Bywyd

O’r holl gerbydau a ddaeth i’m cwfwr, dyna’r un a gofiaf. Ar y pryd, wnes i ddim sylwi pa fath o gerbyd oedd o, ond mi sylwais ar y pedwar gair mewn llythrennau breision ar ei ffenest flaen a meddwl bod y gyrrwr yn cyflwyno ei athroniaeth bywyd i bwy bynnag a âi heibio iddo: ‘ONE LIFE, LIVE IT’. Dim ond wedi gorffen yr erthygl hon y deallais mai Land Rover oedd y cerbyd gan mai slogan a ddefnyddir gan y cwmni hwnnw yw’r geiriau. Bu raid ail sgwennu’r paragraff cyntaf wedyn!

Mae’n bosib na fyddwn wedi sylwi ar y geiriau o gwbl pe na fyddwn ar y pryd ar fy ffordd i fynwent. Ar ganol angladd Cristnogol roedd y syniad mai ‘un bywyd sydd’ yn ymddangos i mi’n hynod o dlawd.

Mae’n siŵr fod ‘One Life. Live It’ yn athroniaeth sylfaenol i fwy o bobl na’r sawl a’u dewisodd yn arwyddair i Land Rover. Yr athroniaeth mai unwaith yn unig yr ydan ni ar y ddaear; un bywyd sydd; un cyfle a gawn, a bod rhaid gwneud yn fawr ohono ac ymdrechu i fwynhau pob eiliad o bob dydd. Wrth gwrs, mae’n rhwydd deall sentiment y fath ddweud. A gall yr athroniaeth hon esgor nid yn unig ar awydd i fwynhau bywyd i’r eithaf ond ar ddyhead cywir i wneud ac i fod y gorau a fedrwn yn yr un bywyd hwn.

Mwy na thebyg na fyddwn i wedi meddwl ddwywaith am y geiriau pe na fyddwn ar y ffordd i’r fynwent y dydd o’r blaen. Ond y funud honno, roedd y syniad o ‘un bywyd’ mor ddiobaith, mor wag ac mor gyfan gwbl wahanol i’r hyn a ddywed yr Efengyl wrthym. Mae’r Ffydd Gristnogol yn ein sicrhau nad un bywyd sydd, diolch am hynny. Nid y bywyd sydd gennym yn y byd hwn yw’r stori gyfan. Nid marwolaeth yw’r diwedd i bobl Dduw. Mae’n wir y daw marwolaeth â diwedd i’n bywyd ar y ddaear, ond neges fuddugoliaethus yr Efengyl yw bod y tu draw i angau a bedd fywyd i bawb sy’n credu yn Iesu Grist. Bu farw Iesu ac atgyfodi, a’r gobaith sicr a roddwyd i ni yw y bydd fyw hefyd bawb sy’n credu ynddo. Er bod rhaid iddyn nhw farw, fe fyddan nhw hefyd fyw. Ac mor rhyfeddol  yw’r gobaith a gawsom: ‘Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn   drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith. Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu’ (1 Thesaloniaid 4:13-14). Nid mynwent nac amlosgfa na hyd yn oed farwolaeth yw’r diwedd i bobl Crist ond y nefoedd a’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol a sicrhaodd Crist ei hun iddyn nhw trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad. 

Rhoddion Duw yw’r byd a’r bywyd hwn: rhoddion i’w mwynhau, ie, ac i wneud yn fawr ohonyn nhw. Ond nid un byd nac un bywyd sydd; ac mae Duw am i ni ddeall hynny a bod yn ddoeth trwy gredu ei addewid a derbyn ei gynnig o’r bywyd sydd eto i ddod i ni: y bywyd tragwyddol gydag Ef, a chyda Iesu Grist a phawb a gredodd ynddo erioed.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Ebrill 2023

Gwylio geiriau

Mae geiriau’n bwysig. Nid i bawb mae’n debyg: yn sicr, nid yr un mor bwysig. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos hynny, wrth i bobl ddweud pethau ar facebook a twitter ac ati na fydden nhw o bosib yn breuddwydio eu deud wyneb yn wyneb. Mae eraill yn fwy gofalus eu geiriau ac yn dal sylw ar bob gair a sill, yn ormodol felly hyd yn oed. ‘Be ddeudodd o yn union wrtha i?’ ‘Be oedd hi’n ei olygu trwy ddeud hynny?’ Mae’r Beibl yn sicr yn ein dysgu i fod yn ofalus o’n geiriau ac i fod yn ymwybodol o’r modd y medran nhw gael effaith er da ac er drwg.  

