Daeth rhifyn diweddaraf cylchgrawn BARN, rhifyn mis Ebrill, acw bron i bythefnos yn ôl. Cefais gip sydyn arno wedi iddo ddod trwy’r post. Ond yna fe’i collais, a fedrwn i yn fy myw â dod o hyd iddo wedyn. Roedd gen i gof i mi fynd ag o i’r llofft, ond er chwilio a chwilio fedrwn i ddim ei weld. Doedd o chwaith ddim ar fwrdd y gegin nac wrth y ddesg (na thani) nac yn unman arall y medrwn ddychmygu fy mod wedi ei adael ynddo. Wedi dyddiau o chwilio ofer, mi soniais wrth Aled am ddirgelwch y cylchgrawn coll. Ac meddai yntau heb feddwl dwywaith, ‘Mae o yn y rac cylchgronau’.
Yn y rac cylchgronau? Wnes i ddim meddwl am fanno. Dyna’r lle dwytha y baswn i’n chwilio am gylchgrawn! Ar y soffa, ar y gadair, ar y bwrdd, ar y ddesg, ie. Wrth y gwely hyd yn oed, ond nid yn y rac! Dim ond hen rifynnau sydd yn hwnnw; nid rhifynnau cyfredol ar ganol eu darllen.
Ond yno yr oedd o, yn yr un lle na wnes i chwilio amdano. Ac eto, onid dyna’r union le y dylai fod ynddo? O leiaf, yno y basa fo pe byddwn i’n fwyfwy taclus a threfnus. Roedd Mair Magdalen a’r gwragedd a ddaethai efo hi at fedd Iesu Grist fore’r Pasg yn disgwyl gweld corff Iesu yn y bedd. Iddyn nhw yn eu galar a’u siom a’u loes, dyna’r union le y dylai fod. Ond er mawr syndod, roedd y bedd yn wag a’r Iesu ddim yno. Doedd o ddim lle roedden nhw’n chwilio amdano. Mewn gwirionedd, y bedd oedd yr un lle na ddylen nhw fod wedi chwilio amdano ynddo gan fod Iesu wedi deud yn ddigon clir wrth ei ddilynwyr y byddai’n atgyfodi ymhen tridiau.
Doedd y gwragedd a’r disgyblion ddim wedi deall mai’r bedd oedd y lle dwytha y dylen nhw fod wedi disgwyl gweld Iesu ynddo’r diwrnod hwnnw. Am fod Duw yn daclus ac yn drefnus yn cyflawni ei fwriadau doeth ar gyfer eu hiachawdwriaeth, mi ddylen nhw fod wedi sylweddoli mai ymhlith y byw y gwelid Iesu ar fore’r Pasg. Am fod Duw wrth y llyw roedd Iesu’n fyw, a dylai ei ddilynwyr fod wedi deall a chredu hynny.
Dros Ŵyl y Pasg bu eglwysi ym mhob cwr o’r byd yn cyhoeddi o’r newydd ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr. Y ddau ddigwyddiad sy’n uchafbwynt i’r cyfan yw croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu, ac mae’r groes a’r bedd gwag felly’n sylfaenol i’r Ffydd Gristnogol. A heddiw, dathlwn y fuddugoliaeth y mae’r bedd gwag yn arwydd ohoni; buddugoliaeth Iesu Grist dros bechod a marwolaeth.
Ac wrth wneud hynny, cyhoeddwn mai byw yw Crist a gwahoddwn bobl i’w geisio. Yn amlwg, nid mewn bedd y daw neb o hyd iddo. Ond gofalwn hefyd na rown yr argraff i eraill ei fod wedi ei gyfyngu i dudalennau ein Beibl ac i’n diwinyddiaeth, fel pe na fyddai ond cymeriad hanesyddol neu ran o’n dysgeidiaeth. Trwy ffydd, mae Iesu Grist i’w ganfod ymhlith y byw, yn Arglwydd a Gwaredwr, yn Gyfaill a Brawd, yn Frenin a Diddanydd.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul y Pasg, 9 Ebrill 2023