Golwg wahanol

Am bron i ddeugain mlynedd, o 1971 hyd 2008, ar y radio i ddechrau ond ar y teledu am ran helaetha’r cyfnod maith hwnnw, Terry Wogan fu llais y BBC ar gyfer Cystadleuaeth Cân yr Eurovision. Fe’i dilynwyd ar y teledu gan Graham Norton. Y ddau hyn mae’n debyg, gyda’u sylwadau doniol a dychanol, fu’n gyfrifol am wneud y gystadleuaeth flynyddol yn amlach na heb yn dipyn o jôc. Doedd neb na dim yn ddiogel rhag brath y dychan. Gwisg ac ymddangosiad y perfformwyr; gallu a hiwmor cyflwynwyr y sioe; cynllun y llwyfan; marciau’r paneli beirniaid; a hyd yn oed safon y canu a’r caneuon eu hunain: roedd hyn oll a mwy yn destun sbort. A gorau oll os byddai cân neu ddwy ar ddiwedd y noson wedi sicrhau ‘nul points’ i rwbio halen i’r briw.

O ran yr Eurovision, Philistiad o’r radd flaenaf fûm i erioed. O fwrw golwg dros restr y caneuon a’r perfformwyr buddugol, bron nad oes raid mynd nôl i’r flwyddyn 1988 i weld enw sy’n  gyfarwydd i mi. Mae gen i gof o Céline Dion yn cynrychioli’r Swistir y flwyddyn honno, ond fyddwn i am bris yn y byd wedi medru dweud mai teitl y gân oedd ‘Ne partez pas sans moi’. Bron yn ddieithriad, dod i’r golwg ar gyfer y marcio fyddwn, ac o’r herwydd wn i ddim a fu newid o ran agwedd Mr Norton a’r BBC at y gystadleuaeth y blynyddoedd diwethaf hyn. Ond o’i chynnal yn Lerpwl eleni, ni ellir ond sylwi bod jôc o gystadleuaeth wedi dod yn ŵyl gelfyddydol o bwys. Cafwyd wythnos o raglenni radio a theledu i roi sylw i’r paratoadau ar gyfer yr ŵyl, a’r ymarferion a’r rowndiau cynderfynol a flaenorodd y rownd derfynol a  enillwyd gan Sweden neithiwr. Wn i ddim sut na phryd y newidiodd pethau, ond mae’n debyg bod a wnelo’r ffaith fod yr ŵyl wedi tyfu ac esblygu â’r newid agwedd ati.

Hyfryd bob amser yw gweld pobl yn cael golwg newydd ar yr Efengyl. Nid newid agwedd yw hynny fel y cyfryw, ond newid meddwl a dod i gofleidio’r hyn a fu gynt yn ddirgelwch neu hyd yn oed yn wrthodedig a dirmygedig. Rhyfeddod a llawenydd yw gweld rhai a fu’n ddibris o’r Ffydd Gristnogol yn dod i’w thrysori, a gweld rhai a fu’n ddall i gariad Crist yn dod i’w anwylo. Gwelwyd y fath gyfnewidiad dros y blynyddoedd, ac fe’i gwelir heddiw eto ym mhob rhan o’r byd. Ond nid unrhyw newid nac esblygiad o du’r Efengyl sy’n peri’r cyfnewidiad hwnnw. Nid y Ffydd sy’n newid. Mae’r Efengyl yn ddigyfnewid. Ac mae Iesu Grist yn ddigyfnewid. Yr un yw’r neges; yr un yw prydferthwch Crist; yr un yw tramgwydd y groes; yr un yw’r alwad i edifeirwch; yr un yw’r gwahoddiad i gredu; a’r un yw’r rhybudd rhag peidio â gwneud hynny.

Nid yr Efengyl sy’n newid ond pobl. Agwedd pobl at y Ffydd sy’n newid; golwg pobl ar Iesu Grist sy’n newid. Ac nid newid bychan yw peth felly ond ffrwyth ymwneud Duw yn eu bywydau. Mae’n llawer mwy na dim ond newid agwedd: Duw ei hun sy’n deffro pobl ac yn eu bywhau ac yn eu galluogi i weld yr hyn a fu a’r hyn sydd wir erioed am Iesu Grist.  

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 14 Mai 2023

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s