Ddydd Gwener, cyflwynodd Dominic Raab, Ysgrifennydd Cyfiawnder a    Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth San Steffan ei ymddiswyddiad i’w Brif Weinidog yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol Adam Tolley a fu’n ystyried cwynion a wnaed am ei ymddygiad. Barnodd yr Adroddiad fod Mr Raab yn euog o ddau gyhuddiad o fwlio aelodau ei staff. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad gyda gofid gan Rishi Sunak. Yn ôl yr arfer ar achlysuron o’r fath, roedd y Prif Weinidog yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth clodwiw a roddwyd cyn y cwymp. Cyfeiriodd at yr adeg y safodd Mr Raab yn y bwlch yn ystod yr argyfwng COVID ‘pan oedd y Prif Weinidog ar y pryd yn yr ysbyty … Fel y Canghellor ar y pryd, sylwais ar y ffordd golegol y gwnaethoch chi ddelio â’r her fwyaf anodd honno.’ Roedd defnydd Mr Sunak o’r gair ‘colegol’ (collegiate) yn ddiddorol. Tybed pam y gair hwnnw?

Ystyr collegiate way yn y cyswllt hwn yw gweithio ar y cyd, gweithio gan rannu’r awdurdod a’r cyfrifoldeb ag eraill. Yn ôl un esboniad o’r gair a welais, ‘Rydych yn gwybod eich bod mewn awyrgylch golegol pan fo’ch cydweithwyr yn gwenu arnoch a phan nad oes raid i chi guddio rhag eich pennaeth’. Ie, pam y gair hwn tybed? Oedd y Prif Weinidog yn fwriadol yn tanseilio Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol trwy awgrymu bod Mr Raab yn ei farn ef yn gweithredu’n ‘golegol’ braf gyda’i gydweithwyr? Neu, oedd o’n rhoi cic slei i’r ‘Prif Weinidog ar y pryd’ trwy awgrymu bod  hwnnw’n arwain mewn ffordd oedd yn bopeth ond ‘colegol’? Roedd yn ddigon annelwig; ond byddai’n  ddifyr gwybod beth yn union a olygai.

I’r graddau sydd bosib, ceisiwn, fel disgyblion Iesu Grist, fod yn eglur ein geiriau. Yn ein tystiolaeth i’r Efengyl, ceisiwn ddeud mor syml a chlir ag y medrwn am gariad Duw a’r hyn y mae’r Arglwydd Iesu Grist yn ei olygu i ni. Ac yn ein hymwneud â’n gilydd ac eraill, ceisiwn ddeud popeth mor glir a gonest a diamwys â phosib. Gwyliwn rhag camarwain pobl a gwneud iddyn nhw boeni a cholli cwsg wrth geisio dyfalu beth yn hollol a ddywedwn wrthyn nhw. ‘Oedd hi wir yn golygu hynny?’ ‘Pam ddeudodd o hynny rwan? Gall gair difeddwl neu air aneglur beri poen diangen i eraill. Mor braf fyddai peidio â gorfod egluro ‘nad dyna oeddwn i’n ei feddwl’ neu ‘nad oeddwn i’n bwriadu deud hynny’. Ydi, mae geiriau’n bwysig.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Ebrill 2023

