Mae geiriau’n bwysig. Nid i bawb mae’n debyg: yn sicr, nid yr un mor bwysig. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos hynny, wrth i bobl ddweud pethau ar facebook a twitter ac ati na fydden nhw o bosib yn breuddwydio eu deud wyneb yn wyneb. Mae eraill yn fwy gofalus eu geiriau ac yn dal sylw ar bob gair a sill, yn ormodol felly hyd yn oed. ‘Be ddeudodd o yn union wrtha i?’ ‘Be oedd hi’n ei olygu trwy ddeud hynny?’ Mae’r Beibl yn sicr yn ein dysgu i fod yn ofalus o’n geiriau ac i fod yn ymwybodol o’r modd y medran nhw gael effaith er da ac er drwg.
Ddydd Gwener, cyflwynodd Dominic Raab, Ysgrifennydd Cyfiawnder a Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth San Steffan ei ymddiswyddiad i’w Brif Weinidog yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol Adam Tolley a fu’n ystyried cwynion a wnaed am ei ymddygiad. Barnodd yr Adroddiad fod Mr Raab yn euog o ddau gyhuddiad o fwlio aelodau ei staff. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad gyda gofid gan Rishi Sunak. Yn ôl yr arfer ar achlysuron o’r fath, roedd y Prif Weinidog yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth clodwiw a roddwyd cyn y cwymp. Cyfeiriodd at yr adeg y safodd Mr Raab yn y bwlch yn ystod yr argyfwng COVID ‘pan oedd y Prif Weinidog ar y pryd yn yr ysbyty … Fel y Canghellor ar y pryd, sylwais ar y ffordd golegol y gwnaethoch chi ddelio â’r her fwyaf anodd honno.’ Roedd defnydd Mr Sunak o’r gair ‘colegol’ (collegiate) yn ddiddorol. Tybed pam y gair hwnnw?
Ystyr collegiate way yn y cyswllt hwn yw gweithio ar y cyd, gweithio gan rannu’r awdurdod a’r cyfrifoldeb ag eraill. Yn ôl un esboniad o’r gair a welais, ‘Rydych yn gwybod eich bod mewn awyrgylch golegol pan fo’ch cydweithwyr yn gwenu arnoch a phan nad oes raid i chi guddio rhag eich pennaeth’. Ie, pam y gair hwn tybed? Oedd y Prif Weinidog yn fwriadol yn tanseilio Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol trwy awgrymu bod Mr Raab yn ei farn ef yn gweithredu’n ‘golegol’ braf gyda’i gydweithwyr? Neu, oedd o’n rhoi cic slei i’r ‘Prif Weinidog ar y pryd’ trwy awgrymu bod hwnnw’n arwain mewn ffordd oedd yn bopeth ond ‘colegol’? Roedd yn ddigon annelwig; ond byddai’n ddifyr gwybod beth yn union a olygai.
I’r graddau sydd bosib, ceisiwn, fel disgyblion Iesu Grist, fod yn eglur ein geiriau. Yn ein tystiolaeth i’r Efengyl, ceisiwn ddeud mor syml a chlir ag y medrwn am gariad Duw a’r hyn y mae’r Arglwydd Iesu Grist yn ei olygu i ni. Ac yn ein hymwneud â’n gilydd ac eraill, ceisiwn ddeud popeth mor glir a gonest a diamwys â phosib. Gwyliwn rhag camarwain pobl a gwneud iddyn nhw boeni a cholli cwsg wrth geisio dyfalu beth yn hollol a ddywedwn wrthyn nhw. ‘Oedd hi wir yn golygu hynny?’ ‘Pam ddeudodd o hynny rwan? Gall gair difeddwl neu air aneglur beri poen diangen i eraill. Mor braf fyddai peidio â gorfod egluro ‘nad dyna oeddwn i’n ei feddwl’ neu ‘nad oeddwn i’n bwriadu deud hynny’. Ydi, mae geiriau’n bwysig.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 23 Ebrill 2023