Doedd o ddim yn Basg cynnar eleni. Doedd o ddim yn un hwyr chwaith. Roedd Ebrill 9fed yn y canol rhwng dyddiadau cynharaf a hwyraf posibl y Pasg ar Fawrth 22ain ac Ebrill 25ain. O gofio hynny, doedd y tywydd braf dros yr Ŵyl ddim yn gwbl annisgwyl, hyd yn oed wedi’r mis Mawrth hynod o wlyb a gawsom. Wrth i’r tyrfaoedd ymweld â’r broydd hyn, nid annisgwyl oedd yr holl barcio anghyfreithlon a arweiniodd at gau lonydd a chario rhesi o geir ymaith ar gefn lori. Ac wedi prysurdeb yr Ŵyl nid annisgwyl chwaith oedd dychweliad y gwynt a’r glaw. A minnau’n sgwennu’r geiriau hyn fore Mercher wedi’r Pasg, mae haenen o eira ar gopa’r Wyddfa a thrwch o eirlaw dros ffenest flaen y car y tu allan i’r tŷ, i’m hatgoffa bod cysgod y gaeaf yn aros er dyfod y gwanwyn.
Gydag amheuaeth amlwg Thomas, roedd cysgod y gaeaf yn aros ymhlith disgyblion Iesu Grist y nos Sul wedi’r Pasg. Daethai’r gwanwyn y Sul cynt gydag atgyfodiad Iesu, ond roedd Thomas wedi gwrthod credu tystiolaeth ei ffrindiau iddynt weld Iesu’n fyw. Am wythnos gyfan byddai amheuaeth yr un disgybl hwn yn loes i’r gweddill. Roedden nhw wedi llawenhau o weld Iesu nos Sul y Pasg, ac ni allwn ond dychmygu eu rhwystredigaeth o weld Thomas yn amharod i dderbyn eu gair. Tybed sawl gwaith y ceisiodd un neu ragor o’r disgyblion ei argyhoeddi o wirionedd eu tystiolaeth cyn i’r gaeaf gilio’r nos Sul ganlynol wedi i Thomas weld Iesu â’i lygaid ei hun? A thybed sawl gweddi a offrymwyd gan ei gyd-ddisgyblion rhwng y ddau Sul, yn erfyn ar Dduw i wneud i’r amheuwr hwn gredu bod eu Harglwydd wedi ei godi’n fyw o’r bedd?
Bu’r Pasg yn gyfle i ni unwaith eto ddathlu atgyfodiad Iesu; a gwnaethom hynny, gobeithio, gyda’r llawenydd a brofodd ei ddisgyblion o wybod am ei fuddugoliaeth dros farwolaeth. Ond a deimlwn ninnau fod peth o gysgod y gaeaf yn aros o weld cydnabod a châr a chyfeillion yn amddifad o’r ffydd yn Iesu Grist a ddaw â bywyd a gobaith? Ac fel o bosibl y gweddïodd rhai o’r disgyblion dros Thomas, a weddïwn ninnau o’r newydd dros anwyliaid na ddaethant hyd yma i gredu yng Nghrist? A ddaliwn i weddïo y profant y llawenydd a’r bodlonrwydd sy’n eiddo i bobl sy’n adnabod Crist ac yn ymddiried ynddo?
Fedrai tystiolaeth y disgyblion ddim bod yn fwy eglur: ‘Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd’. Buont mor ofnus ac anobeithiol â Thomas, a gwyddai yntau hynny. Ond wedi iddynt weld Iesu nos Sul y Pasg roedd popeth yn wahanol. Roeddent yn bobl newydd; ac eto, mor amharod i gredu ac mor barod i amau oedd Thomas. Trwy dystiolaeth ffyddlon teulu ac eglwys, mae cynifer o bobl yn gwybod am Iesu Grist ac yn gyfarwydd â’r Efengyl ond heb eto fentro ato mewn ffydd. Fedrwn ni, ddim mwy na’r disgyblion, berswadio neb i gredu, ond medrwn ofyn i Dduw yn ei drugaredd dynnu amheuwyr ac anghredinwyr ato’i hun.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 16 Ebrill 2023