Cysgod y gaeaf

Doedd o ddim yn Basg cynnar eleni. Doedd o ddim yn un hwyr chwaith. Roedd Ebrill 9fed yn y canol rhwng dyddiadau cynharaf a hwyraf posibl y Pasg ar Fawrth 22ain ac Ebrill 25ain. O gofio hynny, doedd y tywydd braf dros yr Ŵyl ddim yn gwbl annisgwyl, hyd yn oed wedi’r mis Mawrth hynod o wlyb a gawsom. Wrth i’r tyrfaoedd ymweld â’r broydd hyn, nid annisgwyl oedd yr holl barcio anghyfreithlon a arweiniodd at gau  lonydd a chario rhesi o geir ymaith ar gefn lori. Ac wedi prysurdeb yr Ŵyl nid annisgwyl chwaith oedd dychweliad y gwynt a’r glaw. A minnau’n sgwennu’r geiriau hyn fore Mercher wedi’r Pasg, mae haenen o eira ar gopa’r Wyddfa a thrwch o  eirlaw dros ffenest flaen y car y tu allan i’r tŷ, i’m hatgoffa bod cysgod y gaeaf yn aros er dyfod y gwanwyn.

Gydag amheuaeth amlwg Thomas, roedd cysgod y gaeaf yn aros ymhlith disgyblion Iesu Grist y nos Sul wedi’r Pasg. Daethai’r gwanwyn y Sul cynt gydag atgyfodiad Iesu, ond roedd Thomas wedi gwrthod credu tystiolaeth ei ffrindiau iddynt weld Iesu’n fyw. Am wythnos gyfan byddai amheuaeth yr un disgybl hwn yn loes i’r gweddill. Roedden nhw wedi llawenhau o weld Iesu nos Sul y Pasg, ac ni allwn ond dychmygu eu rhwystredigaeth o weld Thomas yn amharod i dderbyn eu gair. Tybed sawl gwaith y ceisiodd un neu ragor o’r disgyblion ei argyhoeddi o wirionedd eu tystiolaeth cyn i’r gaeaf gilio’r nos Sul ganlynol wedi i Thomas weld Iesu â’i lygaid ei hun? A thybed sawl gweddi a offrymwyd gan ei gyd-ddisgyblion rhwng y ddau Sul, yn erfyn ar Dduw i wneud i’r amheuwr hwn gredu bod eu Harglwydd wedi ei godi’n fyw o’r bedd?

Bu’r Pasg yn gyfle i ni unwaith eto ddathlu atgyfodiad Iesu; a gwnaethom hynny, gobeithio, gyda’r llawenydd a brofodd ei ddisgyblion o wybod am ei fuddugoliaeth dros farwolaeth. Ond a deimlwn ninnau fod peth o gysgod y gaeaf yn aros o weld cydnabod a châr a chyfeillion yn amddifad o’r ffydd yn Iesu Grist a ddaw â bywyd a gobaith? Ac fel o bosibl y gweddïodd rhai o’r disgyblion dros Thomas, a weddïwn ninnau o’r newydd dros anwyliaid na ddaethant hyd yma i gredu yng Nghrist? A ddaliwn i weddïo y profant y llawenydd a’r bodlonrwydd sy’n eiddo i bobl sy’n adnabod Crist ac yn ymddiried ynddo?

Fedrai tystiolaeth y disgyblion ddim bod yn fwy eglur: ‘Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd’. Buont mor ofnus ac anobeithiol â Thomas, a gwyddai yntau hynny. Ond wedi iddynt weld Iesu nos Sul y Pasg roedd popeth yn wahanol. Roeddent yn bobl newydd; ac eto, mor amharod i gredu ac mor barod i amau oedd Thomas. Trwy dystiolaeth ffyddlon teulu ac eglwys, mae cynifer o bobl yn gwybod am Iesu Grist ac yn gyfarwydd â’r Efengyl  ond heb eto fentro ato mewn ffydd. Fedrwn ni, ddim mwy na’r disgyblion, berswadio neb i gredu, ond medrwn ofyn i Dduw yn ei drugaredd dynnu amheuwyr ac anghredinwyr ato’i hun.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Ebrill 2023

Lle mae o?

