O weld y pennawd yn y papur newydd, diolch wnes i na fydda i’n mynd i Sir Fôn yn aml.
Ond ydi popeth mor ddrud erbyn hyn? Mae’r cyfryngau byth a hefyd yn dweud wrthym am gost gynyddol bwydydd ac ynni a llu o bethau eraill. Ond tipyn o fraw er hynny oedd y pennawd hwn ym mhapur newydd Y Cymro: “£360,000 i fynd i’r tai bach ar arfordir Môn”. Rhaid bod yna dai bach moethus ar yr ynys os yw’n costio cymaint â hynny i’w defnyddio.
Wedi darllen yr erthygl sylweddolais i mi gamddeall yn llwyr. Dweud a wnâi fod Cyngor Môn wedi gwario £360,000 ar wella toiledau cyhoeddus ym Mhorth Dafarch, Porth Swtan, Bae Trearddur a Benllech. Fydd dim rhaid talu’r fath bres mawr i fynd i’r tŷ bach.
Cam ddeall pethau’n o arw a wnaeth yr ‘eraill’ y sonia Luc amdanynt yn Actau 2:13 hefyd. Dydd y Pentecost oedd hi, a’r Ysbryd Glân wedi dod ar ddisgyblion Iesu yn Jerwsalem, fel yr addawodd Iesu. Roedd y disgyblion wedi dechrau siarad ‘â thafodau dieithr’ a phawb wedi synnu gan fethu â deall beth oedd yn digwydd. A mynnai’r ‘eraill’ mai ‘wedi meddwi y maent’. Ond roedd eu hesboniad mor ddi-sail â’m hofnau i ynghylch tai bach Môn. Simon Pedr aeth ati i’w cywiro trwy egluro nad wedi meddwi yr oedd y rhain ond wedi derbyn yr Ysbryd y proffwydodd Joel amdano ganrifoedd yn gynharach: yr Ysbryd a fyddai’n galluogi pobl i gyhoeddi neges Dduw.
Os oedd eraill yn camddeall yr hyn a ddigwyddodd ar y Pentecost, nid felly Pedr a’i gyfeillion. Roedd ganddyn nhw wrth gwrs y fantais o wybod bod Crist wedi addo y deuai’r Ysbryd Glân atyn nhw. Ac er na wydden nhw sut na phryd yn union y deuai, roedden nhw’n aros amdano. Mae’n amlwg fod Pedr wedi deall beth ddigwyddodd. Ond er mor awyddus oedd o i gywiro eglurhad anghywir pobl eraill, nid dyna’r flaenoriaeth y diwrnod hwnnw, a buan iawn y trodd Pedr ei sylw at y newyddion da am Iesu Grist.
Ond er mor ddramatig a chyffrous oedd tywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost, ni fwriadodd Duw i’r Ysbryd hawlio’r sylw. Dod i nerthu disgyblion Iesu i gyhoeddi’r Efengyl a wnaeth yr Ysbryd. Ac wrth i Pedr droi’r sylw oddi wrth yr Ysbryd at Iesu Grist, mae’n amlwg fod yr Ysbryd hwn a dywalltwyd eisoes wrth ei waith. A byth ers hynny, bu’r Ysbryd yn cymell a nerthu pobl Dduw i dystio i Grist a’i waith achubol.
‘Sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro’ a ‘thafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt’ oedd yn arwyddo dyfodiad yr Ysbryd ar y Pentecost. Chlywn ni mo’r un sŵn a welwn ni mo’r un tafodau heddiw gan fod y ddeubeth yn unigryw i’r diwrnod hwnnw. Ond yr arwydd amlycaf o waith yr Ysbryd yn ein plith yw bod yr Arglwydd Iesu’n cael ei gyhoeddi a’i glodfori. Daliwn i weddio y bydd yr Ysbryd yn ein harwain a’n nerthu yn ein tystiolaeth i’n Gwaredwr.