Mae yna sôn am fydwragedd yn y Beibl. Yn Llyfr Genesis, ceir hanes Rachel, mam Benjamin, yn marw ar ei enedigaeth, ond nid cyn i’w bydwraig ddweud wrthi fod y plentyn wedi ei eni (Genesis 35:17). Yn Llyfr Exodus, sonnir am y bydwragedd Eifftaidd sy’n parchu Duw ac yn cadw babanod yr Israeliaid yn fyw, yn groes i orchymyn Pharo (Exodus 1:15-21).
Mae’r efengylwyr yn gynnil iawn eu disgrifiadau o eni Iesu Grist. Ni sonnir am fydwraig, ac ni allwn ond dyfalu pwy a fu’n gweini ar Mair wrth iddi esgor ar ei mab bach. Mae’n deg dweud, mae’n debyg, na welwyd yr enedigaeth gan fawr neb. Tybed a oedd hyd yn oed Joseff yn dyst i ddyfodiad Mab Duw i’r byd yn y plentyn bach? Ond cafodd miloedd o bobl ei weld wedi hynny, trwy ei blentyndod a’i lencyndod a’i weinidogaeth.
Tebyg oedd y stori gyda dyfodiad Iesu o’r bedd ar fore’r Pasg. Welodd neb mohono’n codi’n ôl yn fyw ac yn diosg y cadachau oedd amdano ac yn gadael y bedd. Ond fe’i gwelwyd wedyn gan gannoedd o bobl yn ystod y deugain niwrnod dilynol.
Ond ymhen y deugain niwrnod roedd pethau’n wahanol gan fod ar Fynydd yr Olewydd gynulleidfa fechan i dystio i ymadawiad Iesu o’r byd. Cafodd yr un disgybl ar ddeg y fraint ryfeddol o’i weld yn cael ei godi oddi ar y ddaear a’i gymryd o’u golwg mewn cwmwl. Doedd dim rhaid wrth dystion i union eiliad ei enedigaeth a’i atgyfodiad gan y byddai mwy na digon o bobl yn y man yn gweld y baban newydd-anedig a’r Iesu atgyfodedig. Ond, o bosib am na fyddai’r disgyblion na neb arall ar wyneb daear yn gweld Iesu wedi ei ymadawiad, cafodd yr un ar ddeg weld ei esgyniad rhyfeddol. A thrwy’r hyn a welsant a’r hyn a ddywedwyd wrthynt gan ddau angel deallodd y disgyblion fod eu Harglwydd wedi ei ddyrchafu i’r nefoedd. Roedd wedi gorffen y gwaith y daethai i’r byd i’w wneud ac wedi ei dderbyn yn ôl i’w ogoniant. Rhag bod amheuaeth ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd i Iesu, rhoddwyd i’w ddisgyblion y fraint o fod yn dystion i’r digwyddiad goruwchnaturiol ac unigryw a ddethlir gan yr Eglwys Gristnogol ar Ddydd Iau Dyrchafael.
Ddydd Iau diwethaf, felly, bu miliynau o bobl ym mhob cwr o’r byd yn dathlu Esgyniad Iesu. Wrth wneud hynny, roeddent yn amlwg yn edrych nôl gan gofio digwyddiadau’r un dydd hwnnw. Ond mae pob dathliad o’r Esgyniad yn golygu hefyd edrych ymlaen. Fel y bu pobl am ganrifoedd yn edrych ymlaen at ddyfodiad y Meseia; fel y dylasai ei ddilynwyr fod wedi edrych ymlaen at ei atgyfodiad; felly y gall Cristnogion pob oes edrych ymlaen at ailddyfodiad Iesu ryw ddydd. Ŵyr neb ohonom pryd y daw, ond mae’r hyn sydd eto i ddod gymaint rhan o stori Iesu ag yw’r hyn a ddigwyddodd eisoes. Ac mae’r disgwyl hwn, a’r bywyd o wasanaeth ffyddlon y gelwir ei ddilynwyr i’w roi iddo nes y daw, yn ein hatgoffa mai Crist byw, buddugoliaethus a addolwn. A rhyw ddydd, fe wêl pawb hynny.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Mai 2023