Daeth rhifyn diweddaraf cylchgrawn BARN, rhifyn mis Ebrill, acw bron i bythefnos yn ôl. Cefais gip sydyn arno wedi iddo ddod trwy’r post. Ond yna fe’i collais, a fedrwn i yn fy myw â dod o hyd iddo wedyn. Roedd gen i gof i mi fynd ag o i’r llofft, ond er chwilio a chwilio fedrwn i ddim ei weld. Doedd o chwaith ddim ar fwrdd y gegin nac wrth y ddesg (na thani) nac yn unman arall y medrwn ddychmygu fy mod wedi ei adael ynddo. Wedi dyddiau o chwilio ofer, mi soniais wrth Aled am ddirgelwch y cylchgrawn coll. Ac meddai yntau heb feddwl dwywaith, ‘Mae o yn y rac cylchgronau’.

Yn y rac cylchgronau? Wnes i ddim meddwl am fanno. Dyna’r lle dwytha y baswn i’n chwilio am gylchgrawn! Ar y soffa, ar y gadair, ar y bwrdd, ar y ddesg, ie. Wrth y gwely hyd yn oed, ond nid yn y rac! Dim ond hen rifynnau sydd yn hwnnw; nid rhifynnau cyfredol ar ganol eu darllen.

Ond yno yr oedd o, yn yr un lle na wnes i chwilio amdano. Ac eto, onid dyna’r union le y dylai fod ynddo? O leiaf, yno y basa fo pe byddwn i’n fwyfwy taclus a threfnus.  Roedd Mair Magdalen a’r gwragedd a ddaethai efo hi at fedd Iesu Grist fore’r Pasg yn disgwyl gweld corff Iesu yn y bedd. Iddyn nhw yn eu galar a’u siom a’u loes, dyna’r union le y dylai fod. Ond er mawr syndod, roedd y bedd yn wag a’r Iesu ddim yno. Doedd o ddim lle roedden nhw’n chwilio amdano. Mewn gwirionedd, y bedd oedd yr un lle na ddylen nhw fod wedi chwilio amdano ynddo gan fod Iesu wedi deud yn ddigon clir wrth ei ddilynwyr y byddai’n atgyfodi ymhen tridiau.

Doedd y gwragedd a’r disgyblion ddim wedi deall mai’r bedd oedd y lle dwytha y dylen nhw fod wedi disgwyl gweld Iesu ynddo’r diwrnod hwnnw. Am fod Duw yn daclus ac yn drefnus yn cyflawni ei fwriadau doeth ar gyfer eu hiachawdwriaeth, mi ddylen nhw fod wedi sylweddoli mai ymhlith y byw y gwelid Iesu ar fore’r Pasg. Am fod Duw wrth y llyw roedd Iesu’n fyw, a dylai ei ddilynwyr fod wedi deall a chredu hynny.

Dros Ŵyl y Pasg bu eglwysi ym mhob cwr o’r byd yn cyhoeddi o’r newydd ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr. Y ddau ddigwyddiad sy’n uchafbwynt i’r cyfan yw croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu, ac mae’r groes a’r bedd gwag felly’n sylfaenol i’r Ffydd Gristnogol. A heddiw, dathlwn y fuddugoliaeth y mae’r bedd gwag yn arwydd ohoni; buddugoliaeth Iesu Grist dros bechod a marwolaeth.

Ac wrth wneud hynny, cyhoeddwn mai byw yw Crist a gwahoddwn bobl i’w geisio. Yn amlwg, nid mewn bedd y daw neb o hyd iddo. Ond gofalwn hefyd na rown yr argraff i eraill ei fod wedi ei gyfyngu i dudalennau ein Beibl ac i’n diwinyddiaeth, fel pe na fyddai ond cymeriad hanesyddol neu ran o’n dysgeidiaeth. Trwy ffydd, mae Iesu Grist i’w ganfod ymhlith y byw, yn Arglwydd a Gwaredwr, yn Gyfaill a Brawd, yn Frenin a Diddanydd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul y Pasg, 9 Ebrill 2023

