Wele dy frenin

Bydd y cyferbyniad yn amlwg eleni. Nid ar unwaith o bosib gan mai tebyg i bob blwyddyn arall fydd ein dathliadau Sul y Blodau heddiw. Adroddir eto’r stori gyfarwydd am Iesu Grist yn marchogaeth i Jerwsalem ar gefn asyn, a’r tyrfaoedd yn ei groesawu trwy daenu dillad dan draed yr anifail a chwifio canghennau palmwydd a gweiddi, ‘Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel’.

Er mor gyffrous o anghyffredin oedd digwyddiadau’r dydd hwnnw, dywed  Efengyl Ioan: ‘Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn’ (Ioan 12:16). Roedd Iesu Grist yn cyflawni proffwydoliaeth yr Hen Destament: ‘Llawenha’n fawr, ferch Seion; bloeddia’n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen’ (Sechareia 9:9). A thrwy weiddi ‘Hosanna’ roedd y bobl yn cyflawni proffwydoliaeth Salm 118:25-26. Dim ond yn ddiweddarach er hynny,  wedi i Iesu gael ei groeshoelio a’i atgyfodi, y deallodd y disgyblion arwyddocâd ei ymdaith arbennig a’r croeso a roddwyd iddo.

A hwythau wedi bod yng nghwmni Iesu cyhyd ac wedi eu dysgu ganddo, dylasai’r disgyblion wybod yn well. Ac eto, gan fod golygfeydd Sul y Blodau mor wahanol i’r hyn y byddai pobl wedi arfer eu cysylltu â brenin, gellir cydymdeimlo â hwy yn eu methiant i ddeall mai brenin yw’r un y buont yn ei ddilyn: brenin na welwyd ei debyg na chynt na wedyn; brenin a’i tlododd ac a’i darostyngodd ei hun i weithredu nid fel teyrn ond fel gwas. Cawn ein hatgoffa o hynny bob blwyddyn ar y Sul arbennig hwn.

Ond ymhen mis, amlygir gwir ryfeddod y brenin a wasanaethodd  ei bobl trwy fodloni i farw trostynt o’i gyferbynnu â rhwysg y coroni a fydd yn Llundain. Beth bynnag a ddywedwyd am goroni ‘ar raddfa lai’ – low-key a slimmed down yw’r geiriau a ddefnyddiwyd – bydd dathliadau’r coroni’n urddasol, yn lliwgar ac yn llawn crandrwydd. Uwchlaw popeth, byddant yn ddrudfawr, â phob sôn am gynni ariannol ein dydd wedi ei anwybyddu a’i anghofio.

Beth bynnag a wnewch o’r dathliadau yn Llundain a sut bynnag y treuliwch y dydd a’r ŵyl banc fydd yn ei ddilyn, ceisiwch eiliad i’ch atgoffa’ch hun o’r hyn a ddathlwn heddiw. Brenin y byd yw Iesu Grist; Brenin nefoedd a daear; y Brenin tragwyddol sy’n haeddu parch ac ymostyngiad pawb, o bob cyfnod a gwlad. Annigonol fyddai holl wychder a chyfoeth pob coroni daearol i’w ddyrchafu’n iawn. Ac eto, ni ddaeth Iesu i geisio clod pwysigion byd nac i arglwyddiaethu dros bobl. Daeth yma i wasanaethu, a choron y gwasanaeth oedd y goron ddrain a’i ddioddefaint a’i farwolaeth ar Galfaria.

Bwriedir i’r coroni yn Llundain ein hatgoffa o statws a bri’r brenin a’i deulu. Mor wahanol y dathlu heddiw o’r Brenin a’n carodd hyd angau.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul y Blodau, 2 Ebrill 2023