Yn ei dyb ei hun

Trydydd ydi Rory McIlroy; Jon Rahm ydi’r ail; ond Scottie Scheffler sydd ar hyn o bryd ar frig rhestr swyddogol golffwyr gorau’r byd. Mae’r hen Tiger Woods cyn ised â safle 983 ar y rhestr honno. Ond dydi enw un o’r golffwyr gorau ddim ar y rhestr, er gwaetha’r ffaith iddo ennill cystadleuaeth o bwys yn ddiweddar iawn. Ac nid unrhyw fuddugoliaeth chwaith gan fod y chwaraewr dawnus hwn wedi dod yn bencampwr er iddo golli rownd gyntaf y gystadleuaeth. Nid colli o ran cael ei drechu, ond colli yn yr ystyr o fod yn absennol ar ddiwrnod cynta’r ornest.

Os gwyddoch unrhyw beth am golff, rydach chi’n deall nad ydi hynny’n bosibl. I gael unrhyw obaith o ennill cystadleuaeth mae’n rhaid i olffiwr chwarae ym mhob rownd, boed un, dwy, tair neu bedair rownd. Chaiff neb ymuno â’r gystadleuaeth ar yr ail neu’r trydydd diwrnod, wedi colli rownd neu ddwy. Ond dyna’n union a wnaeth yr arch-olffiwr Donald Trump. Wedi colli rownd agoriadol yr ornest, ymunodd â’r chwarae ar gyfer yr ail rownd gan nodi sgôr well na neb ar gyfer ei rownd gyntaf trwy honni iddo sicrhau’r sgôr ryfeddol honno ychydig ddyddiau’n gynharach! Aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth. A doedd ryfedd hynny gan fod y cyn-arlywydd yn enwog am ei anonestrwydd ar feysydd golff am ei fod yn gyson yn hawlio sgôr is na’i wir sgôr wrth fynd o dwll i dwll. Rhannodd y newydd da am y fuddugoliaeth gwbl ysgubol ar ei blatfform cyfryngau  cymdeithasol ei hun, TRUTH. A dyna beth ydi eironi o’r radd fwyaf.

Yn ei dyb ei hun, Mr Trump oedd y pencampwr, a chan mai fo oedd pia’r cwrs golff mae’n debyg nad oedd neb am feiddio dweud fel arall. Yn ei dyb ei hun hefyd, fel y ceisiodd argyhoeddi Pwyllgor Breintiau Tŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, mae Boris Johnson  yn ddieuog o gamarwain yn fwriadol aelodau’r Tŷ hwnnw. Iddo ef, mae’n gwbl anhygoel y byddai unrhyw bwyllgor nac unigolyn am un eiliad yn meddwl fel arall. Waeth beth y rheolau na beth y dystiolaeth i’r gwrthwyneb, y gwir i’r naill a’r llall yw’r hyn y maen nhw’n dewis ei gredu. Ac nid annhebyg yw’r olwg sydd gan lawer o bobl ar ffydd a chrefydd. Beth bynnag a ddywed y Beibl, beth bynnag yw cred draddodiadol yr Eglwys, beth bynnag a ddywed yr un Cristion, ‘fel hyn yr ydw i’n ei gweld hi!’ Onid dyna ddywed cynifer o bobl?

Mae pawb yn rhydd i gredu’r hyn a fyn wrth gwrs. Ond ni olyga hynny fod pawb yn gywir na bod barn pawb yr un mor ddilys gan fod y fath beth â gwirionedd: gwirionedd gwrthrychol; gwirionedd sydd wedi ei ddatguddio gan Dduw ei hun. Nid beth yr ydw i’n ei gredu am Dduw sy’n cyfrif ond beth y mae Duw wedi ei ddweud ac wedi ei ddangos amdano’i hun. Nid fy syniad i am Iesu Grist sy’n bwysig, ond yr hyn a ddatguddiwyd i ni amdano yn y Beibl. Gallaf anghytuno faint fynnaf â’r hyn a ddywed Duw amdano’i hun ac am ei Fab, ond fydd hynny ddim yn gwneud fy marn i yn gywir. Chaf fi ddim anwybyddu’r dystiolaeth na’i hail lunio yn ôl fy mympwy fy hun.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mawrth 2023