Siachmat

Paentiad olew a wnaed gan Almaenwr o’r enw Friedrich August Moritz Retzsch yw Die Schachspieler (‘Y Chwaraewyr Gwyddbwyll’) a werthwyd am £67,500 ym mis Hydref 1999 yn Christie’s. Yn y llun, mae Mephistopheles (neu’r Diafol) yn chwarae gwyddbwyll â’r cymeriad Faust. Mae crechwen y Diafol a’r olwg drist ar wyneb ei wrthwynebydd yn awgrymu bod y Diafol wedi ennill y gêm, a hynny sy’n egluro’r teitl arall a roddwyd i’r paentiad, Checkmate (neu ‘Siachmat’ yn Gymraeg). Yr awgrym yw bod y Diafol, trwy ennill y gêm, yn trechu neu’n cipio enaid y dyn.

Mae llu o bregethwyr wedi cyfeirio at y paentiad ar sail stori a adroddir amdano. Mae sawl fersiwn iddi. Yn ôl un, wedi gweld y paentiad mewn amgueddfa (y Louvre ym Mharis o bosib), mynnodd pencampwr gwyddbwyll nad oedd y teitl ‘Siachmat’ yn addas am nad oedd y Diafol mewn gwirionedd wedi ennill y gêm gan fod un symudiad arall a fyddai’n ennill  iddo’r gêm yn bosib i Faust. Mewn erthygl yn y Columbia Chess Chronicle ym mis Awst 1888, mae Gilbert Frith yn honni mai yng nghartref y Parchg R R Harrison yn Richmond, Virginia y gwelodd pencampwr gwyddbwyll o’r enw Paul Morphy gopi o’r paentiad a thynnu sylw at y ffaith nad oedd y gêm a ddarluniai drosodd, cyn mynd ati i ail greu’r symudiadau a fyddai wedi ennill y gêm i Faust. Bu cryn drafod ar y mater ar dudalennau’r Chronicle dros y misoedd dilynol. Ond beth bynnag am darddiad y stori, y mae ei neges yn glir: credai’r Diafol iddo ennill y dydd, ond nid felly y bu.

Mae’n stori berthnasol heddiw, o bob dydd o’r flwyddyn. Ar y Groglith, cofiwn y dydd a’r awr yr oedd y Diafol yn sicr o’i fuddugoliaeth. Roedd wedi ‘gosod yng nghalon Jwdas’ y bwriad i fradychu Iesu ac yn hyderus y deuai marwolaeth Iesu  â diwedd i’w waith. Yn ei dyb ef, roedd yn ‘Siachmat’ ar Iesu a’i waith a’i deyrnas a’i bobl. Felly hefyd y syniai’r archoffeiriad a’r awdurdodau crefyddol a’r milwyr a’r bobl a welodd Iesu’n cael ei groeshoelio. Ond nid hwy yn unig chwaith. Felly hefyd y meddyliai disgyblion Iesu Grist o weld eu hathro a’u harweinydd yn cael ei ddal a’i ladd. ‘Siachmat! Checkmate!’ Roedd popeth ar ben a chynllwynion y Diafol wedi llwyddo, a Mab Duw wedi ei goncro a bwriadau Duw wedi eu dryllio. Ni all crechwen Mephistopheles Moritz Retzch ddechrau cyfleu hyder mawr y Diafol yn ei fuddugoliaeth anochel.

Ond nid mor anochel, gan nad siachmat mohoni. Mae symudiad arall i ddod; y symudiad godidocaf, nid mewn gêm ond yn yr ornest bwysicaf oll. Â’r disgyblion yn drist a’r gelynion yn gorfoleddu a’r diafol yn dathlu, cafwyd y symudiad rhyfeddaf pan symudwyd Iesu o afael marwolaeth yn ôl i dir y byw. Atgyfodiad Iesu oedd y prawf diamheuol mai di-sail oedd pob sôn am siachmat am fod Crist yn fuddugol ac yn dwyn bywyd a gobaith i’w bobl.

