.’ Go brin y medrwn heddiw dderbyn eglurhad yr awdur mai ‘ychydig yn hen ffasiwn yn ei ffordd oedd yr hen athro’! Ac anodd ydi meddwl y byddai neb am un eiliad heddiw’n ystyried cynnig swydd iddo mewn unrhyw ysgol. Ond yn ei ddydd, roedd yn amlwg yn ddyn neis!
Mae llawer mwy nag ystyr ambell air wedi newid dros y ganrif ddiwethaf wrth gwrs. Ac o feddwl ymhellach nôl i gyfnod Mr Ffoulkes yn Llandegai, nid y lleiaf o ddigon o’r pethau a newidiodd er gwell yw lle’r Gymraeg ym myd addysg a’r gwaharddiad ar gosb gorfforol.
Ond pa newidiadau bynnag a welwyd, mae yna bethau sydd yr un ac nad oes newid arnynt o ganrif i ganrif. Ac ar drothwy’r Pasg, fe’n hatgoffir mai’r pwysicaf ohonynt yw’r Efengyl a’i chyhoeddiad am y bywyd sydd i bobl trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Yr un yw’r Efengyl o oes i oes, a’r un yw’r Gwaredwr: ‘Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth’ (Hebreaid 13:8). Yr un yw neges yr Eglwys Gristnogol heddiw ag yn y ganrif gyntaf gan mai Iesu Grist yw’r neges honno. Cyhoeddi Iesu Grist – ei ymgnawdoliad, ei fywyd, ei esiampl, ei ddysgeidiaeth, ei ufudd-dod, ei farwolaeth, ei atgyfodiad, ei esgyniad a’i ail ddyfodiad – a wna’r Eglwys heddiw fel erioed. Mae’r cyfan sydd ganddi i’w ddweud a’i gynnig wedi ei sylfaenu ar Iesu Grist a’r hyn a wnaeth ef tros eraill. Nid syniadau na delfrydau ond person –person gwir a fu fyw mewn cyfnod a lle penodol, a’r hyn a gyflawnodd ac a ddioddefodd – yw sail y Ffydd Gristnogol. Cyhoeddi Crist a’i groes a’i fedd wag a wna’r Eglwys yn yr unfed ganrif ar hugain, fel yn y ganrif gyntaf, nid am ei bod yn stori dda nac am ei bod yn mynnu glynu wrth draddodiad ond am mai marwolaeth ac atgyfodiad Crit yw’r digwyddiadau a roes fod iddi ac sy’n dal i roi iddi ei phwrpas a’i gobaith. Crist y groes a’r bedd gwag fu ei neges, a’r Crist hwn hefyd yw ac a fydd ei neges. A pheth arall nad yw’n newid yw’r ffaith fod yna lu o bobl ym mhob canrif a chyfnod sydd trwy ffydd a chymorth Duw yn arddel y Ffydd hon.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Mawrth 2023