‘Ni allodd angau du

ddal Iesu’n gaeth.  

ddim hwy na’r trydydd dydd 

– yn rhydd y daeth.’

Dathlwn hynny’n llawen y Pasg hwn.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023

Wele dy frenin

Bydd y cyferbyniad yn amlwg eleni. Nid ar unwaith o bosib gan mai tebyg i bob blwyddyn arall fydd ein dathliadau Sul y Blodau heddiw. Adroddir eto’r stori gyfarwydd am Iesu Grist yn marchogaeth i Jerwsalem ar gefn asyn, a’r tyrfaoedd yn ei groesawu trwy daenu dillad dan draed yr anifail a chwifio canghennau palmwydd a gweiddi, ‘Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel’.

Er mor gyffrous o anghyffredin oedd digwyddiadau’r dydd hwnnw, dywed  Efengyl Ioan: ‘Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn’ (Ioan 12:16). Roedd Iesu Grist yn cyflawni proffwydoliaeth yr Hen Destament: ‘Llawenha’n fawr, ferch Seion; bloeddia’n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen’ (Sechareia 9:9). A thrwy weiddi ‘Hosanna’ roedd y bobl yn cyflawni proffwydoliaeth Salm 118:25-26. Dim ond yn ddiweddarach er hynny,  wedi i Iesu gael ei groeshoelio a’i atgyfodi, y deallodd y disgyblion arwyddocâd ei ymdaith arbennig a’r croeso a roddwyd iddo.

A hwythau wedi bod yng nghwmni Iesu cyhyd ac wedi eu dysgu ganddo, dylasai’r disgyblion wybod yn well. Ac eto, gan fod golygfeydd Sul y Blodau mor wahanol i’r hyn y byddai pobl wedi arfer eu cysylltu â brenin, gellir cydymdeimlo â hwy yn eu methiant i ddeall mai brenin yw’r un y buont yn ei ddilyn: brenin na welwyd ei debyg na chynt na wedyn; brenin a’i tlododd ac a’i darostyngodd ei hun i weithredu nid fel teyrn ond fel gwas. Cawn ein hatgoffa o hynny bob blwyddyn ar y Sul arbennig hwn.

Ond ymhen mis, amlygir gwir ryfeddod y brenin a wasanaethodd  ei bobl trwy fodloni i farw trostynt o’i gyferbynnu â rhwysg y coroni a fydd yn Llundain. Beth bynnag a ddywedwyd am goroni ‘ar raddfa lai’ – low-key a slimmed down yw’r geiriau a ddefnyddiwyd – bydd dathliadau’r coroni’n urddasol, yn lliwgar ac yn llawn crandrwydd. Uwchlaw popeth, byddant yn ddrudfawr, â phob sôn am gynni ariannol ein dydd wedi ei anwybyddu a’i anghofio.

Beth bynnag a wnewch o’r dathliadau yn Llundain a sut bynnag y treuliwch y dydd a’r ŵyl banc fydd yn ei ddilyn, ceisiwch eiliad i’ch atgoffa’ch hun o’r hyn a ddathlwn heddiw. Brenin y byd yw Iesu Grist; Brenin nefoedd a daear; y Brenin tragwyddol sy’n haeddu parch ac ymostyngiad pawb, o bob cyfnod a gwlad. Annigonol fyddai holl wychder a chyfoeth pob coroni daearol i’w ddyrchafu’n iawn. Ac eto, ni ddaeth Iesu i geisio clod pwysigion byd nac i arglwyddiaethu dros bobl. Daeth yma i wasanaethu, a choron y gwasanaeth oedd y goron ddrain a’i ddioddefaint a’i farwolaeth ar Galfaria.

Bwriedir i’r coroni yn Llundain ein hatgoffa o statws a bri’r brenin a’i deulu. Mor wahanol y dathlu heddiw o’r Brenin a’n carodd hyd angau.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul y Blodau, 2 Ebrill 2023